Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D.C. Evans.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU CYHOEDDUS Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - DIWEDD BLWYDDYN 2017/18 PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7.2 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2018, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu data am absenoldeb salwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18. Roedd y data yn dangos y bu gostyngiad cyffredinol ers 2016/17 o ran nifer y dyddiau gwaith a gollwyd ar gyfer pob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (CALl), o 10.76 diwrnod yn 2016/17 i 10.15 diwrnod yn 2017/18. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni chyrhaeddwyd y targed o 9.6 diwrnod ar gyfer pob gweithiwr CALl a osodwyd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol i hybu gostyngiad mewn absenoldeb. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am y mentrau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r gwaith o reoli presenoldeb mewn ysgolion ac adrannau'r cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys: · Cyflwyno Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion ym mhob ysgol gynradd; · Cynhadledd Rheoli Presenoldeb Cadarnhaol i holl Benaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu Sir Gaerfyrddin; · Parhau i gyflwyno'r rhaglen datblygu Rheoli Presenoldeb i holl Benaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu; · Sefydlu'r Fforwm Herio ac Adolygu Presenoldeb, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Arweinydd; · Rheoli gwybodaeth, meincnodi a threfnu data yn well; · Llofnodi siarter "Dying to Work" Cyngres yr Undebau Llafur, sydd â'r nod o gefnogi gweithwyr â salwch angheuol; · Cynnal achrediad y Cyngor fel Cyflogwr sydd â Hyder Mewn Pobl Anabl. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl am Gost absenoldeb, data Llesiant Gweithwyr, Nifer y gweithwyr y diswyddwyd ar sail galluogrwydd iechyd, Prif achosion absenoldebau, cymariaethau'r Sector a chymariaethau Cymru gyfan.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] y dylid rhoi gwybod i aelodau am unrhyw broblemau sy'n codi yn sgil absenoldeb salwch yn eu hysgolion lleol; · Gofynnwyd a oedd ysgolion yn gallu ystyried defnyddio 'locwm' i gyflenwi yn ystod absenoldebau staff oherwydd salwch a thrwy hynny osgoi defnyddio asiantaethau. Gan ymateb i hyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi darparu cyllid ar gyfer cyflogi 3 athro/athrawes newydd gymhwyso er mwyn darparu gwasanaeth cyflenwi cynlluniedig, yn hytrach na chyflenwi adeg salwch, yng nghlwstwr Llanelli o ysgolion, ond y farn oedd y gallai fod yn gyfle i brofi'r posibilrwydd o sefydlu cynllun tebyg i gyflenwi adeg salwch. · Awgrymodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] pan fod pryderon parhaus ynghylch lefelau absenoldeb salwch, efallai y byddai'r Pwyllgor am wahodd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i gyfarfod er mwyn egluro'r sefyllfa ac amlinellu unrhyw gamau a gymerir i wella'r sefyllfa. Ychwanegodd fod y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Timau Rheoli Adrannol wedi cael Adroddiadau Rheoli Data a oedd yn gallu nodi problemau a phatrymau o ran salwch er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion. Efallai yr hoffai'r Pwyllgor hefyd ystyried gofyn i Benaethiaid Gwasanaeth gyflwyno adroddiadau yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol, yn amlinellu'r effaith gadarnhaol a'r mentrau er mwyn rhannu arferion da; · Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant sylweddol a gafodd rheolwyr ynghylch rheoli salwch a'r wybodaeth gynhwysfawr sydd ar gael i staff ar y fewnrwyd; · Gofynnwyd a allai'r lleihad o ran nifer y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - MAWRTH 2018 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ei gyfarfod mwyaf diweddar ar 2 Mai 2018, wedi cymeradwyo 'Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2023'. Bydd cyfarfod rhanbarthol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn cael ei gynnal yn Sir Benfro yn hwyrach yn y mis. Nodwyd y dylai Bwrdd Iechyd Hywel Dda roi ystyriaeth ddwys i'r goblygiadau o gau cyfleusterau cymunedol a'r anawsterau a fydd yn wynebu pobl wrth iddynt orfod teithio ymhellach a theimlo'n ynysig. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch y ffaith bod y Bwrdd Iechyd, yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyflwyno'r Strategaeth Iechyd Meddwl fel dogfen sydd eisoes wedi'i chymeradwyo, yn hytrach na dogfen ar gyfer ymgynghori ac roedd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Mr. Barry Liles, wedi mynegi ei siom ynghylch y mater i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant. Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i ddosbarthu dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol, er mwyn rhoi'r cyfle i bob aelod ddewis pa gyfarfod y byddai'n well ganddynt fynychu fel sylwedydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 yn cael eu derbyn.
|
|||||||
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU AR GYFER 2018/19 PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2018/19 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau'r Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ystod 2018/19.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 62 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. PDF 69 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 19 Gorffennaf 2018.
|
|||||||
COFNODION - 27AIN EBRILL 2018 PDF 164 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal 27 Ebrill 2018 yn gywir.
|