Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 16EG GORFFENNAF, 2020 PDF 280 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2020 yn gofnod cywir.
|
|
TALIADAU DIBRESWYL 2021-22 PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad oedd yn manylu ar effaith bosibl newidiadau i'r taliadau am wasanaethau dibreswyl a'r angen i daliadau gynyddu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn parhau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.
Er mwyn adennill costau yn llawn ar gyfer 2020-21, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, cynigiwyd cynyddu taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £16.50 i £16.85 (2.12%) a chynyddu'r taliadau ar gyfer Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £16.15 i £16.50 (2.17%).
Nodwyd na fyddai cynyddu taliadau o reidrwydd yn cynyddu incwm eleni oherwydd bod y swm y gall unrhyw un ei dalu yn cael ei reoli gan Asesiad Ariannol a “Cap” presennol Llywodraeth Cymru, ond efallai y bydd cynnydd bychan yn yr incwm o’r chwyddiant a gymhwysir i’r gost lawn a'r pecynnau gofal bach.
PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr drwy chwyddiant o £16.50 i £16.85 (2.12%) a chynyddu'r taliadau fesul sesiwn am Ofal Dydd a Lleoli Oedolion o £16.15 i £16.50 (2.17%) er mwyn adennill cymaint o'r costau â phosibl wrth gadw at y rheolau a fynnir gan Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac yn enwedig er mwyn symud yn agosach at Awdurdodau Lleol rhanbarthol.
|