Agenda a Chofnodion

Moved from 4th June, Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 3ydd Mehefin, 2019 9.00 yb

Lleoliad: Ystafell 59, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

CYMERADWYAETH I WEITHREDU CYNIGION FFEDERASIWN (DAN ARWEINIAD YR AWDURDOD LLEOL) pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gyflwyno proses ar gyfer penderfynu ar gynigion i ffedereiddio ysgolion. Gan fod angen cynyddol am ystyried ffedereiddio rhwng ysgolion fel opsiwn i fynd i'r afael â materion presennol, nodwyd y byddai angen i'r Cyngor ystyried yn fanwl y broses ffedereiddio (ar gyfer cynigion a arweinir gan yr ALl) ac, yn benodol, y penderfyniadau ynghylch cynigion i ffedereiddio.

 

Roedd yr Adroddiad yn manylu ar y pwerau sydd gan awdurdodau lleol o ran cynnig ffedereiddio, y broses ffedereiddio a'r opsiynau sydd ar gael o ran penderfynu ar y cynigion. Mae'r awdurdodau lleol yn gwbl gyfrifol am gwblhau holl gamau'r broses hyd at weithredu, gan gynnwys penderfynu i fwrw ymlaen â'r broses ffedereiddio ai peidio. Nodwyd, er bod gan y Cyngor brosesau sefydledig ar waith ar gyfer penderfynu ar gynigion i ad-drefnu ysgolion, nad oedd proses o'r fath ar waith ar gyfer penderfynu ar gynigion ffedereiddio ysgolion.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol bod yn rhaid i'r Cyngor benderfynu ar broses/unigolyn i benderfynu ar ganlyniad unrhyw gynigion ffedereiddio, er y gallai'r Tîm Moderneiddio Addysg ymgymryd â'r gwaith o lunio adroddiad ffedereiddio sy'n ceisio barn y rhanddeiliaid a pharatoi adroddiad ymgynghori.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r broses arfaethedig ar gyfer penderfynu ar ganlyniad cynigion ffedereiddio ysgolion.  

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir.  Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Gors-las

(1 lle gwag - ac 1 o 1 Medi 2019 - 1 enwebiad)

Mrs M Bennett- Williams

Ysgol Gymraeg Rhydaman

(1 lle gwag ac 1 o 16 Mehefin - 2 enwebiad)

Y Cynghorydd S.M. Allen

Mr A Thomas

Llandybïe

(1 lle gwag o 13 Gorffennaf - 1 enwebiad)

Mrs E. Williams

Pentip

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs A Esney

Pwll

(1 lle gwag ac 1 o 16 Mehefin - 1 enwebiad)

Mr R. Staines

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Bryngwyn a Glanymôr

(1 lle gwag – 2 enwebiad)

Mr D.W.H. Richards

Coedcae

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs K. Bowen

Ysgol Gyfun Emlyn

(1 lle gwag o 16 Mehefin)

Mrs M. Peckham

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED MAWRTH, 2019 pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2019, gan ei fod yn gywir.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF EBRILL, 2019 pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019, gan ei fod yn gofnod cywir.