Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Glynog Davies (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), Mr Phil Roberts (Cyngor Abertawe), Mr Ian Llywelyn (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), a Mr Gareth Morgans (Cyngor Sir Caerfyrddin).
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod. |
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2019 gan eu bod yn gywir, yn amodol ar y newid canlynol:
Nid oedd Ms O’Connor wedi ymddiswyddo, roedd wedi cael secondiad o ERW i Lywodraeth Cymru.
|
|
Cofnodion: CYTUNWYD i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019 gan eu bod yn gywir.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Cofnodion: Nid oedd dim materion yn codi o gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2019 a 3 Ebrill 2019.
|
|
DIWEDDARIAD AR RECRIWTIO ERW PDF 223 KB Cofnodion: Rhannodd Mr Geraint Rees fersiwn ddiweddaraf o'r strwythur trefniadaeth newydd â'r Pwyllgor a rhoddodd drosolwg o'r broses recriwtio. Pwysleisiwyd nad oedd rhai o'r swyddi uwch wedi'u llenwi ac roedd yn debygol y byddai angen eu llenwi drwy secondiadau tymor byr tra bod y swyddi gwag parhaol yn cael eu hail hysbysebu. Nododd Mr Rees na fyddai'r panel penodi yn penodi oni bai bod yr holl bartïon yn cytuno.
Mynegodd y Pwyllgor rywfaint o siom bod nifer o swyddi, yn enwedig swyddi uwch, yn parhau i fod yn wag a gofynnwyd a oedd y gofyniad iaith yn ffactor. Mewn ymateb, dywedodd Mr Geraint Rees nad oedd rheswm cyffredin dros yr holl swyddi gwag a nododd bod y broses recriwtio Meysydd Dysgu ac Arbenigedd wedi denu 63 o geisiadau, ac roedd 22 o'r rheiny wedi cyrraedd y rhestr fer a 12 wedi'u penodi. Fodd bynnag, nid oedd rhai o'r swyddi uwch wedi denu llawer o geisiadau, a dywedodd Mr Rees ei fod yn ymwybodol nad oedd rhai ymgeiswyr posibl wedi gwneud cais oherwydd y gofyniad iaith. Nododd Aelodau hefyd y gallai peidio â phenodi Rheolwr Gyfarwyddwr fod yn rheswm dealladwy i ymgeiswyr posibl fod yn wyliadwrus o ran gwneud cais. Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor a fyddai modd ystyried rhannu swyddi lle gallai un ymgeisydd sydd â sgiliau iaith Gymraeg ymgymryd â'r rôl am dri diwrnod yr wythnos a rhywun nad yw'n siarad Cymraeg am y ddau ddiwrnod arall. Dywedodd Mr Rees fod recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi uwch yn broblem wrth recriwtio staff addysgu yn gyffredinol. Cytunodd yr Aelodau y byddid yn ymdrin â'r mater hwn mewn gweithdy yn y dyfodol agos.
Wrth ateb cwestiwn am gamau nesaf gweithredu'r strwythur newydd, dywedodd Mr Geraint Rees y byddai'r swyddi gwag yn cael eu hail-hysbysebu yr wythnos ganlynol ac yn cynnig un cyfnod o secondiadau yn y lle cyntaf, ar ôl cael caniatâd y Cyfarwyddwyr Addysg. Wrth gydnabod y cyfnod rhybudd sy'n ofynnol ar gyfer staff addysgu uwch, nodwyd mai'r adeg gynharaf y gellid llenwi'r uwch-benodiadau yn barhaol fyddai mis Ionawr 2020.
Gofynnodd Mr Geraint Rees i'r Pwyllgor nodi bod y strwythur gweinyddol presennol yn cyd-fynd â hen fodel a bod y gwaith o ailstrwythuro'r staff presennol eisoes ar waith. Ni fyddai'r strwythur newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol, ac nid oedd unrhyw bryderon i dynnu sylw atynt.
Penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol –
5.1: derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y strwythur newydd
5.2: y dylid trefnu gweithdy i adolygu'r trefniadau iaith mewn perthynas â recriwtio staff
5.3: bod siart trefniadaeth manwl (sy'n cynnwys CV lle bo modd) yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW Nodwyd llythyr gan y Gr?p Cynghorwyr Craffu, dyddiedig 18 Ebrill, a chafodd copi o'r ymateb drafft ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor. Dywedodd Mr Geraint Rees ei fod wedi mynychu cyfarfod diwethaf y Gr?p Cynghorwyr Craffu a rhoddodd gyflwyniad i'r gr?p ar y strwythur cyllid. Roedd o'r farn bod y cyfarfod yn gadarnhaol a bod y gr?p yn awyddus i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor. Fodd bynnag, roedd yna rai problemau yn ymwneud â threfnu cyfarfodydd a derbyn llythyrau ymateb gan y Cyd-bwyllgor yn amserol. Dywedodd Mr Rees fod y gr?p wedi cymryd camau i ddatrys amseriad cyfarfodydd a ddylai datrys y broblem o ran derbyn gohebiaeth.
Llythyr gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC Dosbarthwyd llythyr gan y Gweinidog Addysg cyn y cyfarfod, a oedd yn cyfeirio at ganlyniad cyfarfod a gynhaliwyd rhwng y Gweinidog ac aelodau'r Pwyllgor ddiwedd mis Mawrth. Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r cyfarfod a dywedodd y byddai adroddiad manwl ar y mater yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.
Bu'r Aelodau hefyd yn adolygu llythyr cynnig grant ynghylch Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol a oedd yn amlinellu telerau ac amodau'r cyllid. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 drosolwg i'r Pwyllgor o'r llythyr a oedd hefyd wedi'i ddosbarthu i'r Cyfarwyddwyr Addysg rhanbarthol.
Penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol –
6.1: cytuno ar y llythyr ymateb drafft i'r Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW
6.2: llofnodi llythyr cynnig Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol
|
|
APWYNTIO CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD PDF 222 KB Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro mai dwy flynedd yw'r cyfnod ar gyfer swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor a bod y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd presennol wedi'u penodi ym mis Gorffennaf 2017.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried penodi Prif Weithredwr Arweiniol o bosibl yn y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf a chytunwyd y dylid gohirio'r broses o benodi'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.
Penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol –
7.1: gohirio penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd tan gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.
Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, dywedodd Mr Geraint Rees fod Mr Ian Budd yn gwella ar ôl salwch difrifol. Gofynnodd y Pwyllgor am i'w dymuniadau gorau am wellhad buan gael eu cyfleu i Mr Budd.
|