Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Iau, 14eg Mehefin, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D.C. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

5 - Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch - Diwedd Blwyddyn 2017/18

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - DIWEDD BLWYDDYN 2017/18 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 7.2 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2018, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu data am absenoldeb salwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18. Roedd y data yn dangos y bu gostyngiad cyffredinol ers 2016/17 o ran nifer y dyddiau gwaith a gollwyd ar gyfer pob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (CALl), o 10.76 diwrnod yn 2016/17 i 10.15 diwrnod yn 2017/18. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni chyrhaeddwyd y targed o 9.6 diwrnod ar gyfer pob gweithiwr CALl a osodwyd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol i hybu gostyngiad mewn absenoldeb. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am y mentrau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r gwaith o reoli presenoldeb mewn ysgolion ac adrannau'r cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys:

·         Cyflwyno Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion ym mhob ysgol gynradd;

·         Cynhadledd Rheoli Presenoldeb Cadarnhaol i holl Benaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu Sir Gaerfyrddin;

·         Parhau i gyflwyno'r rhaglen datblygu Rheoli Presenoldeb i holl Benaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu;

·         Sefydlu'r Fforwm Herio ac Adolygu Presenoldeb, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Arweinydd;

·         Rheoli gwybodaeth, meincnodi a threfnu data yn well;

·         Llofnodi siarter "Dying to Work" Cyngres yr Undebau Llafur, sydd â'r nod o gefnogi gweithwyr â salwch angheuol;

·         Cynnal achrediad y Cyngor fel Cyflogwr sydd â Hyder Mewn Pobl Anabl.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl am Gost absenoldeb, data Llesiant Gweithwyr, Nifer y gweithwyr y diswyddwyd ar sail galluogrwydd iechyd, Prif achosion absenoldebau, cymariaethau'r Sector a chymariaethau Cymru gyfan.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] y dylid rhoi gwybod i aelodau am unrhyw broblemau sy'n codi yn sgil absenoldeb salwch yn eu hysgolion lleol;

·         Gofynnwyd a oedd ysgolion yn gallu ystyried defnyddio 'locwm' i gyflenwi yn ystod absenoldebau staff oherwydd salwch a thrwy hynny osgoi defnyddio asiantaethau. Gan ymateb i hyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi darparu cyllid ar gyfer cyflogi 3 athro/athrawes newydd gymhwyso er mwyn darparu gwasanaeth cyflenwi cynlluniedig, yn hytrach na chyflenwi adeg salwch, yng nghlwstwr Llanelli o ysgolion, ond y farn oedd y gallai fod yn gyfle i brofi'r posibilrwydd o sefydlu cynllun tebyg i gyflenwi adeg salwch.

·         Awgrymodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] pan fod pryderon parhaus ynghylch lefelau absenoldeb salwch, efallai y byddai'r Pwyllgor am wahodd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i gyfarfod er mwyn egluro'r sefyllfa ac amlinellu unrhyw gamau a gymerir i wella'r sefyllfa. Ychwanegodd fod y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Timau Rheoli Adrannol wedi cael Adroddiadau Rheoli Data a oedd yn gallu nodi problemau a phatrymau o ran salwch er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion. Efallai yr hoffai'r Pwyllgor hefyd ystyried gofyn i Benaethiaid Gwasanaeth gyflwyno adroddiadau yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol, yn amlinellu'r effaith gadarnhaol a'r mentrau er mwyn rhannu arferion da;

·         Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant sylweddol a gafodd rheolwyr ynghylch rheoli salwch a'r wybodaeth gynhwysfawr sydd ar gael i staff ar y fewnrwyd;

·         Gofynnwyd a allai'r lleihad o ran nifer y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ei gyfarfod mwyaf diweddar ar 2 Mai 2018, wedi cymeradwyo 'Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2023'. Bydd cyfarfod rhanbarthol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn cael ei gynnal yn Sir Benfro yn hwyrach yn y mis.

Nodwyd y dylai Bwrdd Iechyd Hywel Dda roi ystyriaeth ddwys i'r goblygiadau o gau cyfleusterau cymunedol a'r anawsterau a fydd yn wynebu pobl wrth iddynt orfod teithio ymhellach a theimlo'n ynysig. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch y ffaith bod y Bwrdd Iechyd, yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyflwyno'r Strategaeth Iechyd Meddwl fel dogfen sydd eisoes wedi'i chymeradwyo, yn hytrach na dogfen ar gyfer ymgynghori ac roedd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Mr. Barry Liles, wedi mynegi ei siom ynghylch y mater i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd.

Nodwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant.

Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i ddosbarthu dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol, er mwyn rhoi'r cyfle i bob aelod ddewis pa gyfarfod y byddai'n well ganddynt fynychu fel sylwedydd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 yn cael eu derbyn.

 

7.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2018/19 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau'r Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ystod 2018/19.

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 19 Gorffennaf 2018.

 

10.

COFNODION - 27AIN EBRILL 2018 pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal 27 Ebrill 2018 yn gywir.