Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 3ydd Medi, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell 65, Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

2.

POLISI GOSODIADAU LLEOL - CWRT WADDLE, LLANELLI

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cynigion i gyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y 13 byngalo newydd, hunangynhwysol a ddarperir yng Nghwrt Waddle, Llanelli yn sgil addasu hen gartref gofal preswyl Sant Paul, ac a gyllidir trwy gyfuniad o Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru a Chronfa Cyfalaf Tai y Cyngor. Roedd elfen Llywodraeth Cymru o'r cyllid yn benodol ar gyfer osgoi derbyn pobl i'r ysbyty'n ddiangen, atal oedi cyn rhyddhau pobl o'r ysbyty a chefnogi pobl h?n, yn enwedig y bregus a'r oedrannus, i barhau'n annibynnol.

 

Roedd y Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei gyflwyno felly i sicrhau nid yn unig fod gofynion grant Llywodraeth Cymru'n cael eu bodloni ond bod y Cyngor yn sicrhau bod y datblygiad newydd yn cael yr effaith fwyaf o ran diwallu anghenion pobl yn y dyfodol a bod y Cyngor yn anelu at flaenoriaethu dyrannu'r tai newydd i bobl, yn y drefn ganlynol:

 

1.     Pobl a oedd yn yr ysbyty neu mewn lleoliad dros dro mewn cartref gofal ac nad oeddent yn gallu dychwelyd i'w cartref oherwydd cynnydd sylweddol yn eu hanabledd neu eu hanghenion gofal.

 

2.     Pobl a oedd ar y Gofrestr Tai Hygyrch (AHR) ac:-

Ø  na allent gael mynd i mewn i'w cartref presennol neu ei adael yn ddiogel; 

Ø  na allent gyrchu cyfleusterau hanfodol yn y cartref (y gegin, yr ystafell ymolchi),

Ø  bod risg sylweddol i ofalwyr wrth gyflawni eu gorchwylion codi a chario mewn perthynas â'r aelod anabl o'r teulu,

Ø  a oedd yn defnyddio cadair olwyn yn barhaol neu a oedd yn aros am gadair olwyn drwy'r Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn,

Ø  yr oedd amharu mawr ar eu gallu i symud,

Ø  a oedd yn anabl ac y byddai'n rhaid addasu eu cartref presennol.

 

3.     Pe na ellid dyrannu tai i bobl a oedd yn bodloni'r meini prawf uchod, er bod hynny’n annhebygol, byddid yn ystyried amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr yn unol â'r Polisi ynghylch y Gofrestr Dewis Tai cyffredinol ar gyfer dyrannu byngalos.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'r polisi'n cael ei weithredu yn dilyn cwblhau'r broses ymgynghori a'i gymeradwyo gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol. Wedi hynny, byddai’n weithredol am 12 mis i gychwyn, ac yna byddai asesiad yn cael ei gynnal o'i effaith a hefyd i ganfod a oedd ei amcanion yn cael eu cyflawni.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, pe bai angen gwneud dyraniad o dan bwynt 3 uchod, y byddai'n cael ei wneud yn unol â'r Polisi ynghylch y Gofrestr Dewis Tai ac yn cael ei gyfyngu i'r rhai 55 oed neu h?n.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer                        13 byngalo newydd yn Cwrt Waddle, Llanelli.

 

3.

DERBYN COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 19EG MEHEFIN 2015 pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg Mehefin 2015 i nodi ei fod yn gywir.

 

 

 

4.

DERBYN COFNODION Y CYFARFOD AR Y CYD AELODAU'R BWRDD GWEITHREDOL AR GYFER ADNODDAU A THAI A GYNHALIWYD AR Y 29AIN MEHEFIN 2015 A 23AIN GORFFENNAF 2015 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion penderfyniadau Cyfarfodydd ar y Cyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau a gynhaliwyd ar 29ain Mehefin a 23ain Gorffennaf 2015 i nodi eu bod yn gywir.