Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd D Price yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.
|
||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, B. Jones, D. Jones, A. McPherson, S. Najmi a G. Thomas yn ogystal â Mrs. E. Heyes (Rhiant-lywodraethwr Ardal Llanelli), Mrs. K. Hill (Rhiant-lywodraethwr Ardal Dinefwr), Mrs A. Pickles (Rhiant-lywodraethwr Ardal Caerfyrddin) a Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru). |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
||||||||||||||||
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K Madge, E Morgan and B.A.L. Roberts a Mrs. V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.
Nododd y swyddogion ei fod yn adroddiad cadarnhaol yn gyffredinol a bod yr adroddiad yn cynnwys dyfyniadau drwyddi draw i gynrychioli safbwyntiau'r defnyddwyr gwasanaethau a'r sefydliadau am y gwasanaethau a ddarperir. Nodwyd bod rhai meysydd i'w gwella ac efallai y byddai'r Pwyllgor am eu hystyried wrth bennu ei flaenraglenni gwaith priodol.
Nodwyd bod yr Adran wedi rheoli gwasanaethau o fewn y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy ddarparu mwy o becynnau gofal cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys peidio â gordanysgrifio cymorth oherwydd gallai hyn gael effaith niweidiol ar allu unigolyn. Roedd hefyd systemau gwell a mwy cadarn ar gyfer gwaith ataliol gyda theuluoedd yn seiliedig ar y model signs of safety. Tynnwyd sylw at y ffaith y cafwyd gwell perfformiad y llynedd o ran sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a byddai gwelliant parhaus yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth. Roedd y meysydd eraill i'w gwella yn cynnwys lleoliadau Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl mewn cymunedau.
Nododd y swyddogion fod yr Adran wedi bod yn datblygu ei dull o weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru 'Mwy na Geiriau' i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y gwasanaeth yn anelu at fynd y tu hwnt i fodloni'r ddyletswydd statudol hon a chydnabuwyd y pwysigrwydd o gynnig dewis iaith, yn enwedig o ran gwasanaethau megis gofal dementia.
Nododd y swyddogion fod galw cynyddol am wasanaethau ar gyfer pobl 85 oed a h?n a byddai'r galw yn y maes hwn yn parhau i dyfu. Yn anochel byddai'n rhaid cael cynyddu'r gwariant ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion er mwyn ymdopi â'r galw hwn yn y blynyddoedd i ddod. Nododd yr Aelodau y dylai fod mwy o bwyslais ar y twf yn y galw ar gyfer y demograffig hyn yn yr adroddiad, oherwydd bod y twf yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Cytunodd y swyddogion y gallai'r adroddiad gynnwys rhagor o wybodaeth am broffilio demograffeg y boblogaeth. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofalwyr yn wasanaeth da a oedd yn cynorthwyo i reoli'r galw gan alluogi pobl i aros yn y gymuned. Cydnabuwyd bod angen cefnogaeth ar ofalwyr a nodwyd y byddai adolygiadau o'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |