Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 5ed Tachwedd, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 16EG HYDREF, 2015. pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16eg Hydref 2015 yn gofnod cywir.

 

3.

ADODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

FFERM BRYNGWYN, LLANGADOG.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, peidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn ymwneud ag unigolyn penodol, gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy oedd unigolyn a gwybodaeth ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf)

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith y byddai datgelu'r adroddiad yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor o ran trafod telerau.  Hefyd roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag aelodau unigol o'r cyhoedd ac a ddatgelai pwy oeddynt a gwybodaeth ynghylch materion ariannol a materion busnes yr unigolion hynny. Felly ar ôl pwyso a mesur a rhoi ystyriaeth i amgylchiadau'r achos, barnwyd bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a oedd yn yr adroddiad.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion cais a oedd wedi dod i law am brynu Bryngwyn Farm, Llangadog oedd yn rhan o Ystad Danyrallt. 

 

Roedd dyfodol Bryngwyn Farm, gan gynnwys y posibilrwydd o'i gwerthu, wedi cael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 15fed Ionawr, 2015 (gweler cofnod 12) ynghyd â ffermydd eraill ar Ystad Danyrallt.  Penderfynodd y Bwrdd Gweithredol gadw ac ailosod y daliad pan fyddai'r tenant yn ildio'r cytundeb wrth ymddeol.

 

PENDERFYNWYD bod Bryngwyn Farm, Llangadog yn cael ei chadw a'i hailosod.

 

 

5.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, peidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol.Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.    Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, bernid bod y budd i'r cyhoedd o gadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a luniwyd yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion cyn-denantiaid oedd yn fwy na £1,500. Roedd y polisi ôl-ddyledion o ran cyn-denantiaid yn nodi'n glir y meini prawf yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy wrth benderfynu a oedd yn annarbodus cymryd camau pellach er mwyn ceisio casglu dyled gan gyn-denant.

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr atodlen o achosion a gyflwynwyd i'w dileu, ac roedd yr holl achosion yn bodloni gofynion y polisi.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, fel rhai nad oedd modd eu hadennill.

 

 

 

6.

DILEU TALIADAU GWASANAETH LESDDALIAD - HEOL WALLASEY.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, peidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a luniwyd yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu taliadau am wasanaethau eiddo prydlesol mewn perthynas ag eiddo yn Heol Wallasey, Rhydaman. 

PENDERFYNWYD dileu'r dyledion yn ymwneud â thaliadau am wasanaethau eiddo prydlesol mewn perthynas ag eiddo yn Heol Wallasey, Rhydaman, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

7.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN OL DISGRESIWN.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, peidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth oedd yn datgelu pwy oedd unigolion sy'n agored i dalu'r Dreth Gyngor. Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol nad oedd yn eiddo i'r cyhoedd ac na fyddai'n cael ei datgelu fel rheol i drydydd partïon.  Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, bernid bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno ac wedi dod i rym o Ebrill 2004 a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

7.1

caniatáu ymestyn yr eithriad am y flwyddyn ariannol gyfredol mewn perthynas â chais cyfeirnod 60277834;

7.2

gwrthod y ceisiadau canlynol:-

 

cyfeirnod 60303791;

cyfeirnod 60304449;

cyfeirnod 60297747;

cyfeirnod60158589;

7.3

oherwydd yr amgylchiadau eithriadol y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, caniatáu 25% o ddisgownt ychwanegol mewn perthynas â chais cyfeirnod 60276855;

7.4

caniatáu 50% o ostyngiad yn y Dreth Gyngor am y cyfnod 21ain Mai, 2015 tan 31ain Mawrth, 2016 (neu'r dyddiad pryd y bydd yr anghytundeb ynghylch perchnogaeth yn cael ei ddatrys, os yw'n gynharach) mewn perthynas â chais cyfeirnod 60186927.

 

 

 

 

 

8.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, peidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol.Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol. Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, bernid bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar gyfrif gordaliad budd-dal tai a nodwyd fel un nad oedd modd ei adennill. Roedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliad. Felly roedd yn cael ei ystyried yn briodol dileu'r ddyled hon yn erbyn darpariaeth ddarbodus y Cyngor ar gyfer drwgddyledion. 

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrif y manylwyd arno yn yr adroddiad yn cael ei ddileu fel un nad oedd modd ei adennill.