Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Gwener, 11eg Ionawr, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans a J. Prosser.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Davies

 

6 - Cynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2019/22;

Ei chwaer yng nghyfraith yw'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol.

K. Lloyd

 

 

4 - Ymgynghoriad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 – 2021/22

Ei nith yn Ofalwr Cysylltu Bywydau;

K. Madge

4 - Ymgynghoriad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 – 2021/22

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 hyd 2021/22 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 19 Tachwedd 2018. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018. Dywedwyd bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn well na'r hyn a ddisgwylid ond y byddai'r gostyngiad ar setliad y flwyddyn bresennol yn cael effaith negyddol sylweddol ar adnoddau'r Cyngor o ystyried ffactorau megis chwyddiant, newidiadau demograffig a'r galw am wasanaethau.

 

Roedd y cynigion ynghylch y gyllideb, fel y cyflwynwyd yn yr adroddiad, yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion a gyflwynwyd, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yn y cynnig arbedion 2020-21, a 2021-22. Mae angen nodi rhagor o arbedion costau o tua £9 miliwn a/neu byddai angen cytuno ar gynnydd mawr yn nhreth y cyngor er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys ym mhob un o'r tair blynedd. O ystyried maint y bwlch yn y gyllideb a ragwelwyd, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi cynyddu o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig blaenorol i 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, sy'n sicrhau rhywfaint o liniaru o ran y cynigion arbedion.

Diolchwyd i'r swyddogion am eu gwaith o ran llunio'r adroddiad a'r atodiadau.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i ymholiad, y byddai'n barod, drwy Un Llais Cymru, i ddarparu cymorth o ran unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar y cynghorau cymuned ynghylch rheoli cyllideb;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol i gadarnhau a oedd yr Uned Pridiannau Tir wedi adennill TAW y ffioedd chwiliadau;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol, y byddai, yn y dyfodol, yn cynnwys yn ei adroddiad cwestiynau perthnasol a godwyd a'r atebion a roddwyd yn y sesiynau ymgynghori ar y gyllideb sy'n cynnwys Cynghorwyr cyn y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau;

·         Ailadroddwyd Pryderon ynghylch goblygiadau economaidd a chyllidebol posibl BREXIT;

·         Cyfeiriwyd at y swyddi y gellid eu colli o ganlyniad i arbedion effeithlonrwydd a sgil effaith hyn ar yr economi leol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau.

 

5.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2019/20-2023/24 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhaglen gyfalaf bum mlynedd a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 17 Rhagfyr 2018 ar gyfer ymgynghori yn ei chylch. Nodwyd y byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at adroddiad terfynol y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w ystyried ym mis Chwefror, 2019. Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn cynnig gwariant cyfalaf o ryw £260m dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd y cynigion cyllido cyfredol yn cynnwys cyllid allanol o £128m. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y setliad dros dro a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £9.437 miliwn ar gyfer yr Awdurdod yn 2019-20. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth o £5.867 miliwn a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £3.570 miliwn. I grynhoi, sefyllfa gyffredinol y rhaglen gyfalaf oedd ei bod yn cael ei chyllido am y 5 mlynedd rhwng 2019/20 a 2023/24. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif a fyddai'n para tan 2024, yn sgil newid y gyfradd ymyrryd yn sylweddol o 50% i 65% ar gyfer ysgolion yn gyffredinol ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig. Roedd hyn yn rhoi cyfle i'r awdurdod ddarparu rhagor o ysgolion o fewn y rhaglen Band B sydd gwerth £129.5 miliwn, y mae'n ariannu £70m ohono.

