Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 16eg Hydref, 2015 2.00 yp

Lleoliad: County Hall, Carmarthen

Cyswllt: Mr Kevin Thomas 

Nodyn: 01267 224027 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiannau Personol

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol</AI1>

 

2.

LLOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD OEDD WEDE'I GYNNAL AR 7FED MEDI 2015 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 7fed Medi, 2015, gan ei fod yn gywir</AI2>

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

CARTREF GOFAL PRESWYL GLANMARLAIS, LLANDYBIE

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf)

 

Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith y byddai datgelu'r adroddiad yn tanseilio dyletswydd statudol y Cyngor i sicrhau'r pris gorau posibl wrth werthu'r ased hon.  Wedi pwyso a mesur y mater, a rhoi sylw i amgylchiadau'r achos, roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion ar gyfer gwerthu Cartref Gofal Preswyl Glanmarlais gynt, yn Llandybïe, nad oedd ei angen ar y Cyngor bellach.

 

PENDERFYNWYD cynnig Cartref Gofal Preswyl Glanmarlais i'w werthu, a marchnata'r eiddo ar sail heb gyfyngiadau, yn unol â chyngor yr asiantiaid lleol. </AI4>

 

5.

RHES Y FFOWNDRI, RHYDAMAN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf)

 

Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r  ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol oedd yn ymwneud â gwerth tebygol yr eiddo, ac y byddai ei datgelu'n tanseilio gallu'r Cyngor i sicrhau cynigion amgen uwch cyn cyfnewid contractau.  Yn sgil hynny, roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Baragraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf 1972 yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran datgelu'r adroddiad.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion ar gyfer gwerthu tir o eiddo'r Cyngor yn Rhes y Ffowndri, Rhydaman, nad oedd ei angen ar y Cyngor bellach.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r Cyngor fwrw ymlaen â gwerthu'r tir yn Rhes y Ffowndri, Rhydaman, i'r cynigydd oedd yn derbyn sylw yn yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys cymal 'prynu'n ôl'