Lleoliad: Ystafell 66, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
POLISI ÔL-OFAL YN UNOL AG ADRAN 117, DEDDF IECHYD MEDDWL 1983. PDF 279 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch y cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn llofnodi i fabwysiadu polisi ar gyfer y tair sir, dan ddarpariaethau Adran 117, Polisi Ôl-ofal, Deddf Iechyd Meddwl 1983. Adroddwyd bod y Ddeddf yn gofyn bod Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn sefydlu polisïau a gytunir ar y cyd ynghylch darparu gwasanaethau dan Adran 117, a bod y polisi presennol wedi'i baratoi ar y cyd gan y tri Awdurdod Lleol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ynghyd â Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Wrth ystyried yr adroddiad, cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at adran 11.2 ohono a chwestiynodd yr angen i gynnwys y frawddeg gyntaf ynghylch codi tâl ar ofalwyr am wasanaethau gofal cymdeithasol, ar y sail bod y polisi'n ymwneud â gwasanaethau a ddarperir dan Adran 117.
Dywedodd Pennaeth Iechyd Meddwl a Datblygiad Dysgu, pe bai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo'r polisi, yn amodol ar y newid uchod, y byddai angen i'r newid hwnnw gael ei anfon ymlaen at bartneriaid y polisi er mwyn iddynt roi ystyriaeth iddo.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar ddileu'r frawddeg gyntaf o ran 11.2 o'r polisi, fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn llofnodi polisi'r tair sir ynghylch Polisi Ôl-ofal Adran 117, a luniwyd yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983. |
|
CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12FED MAI, 2015. PDF 199 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mai 2015 yn gofnod cywir. |