Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.J.R. Llewellyn, E. Morgan, G. Thomas a J. Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Cynghorydd J. Tremlett (Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd). |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 71 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Iau, 20fed Ebrill, 2017. |
|||||||
TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yngl?n â gweithredu'r ddeddfwriaeth o ran Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, effaith datblygu cyfraith achosion a'r camau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau cysylltiedig. Rhoddodd yr Uwch Reolwr Diogelu amlinelliad i'r Pwyllgor o gefndir y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, gan ddweud mai nod y trefniadau diogelu oedd darparu proses gyfreithiol briodol ac amddiffyniad addas yn yr amgylchiadau hynny lle'r oedd yn ymddangos bod colli rhyddid yn anochel, er buddion pennaf unigolyn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 wedi llwyddo i ostwng y trothwy ar gyfer atgyfeirio at Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a chafodd hyn effaith ar unwaith ar y gyfradd atgyfeirio. Canlyniad y cynnydd sydyn oedd bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cronni llwyth sylweddol o geisiadau heb eu prosesu. Nodwyd fod Comisiwn y Gyfraith wedi cydnabod nad oedd y system bresennol yn gynaliadwy nac yn addas i'w diben. Bwriad y Comisiwn oedd gwneud cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig; fodd bynnag, roedd y ddeddfwriaeth bresennol yn debygol o fod mewn grym tan o leiaf 2018.
Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i dderbyn rhwng 30 a 40 o atgyfeiriadau bob mis, ac ar y pryd roedd yna 630 o geisiadau yn aros i gael eu hasesu. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith mai gan y Cyngor yr oedd un o'r cyfraddau atgyfeirio uchaf, a hynny o ganlyniad i'r nifer uchel o sefydliadau preswyl/nyrsio sydd yn yr ardal. Cadarnhawyd fod yna 88 o gartrefi preswyl a nyrsio yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y Gwasanaeth wedi datblygu cynllun i reoli'r atgyfeiriadau a oedd wedi ôl-gronni ac a oedd yn parhau i lifo i mewn, a rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r gwaith a oedd yn cael ei wneud. Roedd hyn yn cynnwys secondio dau Aseswr Budd Pennaf dros dro llawn amser i weithio'n unig ar yr asesiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ac i flaenoriaethu a rheoli'r ôl-groniad. Argymhelliad y cynllun oedd bod pob gweithiwr cymdeithasol mewn Gwasanaethau Oedolion yn cael eu hyfforddi fel Aseswyr Budd Pennaf a bod targedau realistig yn cael eu gosod ar gyfer nifer yr asesiadau a gaiff eu cwblhau gan bob tîm. Byddai systemau monitro ansawdd cadarn hefyd yn cael eu cyflwyno i sicrhau arferion cyson a chyfreithlon.
Codwyd pryder ynghylch hyfforddi'r holl weithwyr cymdeithasol i wneud asesiadau a'u gallu i gyflawni'r rôl hon. Tynnodd yr Uwch Reolwr Diogelu sylw at y ffaith fod cynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau yn rhan o sgiliau craidd gweithwyr cymdeithasol ac mai'r nod oedd gwneud y gwaith o reoli atgyfeiriadau yn haws. Cafwyd cwestiynau pellach gan yr aelodau yngl?n ag a fyddai'n fuddiol cael mwy o swyddogion penodedig i gyflawni'r rôl yn llawn amser.
Esboniodd y swyddogion mai'r nod oedd datblygu dull cynaliadwy o reoli'r galw a bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn mabwysiadu dull tebyg. Nodwyd y byddai'r ôl-groniad o achosion yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 2016/17 - CWARTER 3 PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 a oedd yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a'r mesurau a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31ain Rhagfyr, 2016 mewn perthynas â Chwarter 3. Rhoddodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau wybod i'r Pwyllgor fod y rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn unol â'r targedau. Tynnwyd sylw at y ffaith fod gwaith yn parhau i gael ei wneud i fynd i'r afael â'r camau gweithredu nad oeddent yn unol â'r targedau, i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.
Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r gwaith o ddatblygu Cynllun Comisiynu ar gyfer Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn cael ei gyflawni ac a fyddai yna adnoddau digonol ar gael. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn ymwneud â datganiad marchnad rhanbarthol a bod llawer o wybodaeth wedi cael ei chrynhoi trwy ymarferion megis ys Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth, a fyddai'n llywio datblygiad y Cynllun. Nodwyd y byddai'r Cynllun yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodwyd, er enghraifft opsiynau cyfyngedig o ran llety. Cadarnhawyd mai'r amserlen ar gyfer cwblhau hyn oedd mis Rhagfyr 2017. Nodwyd y byddai adroddiad ar drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn cael ei gyflwyno gerbron un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.
Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch camddefnyddio sylweddau yn yr ardal a gofynnodd a oedd y mater hwn yn derbyn sylw effeithiol. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod gr?p gorchwyl a gorffen wedi cael ei sefydlu i sicrhau fod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu. Mewn ymateb i ymholiadau cadarnhawyd fod yr Heddlu yn rhan o'r gr?p a bod adolygiad llawn o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau wedi cael ei gynnal i ganfod a oedd yna unrhyw themâu yn codi.Holodd yr aelodau ynghylch lleoliad yr 20 o welyau cam i lawr a gomisiynwyd i hwyluso'r gwaith o ryddhau cleifion yn brydlon o ysbytai o fis Rhagfyr hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017. Cadarnhaodd y swyddogion fod y gwelyau hyn yng Nghartref Gofal Gwernllwyn, Cross Hands ac yng Nghartref Gofal Plas y Bryn, Cwmgwili.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31ain Rhagfyr 2016, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £392k o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai yna -£1,990k o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2016/17.
Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag a'r pwysau yr oedd hyn yn ei roi ar wasanaethau. Holwyd a oedd swyddi yn cael eu dal yn ôl rhag cael eu llenwi er mwyn gwneud arbedion effeithlonrwydd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu nad oeddent yn dewis peidio â llenwi swyddi a bod yna anawsterau o ran recriwtio i rai swyddi gweithiwr cymdeithasol.
Nodwyd bod recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn broblem genedlaethol a bod yr adran yn ystyried cymhellion i annog gweithwyr cymdeithasol i weithio yn yr ardal. Gofynnodd yr aelodau am gael gwybodaeth am nifer y swyddi gweithiwr cymdeithasol sydd yn wag, a chytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu i gylchredeg adroddiad Cyngor Gofal Cymru yngl?n â Phroffil Gweithwyr Cymdeithasol yng Nghymru. Holodd yr aelodau ble'r oedd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i fod yn weithwyr cymdeithasol a ph'un a oedd y cymwysterau yn cael eu cynnig yn lleol. Esboniodd y swyddogion bod rhaid i weithwyr cymdeithasol gwblhau gradd a bod yna nifer o raglenni yng Nghymru. Roedd yna hefyd opsiynau i bobl gwblhau'r cwrs trwy'r Brifysgol Agored gyda chymorth o'r gweithle, ac roedd cael y Cyngor i feithrin ei weithwyr cymdeithasol ei hun drwy'r broses hon yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried. Cytunwyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn cadarnhau a oedd yna wybodaeth ar gael yngl?n â pha awdurdodau lleol yr oedd gweithwyr cymdeithasol yn dychwelyd iddynt ar ôl cymhwyso, ac yn darparu mwy o wybodaeth am awdurdodau lleol a oedd yn meithrin eu gweithwyr cymdeithasol eu hunain.
Tynnwyd sylw at y ffaith fod rhai cynghorau wedi newid eu cyfnod rhybudd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU PDF 47 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant a'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 25ain Ionawr 2017. |
|||||||
COFNODION - 25AIN IONAWR 2017 PDF 211 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25ain Ionawr, 2017 yn gofnod cywir. |