Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 7fed Gorffennaf, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ms Gaynor Morgan  E-bost: GMorgan@carmarthenshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

DECHRAU'N DEG (ADRAN ADDYSG A PHLANT) ADRODDIADAU'R SWYDDOGION MONITRO AC EITHRIAD ADRAN 151/ DARPARIAETH GOFAL PLANT DECHRAU'N DEG pdf eicon PDF 289 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wybodaeth gefndir am wasanaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg a oedd yn darparu gofal plant sesiynol rhad ac am ddim ar gyfer plant 2-3 oed mewn wardiau Dechrau'n Deg ledled y sir, am 2.5 awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos, am hyd at 42 wythnos y flwyddyn.

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Prosiectau Dechrau'n Deg wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod adroddiad eithriadau wedi cael ei gyflwyno i Swyddog Adran 151 yr Awdurdod ym mis Ebrill 2016, yn gofyn am ganiatâd i gynnig contract i'r darparwr meithrin a ddaeth yn 2il, yn y cyfleuster newydd pwrpasol yn Ysgol Pen-bre, yn dilyn cau lleoliad y darparwr a ddaeth yn 1af, nad yw'n gweithredu'n fasnachol mwyach, a gafodd ei benodi drwy gyfrwng cystadleuaeth agored a thryloyw. Gofynnwyd am gymeradwyaeth hefyd i'r darparwr yn yr 2il safle gael cynnig y contract i gyd-fynd â hyd contract yr adnewyddiad oedd ar ddod ac ailgomisynu contractau gofal plant presennol eraill (hyd at 30 Medi 2020), ond bod y contract yn cael ei ymestyn bob blwyddyn yn unig (yn amodol ar argaeledd arian grant). Yn ogystal, gofynnwyd am ganiatâd iddo gael cyfle i adolygu ei gostau i ddarparu gwasanaethau Dechrau'n Deg, o'r cyfleuster gofal plant Dechrau'n Deg newydd yn Ysgol Gynradd Pen-bre, (Eithriad a Hawlildiad i Ofynion y Gystadleuaeth – Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau, Cymal 5.3).

 

Roedd y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro eisoes wedi rhoi cymeradwyaeth petrus i'r eithriad hwn ar 09/06/2016 ac yn unol ag Adran 5.3 Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol bellach yn cael ei ofyn i'w awdurdodi. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r eithriad a'r hawlildiad i ofynion y Gystadleuaeth o ran y Gwasanaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

3.

GWERTHU TIR SY'N FFINIO AR YSTAD DDIWYDIANNOL HENDY-GWYN AR DAF pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar Werthu'r Tir ger Ystâd Ddiwydiannol Hendy-gwyn ar Daf i Whitland Engineering Ltd a oedd yn dymuno prynu'r tir ger ei safle er mwyn ehangu ei gyfleuster presennol a chreu swyddi newydd yn y broses.

 

PENDERFYNWYD cytuno o ran egwyddor i 'werthiant heb fod drwy'r farchnad' ynghylch y tir ger Ystâd Ddiwydiannol Hendy-gwyn ar Daf i Whitland Engineering Ltd yn amodol ar delerau ac amodau i'w cytuno a'u cymeradwyo gan y Prisiwr Dosbarth.

 

 

4.

CYMERADWYO A LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 5ED MAI, 2016 pdf eicon PDF 346 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod y cofnod penderfyniadau o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2016 yn gywir, yn amodol ar newid cais 6026598 yng Nghofnod 6.2  i 60262598.

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEMAU GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

6.

DILEU ÔL-DDYLEDION CYN-DENANTIAID ASIANTAETH GOSOD TAI CYMDEITHASOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid tai cymdeithasol, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei baratoi'n unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion cyn-denantiaid a oedd yn arfer byw mewn tai a oedd yn cael eu gosod drwy asiantaeth gosod tai cymdeithasol y Cyngor. Yn ôl Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, roedd yn ofynnol i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, awdurdodi dileu unrhyw ôl-ddyledion gan denantiaid unigol, a oedd yn fwy na £1,500.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr atodlen o achosion oedd wedi'u cyflwyno i'w dileu, yr oedd yr holl achosion yn unol â gofynion y polisi.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.