Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 7fed Medi, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell 65 - Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

AMLINELLU CYNLLUN AR GYFER ADOLYGU EFFEITHIOLRWYDD CYNLLUNIAU GOSOD LLEOL pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu cynllun i adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Gosod Lleol ac a oedd yn cynnwys rhestr o'r polisïau gosod lleol sydd ar waith ar hyn o bryd, y prif reswm dros eu cyflwyno ac amserlen arfaethedig ar gyfer eu hadolygu. 

 

Esboniodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, yn sgil y canllawiau a luniwyd yn 2016 fel rhan o Ddeddf Tai (Cymru), ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol adolygu eu polisïau gosod lleol yn rheolaidd er mwyn sicrhau y bodlonir gofynion y canllawiau.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yn rhaid i awdurdodau lleol fod yn fodlon bod ganddynt dystiolaeth glir o'r angen cyn cyflwyno polisïau gosod lleol.


Dywedodd y Pennaeth Tai wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod wyth polisi gosod lleol wedi'u mabwysiadu ers 2011 a bod angen eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn briodol.  Byddai'r adolygiad yn cynnwys mesur effeithiolrwydd pob polisi a fyddai'n golygu ymgynghori'n briodol â phartneriaid, tenantiaid ac aelodau etholedig, ac felly roedd angen dull gweithredu cynlluniedig.

 

Yn ogystal, mae'r polisi ynghylch ward Ty-isa yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ar y sail ei fod wedi bodoli hiraf a'i fod yn cynnwys y nifer mwyaf o eiddo. Byddai'r gwaith yn darparu gwybodaeth ar gyfer ceisiadau a dderbynnir gan aelodau lleol i bolisïau gosod lleol gael eu hystyried mewn perthynas â wardiau Glanymôr a Llwnhendy.

 

Nododd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai tystiolaeth ynghylch y meini prawf penodedig yn seiliedig ar ddata o'r ystod eang o ffynonellau sydd ar gael ac y byddai adroddiadau ar yr adolygiadau yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd yr Aelod priodol o'r Bwrdd Gweithredol.

 

Argymhellwyd bod y polisïau gosod lleol presennol yn cael eu hadolygu yn unol â'r rhaglen a amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

2.1       Derbyn yr adroddiad a oedd yn amlinellu cynllun ar gyfer adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Gosod Lleol;

 

2.2       Cymeradwyo'r rhaglen adolygu mewn perthynas â Pholisïau Gosod Lleol presennol, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

3.

LLOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6 MAWRTH, 2017 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 299 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2017 yn gofnod cywir.