Nodwyd bod hyn hefyd yn cynnwys cynlluniau'r Fargen Ddinesig ar gyfer y Pentref Llesiant a'r Egin. Nodwyd hefyd bod Ardal Llanelli a Chanolfan Hamdden Llanelli yn elfennau allweddol o'r Pentref Llesiant.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i ymholiadau a phryderon ynghylch dyfodol y cynllun Pentref Llesiant yn dilyn y gwaharddiadau diweddar ym Mhrifysgol Abertawe, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Cytundeb Cydweithio wedi ei derfynu, fel y rhoddwyd gwybod i'r Cyngor ar 12 Rhagfyr 2018, a bod swyddogion yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe i gyflwyno model cyflawni arall a fydd yn sicrhau y bydd y Cyngor ei hun yn hwyluso'r buddsoddiad preifat sydd ei angen. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau nad oedd risgiau ariannol ar gyfer yr Awdurdod ac roedd yr unig wariant wedi cael ei ddefnyddio. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i roi gwybod i aelodau'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau pellach drwy'r e-bost;

·         Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod 'Benthyca Darbodus' yn cyfeirio at fenthyca heb gymorth a ariennir yn uniongyrchol gan yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1 gymeradwyo'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd 2019/20 - 2023/24;

 

5.2 cyflwyno adroddiad diweddaru ynghylch y cynllun Pentref Llesiant yn y cyfarfod nesaf.

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL GWASANAETHAU CORFFORAETHOL 2019/2022 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.)

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2019-22 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i gwestiwn, fod yr anawsterau a gafwyd wrth recriwtio staff caffael profiadol a / neu gymwys yn bennaf oherwydd nad oedd digon o arbenigwyr caffael yn y farchnad swyddi. Roedd yr Adran yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a oedd yn cynnal cyrsiau yn y maes hwn. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r Cynllun.

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL A'R RHAGLEN SWYDDFEYDD pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 6 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2016, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau a fanylai ar y cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran y camau a nodwyd yn y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol a'r rhaglen at y dyfodol ar gyfer yr Ystad Weinyddol yng ngoleuni mabwysiadu egwyddorion gweithio ystwyth. Yn ogystal â'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol, roedd y Rhaglen Swyddfeydd wedi cael ei diwygio'n ddiweddar ac wedi mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion megis perfformiad y portffolios, materion cynaliadwyedd a phrif feysydd newid. Un o'r prif feysydd fyddai goblygiadau mabwysiadu egwyddorion gweithio ystwyth. 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiadau:

·         Dywedodd y Pennaeth Eiddo, mewn ymateb i gwestiwn, fod y Cyngor yn ymroi i sicrhau hyfywedd canol trefi, a byddai'n parhau i gadw neu ddod o hyd i swyddfeydd yn y lleoliadau hyn lle bo hynny'n bosibl;

·         O ran darparu cymorth ychwanegol i gynghorau cymuned a oedd wedi cymryd cyfrifoldeb dros asedau a drosglwyddwyd o'r Cyngor Sir, roedd yn annhebygol y byddai rhagor o gyllid ar gael a phwysleisiwyd bod rhai cynghorau cymuned bob amser wedi bod yn gyfrifol am gynnal a chadw asedau o'r fath;

·         Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod y Cynllun Buddsoddi Gweithio Ystwyth wedi'i gyflawni o fewn y gyllideb hyd yn hyn. Fodd bynnag, dywedwyd bod angen buddsoddi'n sylweddol yn Neuadd y Sir ac ni fynegwyd llawer o ddiddordeb mewn rhai o'r adeiladau yng Nghaerfyrddin yr oedd yr Awdurdod wedi'u gwacáu a'u rhoi ar werth. Nodwyd bod rhai o'r adeiladau a oedd wedi cael eu gwerthu yn parhau'n wag a heb gael eu hailddatblygu;

·         Nodwyd bod T?'r Nant, Trostre, ar y farchnad fel rhan o bortffolio ailddatblygu ehangach;

·         Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod mentrau ynni adnewyddadwy megis paneli haul a thyrbinau gwynt yn parhau i gael eu harchwilio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiadau.

 

8.

EITEMAU AR GYFER DYFODOL pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Ddatganiad Polisi Tâl 2019 a gynhwyswyd ym Mlaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol a chytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol i gadarnhau a oedd yn briodol i ddod gerbron y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 6 Chwefror 2019.

 

9.

COFNODION - 5 RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 yn gofnod cywir.