Lleoliad: Executive Board Member for Education and Children's Office
Cyswllt: Llinos Jenkins
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
AELODAETH FFORWM DERBYNIADAU SIR GAERFYRDDIN PDF 235 KB Cofnodion: Penderfynwyd gwneud y penodiadau canlynol i'r Fforwm Derbyniadau Addysg, am gyfnod cychwynnol o 4 blynedd, yn unol â'r cyfansoddiad a bennwyd gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 17 Medi, 2012:
Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru Y Parchedig John Cecil, Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol
Cynrychiolydd ar ran Penaethiaid Mr Gethin Richards
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEDI 2019 PDF 288 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019, gan ei fod yn gywir.
|