Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 11eg Ionawr, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 5ED TACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 377 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 5ed Tachwedd, 2015 yn gofnod cywir.   

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad hwn yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.   Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid.  Yr oedd y polisi ôl-ddyledion o ran cyn-denantiaid yn nodi'n glir y meini prawf yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy wrth benderfynu a oedd yn annarbodus cymryd camau pellach er mwyn ceisio casglu dyled gan gyn-denant. 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr atodlen o achosion oedd wedi'u cyflwyno i'w dileu, yr oedd yr holl achosion yn unol â gofynion y polisi.

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

5.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN OL DISGRESIWN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). 

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth oedd yn fodd i adnabod unigolion oedd yn agored i dalu'r Dreth Gyngor.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol nad oedd yn eiddo i'r cyhoedd ac na fyddai'n cael ei datgelu fel rheol i drydydd partïon.  Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno ym mis Ebrill 2004 gan roi pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol roi gostyngiadau neu leihad a benderfynwyd yn lleol, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol o ran y Dreth Gyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1

rhoi gostyngiad o 50% am y cyfnod rhwng 1af Ebrill, 2010 a 31ain Mawrth, 2015 yn achos cais cyfeirnod 60303963;

5.2

gwrthod ceisiadau 50018518 a 60273054; 

 

5.3

oherwydd yr amgylchiadau eithriadol y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, rhoi gostyngiad pellach o 50% yn achos ceisiadau cyfeirnodau 60252206 a 60239291, a rhoi gwybod i'r ymgeisydd fod y gostyngiad am un flwyddyn yn unig;

 

 

 

 

 

 

6.

TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH DDEWISIOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). 

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol diweddar trethdalwyr unigol a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.    Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried dau gais am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gostyngiad o 50% yn achos ceisiadau cyfeirnodau 80014557 ac 80016957 o ran eu rhwymedigaeth flynyddol net gyfredol.