Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 5ed Hydref, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Chamber, County Hall, Carmarthen

Cyswllt: Martin S. Davies  E-bost: MSDavies@carmarthenshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.W. Jones.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CYNLLUN GWELLA 2016/17 pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar sut yr oedd pob swyddogaeth graffu'n perfformio mewn perthynas â'r camau gweithredu a'r mesurau yng Nghynllun Gwella 2016/17 yr Awdurdod, fel yr oedd ar 30ain Mehefin 2016. 

 

Cytunodd y Rheolwr Dros Dro Datblygu Economaidd, mewn ymateb i ymholiad, i geisio eglurhad ynghylch pam nad oedd ffigyrau dadansoddi y Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Plant yn creu cyfanswm perffaith.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD ADRANNOL CYNLLUN GWELLA 2016/17 pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Monitro Perfformiad Adrannol Cynllun Gwella 2016/17 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar berfformiad Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol yn Chwarter 1 [1af Ebrill - 30ain Mehefin] 2016/17.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·        Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr oedi sylweddol wrth ymateb i geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth eglurodd y Rheolwr Datblygu Economaidd wrth y Pwyllgor fod llawer o'r ceisiadau'n gymhleth, ac yn aml yn gofyn am ddata o nifer fawr o agweddau ar yr Awdurdod ac o nifer o flynyddoedd blaenorol. Ychwanegodd y byddai'r targed yn cael ei adolygu yng ngoleuni nifer y ceisiadau sy'n dod i law;

 

·        Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, mewn ymateb i ymholiad, i roi manylion i'r Aelodau am gynigion presennol Llywodraeth Cymru yn sgil tynnu Cynllun Rhyddhad (Ardrethi) Manwerthu Cymru yn ei ôl; 

 

·        Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai'r dull ar y cyd gan adeiniau'r Gwasanaethau Stryd a'r Gwasanaethau Adeiladau ar gyfer cael cerbydau gwagio cwteri a charthffosiaeth yn cael effaith ar y gwasanaeth y mae'r fath gerbyd yn ei ddarparu. Dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael, mai dim ond un agwedd oedd hwn ar sut mae'r adeiniau uchod yn cydweithio i wella'r darpariaethau presennol a chyflawni arbedion effeithlonrwydd ond y byddai'n gofyn am y sicrwydd hwnnw gan y gwasanaeth dan sylw;

 

·        Cytunodd swyddogion i gael gwybod gan yr Is-adran Gwasanaethau Etholiadol i ba raddau oedd peidio â chofrestru i bleidleisio yn broblem yn Sir Gaerfyrddin;  

 

·        Mewn ymateb i ymholiad yn deillio o 'Gam Gweithredu 12007' dywedodd Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y byddai Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn cwrdd yn fuan i adolygu'r newidiadau yr oedd wedi eu hargymell ers iddo gael ei sefydlu ac ystyried a oedd angen unrhyw welliannau. Yn ogystal cytunwyd i gyflwyno sylw i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad y dylai'r cyfeiriad at sicrhau bod y Cyngor yn fwy agored a thryloyw gynnwys 'cynhwysiad' hefyd;

 

·        Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau TGCh fod ei wasanaeth wedi ymgysylltu â Chyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a staff i ganfod sut y gallai TGCh ddiwallu anghenion eu gwasanaeth orau. Hefyd, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai Strategaeth Trawsnewid Digidol newydd yn cael ei datblygu dros y 6 mis nesaf ynghyd ag ymgysylltu'n helaeth ymhellach â phob maes gwasanaeth, aelodau etholedig a phartneriaid ac y byddai'r strategaeth yn cyd-fynd â'r Strategaeth Gorfforaethol i sicrhau gweithlu symudol mwy ystwyth;

 

·        Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wrth y Pwyllgor nad oedd y trefniant gweithio ar y cyd arfaethedig â Chyngor Sir Penfro ynghylch materion TGCh yn symud yn ei flaen ar hyn o bryd a bod Cyngor Sir Penfro wedi penodi ei Bennaeth TGCh ei hun.  Fodd bynnag, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn dal i fod yn bartner sy'n barod i gydweithio. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

7.

STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth ddrafft i hyrwyddo'r Gymraeg yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei chyhoeddi fel rhan o Safonau'r Gymraeg.  Roedd y Strategaeth, a oedd wedi cael ei datblygu ar y cyd â Fforwm Strategol yr Iaith Gymraeg yn y Sir, yn gyfle i'r Awdurdod weithio a rhannu arferion gorau gyda sefydliadau eraill ledled y sir drwy Fforwm Strategol yr Iaith Gymraeg.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Strategaeth ddrafft:

·       Hysbyswyd yr Aelodau fod yr Awdurdod eisoes yn cydweithio ag awdurdodau lleol cyfagos ynghylch agweddau ar y strategaeth;

 

·       Awgrymwyd, ar wahân i'r Strategaeth uchod a oedd yn ymwneud â'r Gymraeg, y dylid ystyried y posibilrwydd o gyflwyno strategaeth ar wahân a fyddai'n annog pobl oedd wedi gadael Cymru i ddychwelyd.  Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth y byddai strategaeth o'r fath yn cael croeso ond bod angen rhagor o ymchwil i'r rhesymau pam y mae pobl wedi symud i ffwrdd yn y lle cyntaf ac y byddai hyn yn flaenoriaeth yn ystod y 18 mis cyntaf ar ôl mabwysiadu'r Strategaeth;

 

·       Mynegwyd pryder bod y Strategaeth wedi'i chyfeirio'n benodol at y sector cyhoeddus yn hytrach na'r sector preifat.  Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth fod llawer o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin yn gweithredu'n ddwyieithog a bod pwyslais mawr ar weithio mewn partneriaeth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r fersiwn drafft o'r Strategaeth.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro a amlinellai'r sefyllfa gyllidebol ynghylch blwyddyn ariannol 2016/17 fel yr oedd ar 30ain Mehefin 2016. Roedd yr adroddiad  yn cynnwys:

 

·     Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod (Atodiad A);

·     Cyllideb Refeniw Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol (Atodiad B);

·     Monitro Rhaglen Gyfalaf Gorfforaethol 2016/17 (Atodiad C);

·     Monitro Rhaglen Gyfalaf Gorfforaethol 2016/17 - y prif amrywiannau a

·     Rhaglen Gyfalaf Adran y Prif Weithredwr a'r Adran Adnoddau 2015/16 (Atodiad D).

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr arbedion aros galwad wedi eu nodi yn dilyn adolygiad gan y tîm TIC [Trawsnewid i Wneud Cynnydd] a oedd wedi canfod bod rhai gweithwyr wedi bod yn derbyn taliadau aros galwad yn unol â'u dyletswyddau ers nifer o flynyddoedd ond nad oeddent byth wedi cael galwad i fynd allan;

 

·       Cyfeiriwyd at y costau oedd yn gysylltiedig â phecynnau gwell o ran dileu swydd yn wirfoddol mewn ysgolion yr oedd yn rhaid i'r Cyngor dalu amdanynt a nodwyd bod y dewisiadau yn ymwneud â rheoli'r costau a'r posibilrwydd o rannu rhywfaint o'r gost ag ysgolion yn cael eu hystyried;

 

·       Mynegwyd pryder bod rhywfaint o'r tanwariant o £632,000 mewn perthynas â chartrefi gofal ychwanegol wedi cael ei ddefnyddio i brynu'r Neuadd Sirol, Caerfyrddin yn hytrach na'i wario ar ofal cymdeithasol. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod £225,000 o'r swm hwn wedi cael ei drosglwyddo i'r diben hwnnw yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i brynu'r adeilad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1af Ebrill 2016 - 30ain Mehefin 2016 a oedd yn nodi gweithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016-17 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 23ain Chwefror 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

 

 

10.

PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau am flwyddyn y cyngor 2015/16 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith y Pwyllgor gan gynnwys:-

·       Golwg Gyffredinol ar y Rhaglenni Gwaith Craffu

·       Y materion allweddol a ystyriwyd

·       Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu Eraill neu ganddynt

·       Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd

 

Cytunodd Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymateb i sylw, i roi manylion i'r Pwyllgor am Flaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol bob chwarter.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Tachwedd, 2016.

 

12.

COFNODION pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 9fed Mehefin 2016 gan eu bod yn gywir.