Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 3ydd Mawrth, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 11EG IONAWR, 2016 pdf eicon PDF 350 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11eg Ionawr, 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad hwn yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid. Yr oedd y polisi ôl-ddyledion o ran cyn-denantiaid yn nodi'n glir y meini prawf yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy wrth benderfynu a oedd yn annarbodus cymryd camau pellach er mwyn ceisio casglu dyled gan gyn-denant.

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr atodlen o achosion oedd wedi'u cyflwyno i'w dileu, yr oedd yr holl achosion yn unol â gofynion y polisi.

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

5.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol.Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol. Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar Gyfrifon Treth Gyngor, cyfrifon mân ddyledion a chyfrifon Ardrethi Annomestig oedd wedi eu clustnodi'n rhai anadferadwy. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon hyn.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu fel rhai anadferadwy. 

 

6.

TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH DDEWISIOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol diweddar trethdalwyr unigol a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.    Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried dau gais am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD dyfarnu gostyngiad o 50% o ran y swm cyfredol oedd yn daladwy yn achos ceisiadau cyfeirnodau 80019871 ac 80020344, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

7.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth oedd yn fodd i adnabod unigolion oedd yn agored i dalu'r Dreth Gyngor.   Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol nad oedd yn eiddo i'r cyhoedd ac na fyddai'n cael ei datgelu fel rheol i drydydd partïon.  Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.

 

PENDERFYNWYD

 

7.1

dyfarnu gostyngiad o 50% o ran y 3 o flynyddoedd ariannol sef 2010/11, 2011/12 a 2012/13 yn achos ceisiadau cyfeirnodau 60270865 a 60270859;

7.2

gwrthod cais cyfeirnod 60263346; 

 

7.3

oherwydd yr amgylchiadau eithriadol y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, caniatáu 50% o ddisgownt mewn perthynas â chais cyfeirnod 60312252.