Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Caiach, K. Madge, B.A.L. Roberts, E.G. Thomas a J.S. Williams.
Cyfeiriwyd at y ffaith mai dyma’r cyfarfod olaf o’r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y byddai Anthony Maynard yn bresennol ynddo gan ei fod yn ymgymryd â swydd arall yn yr Awdurdod. Diolchwyd i Mr Maynard am ei gyfraniad i’r gwasanaeth, yr adran a’r Pwyllgor dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddo yn ei swydd newydd.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||||||||
DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. PDF 401 KB Cofnodion: Cyfeiriwyd at y ffaith bod saith o bynciau trafod wedi’u rhestru i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf a theimlwyd y gellid gohirio un neu ddwy eitem hyd at y cyfarfod nesaf i ganiatáu digon o amser i drafod.
PENDERFYNWYD
5.1 gohirio’r eitemau canlynol i’w hystyried yn y cyfarfod sydd i’w gynnal ar 16eg Mai, 2016:-
- Yr Iaith Gymraeg yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl H?n - Safonau Maethol ar gyfer Pobl H?n;
5.2 bod yr eitemau sy’n weddill i’w hystyried yn y cyfarfod a gynhelir ar ddydd Llun, 18fed Ebrill, 2016 yn cael eu nodi.</AI5>
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO'R CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16. PDF 298 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiadau Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y cyfnod tan 31ain Rhagfyr 2015, ynghylch blwyddyn ariannol 2015/16.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth yn gorwario £404k o ran y Gyllideb Refeniw ddiwedd y flwyddyn ac y byddai -£231k o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2015/16.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. </AI6>
|
|||||||||||||
GWERTHUSIAD O'R "CYNLLUN MAWR". PDF 345 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr H.I. Jones, M.J.A. Lewis ac E. Morgan oll wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai fanylion gwerthusiad o effeithiolrwydd y Cynllun Mawr.
Diben y strategaeth oedd sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn mwynhau’r un hawliau sylfaenol ag unrhyw un arall. Golygai hyn y byddent yn cael cynnig tai addas, yn cael cymorth i ddod o hyd i waith neu alwedigaeth ystyrlon arall oedd yn addas iddynt, yn gallu mwynhau amser gyda ffrindiau a theulu a chymryd rhan yn eu cymuned leol ac yn niwylliant y sir.
Ar sail tystiolaeth yr adroddiad, mae mwyafrif yr amcanion a osodwyd yn y Cynllun Mawr wedi’u gwireddu, a mwy. Ond roedd darpariaeth y gwasanaethau yn esblygu’n barhaus, a phwysig oedd sicrhau ein bod yn ymatebol i anghenion ein cwsmeriaid, ein statws economaidd newidiol a deddfwriaeth newydd, yn ogystal ag ymdrechu i efelychu arferion gorau.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Ms Sarah Phillips, Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, sef gwasanaeth eirioli a hyfforddi sy’n cynorthwyo oedolion sydd ag anawsterau dysgu. Yr oedd Katelyn Mathews a Darren Pollet yn bresennol gyda hi, a rhoesant gyfrif o’r gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo. Pwysleisiasant yr hyn a weithia’n dda a’r hyn y gellid ei wella. Yn ôl Ms Phillips, gyda dyfodiad y Ddeddf Llesiant, roedd Sir Gaerfyrddin i’w llongyfarch am ei gweithdrefnau ymgysylltu a chynhwysiant, a oedd yn rhagorol.
Diolchodd y Cadeirydd i Ms Phillips a’r ddau ddefnyddiwr gwasanaeth am eu presenoldeb a’u cyfraniad a oedd yn llawn gwybodaeth ac a werthfawrogwyd yn fawr.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|||||||||||||
PROSIECT GWEITHIWR CYMORTH IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL. PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr H.I. Jones, M.J.A. Lewis ac E. Morgan oll wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes.]
Atgoffwyd y Pwyllgor y bu i Fwrdd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir Gaerfyrddin, ym mis Tachwedd 2014, gymeradwyo defnyddio Cyllid Gofal Canolraddol i symud ymlaen ar Brosiect Gweithiwr Cymorth Gofal Cymdeithasol a geisiai drosglwyddo tasgau’n ymwneud â gofal iechyd i weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal i bobl h?n. Canolbwyntiai’r prosiect ar gyfenwi gofal clwyfau anghymhleth yng Nghartref Gofal Preswyl Llys y Bryn.
Awgrymai’r dystiolaeth yn gryf yr arweiniodd y prosiect yn Llys y Bryn at enillion effeithiol ar fuddsoddiad o ran lleihau presenoldeb Nyrs Ardal. Cafwyd buddion eraill hefyd, megis gwell ansawdd bywyd i drigolion, gwell cydweithio rhwng staff Llys y Bryn a Nyrsys Ardal a gweithlu mwy hyderus.
Bu’r prosiect peilot yn arbennig o lwyddiannus, gan herio’r cysyniad traddodiadol o wahanol grwpiau o staff yn gweithio mewn seilos. Yr oedd yn profi bod gweithwyr gofal integredig wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at hyn.
O ganlyniad i’r prawf hwn ar gam cysyniad, yr oedd yn amlwg y gallai’r model hwn gael ei ymestyn i gynnwys ymyriadau eraill megis cofnodi arwyddion hanfodol a gofal cathetr.
Argymhellwyd hefyd bod model hyfforddiant gofal clwyfau anghymhleth yn cael ei gyflwyno fesul cam i Gartrefi eraill yr Awdurdod Lleol yn Sir Gaerfyrddin. Cynghorwyd yn gryf bod gwerthusiad effaith yn cael ei gynnwys o’r cychwyn yn ogystal â dadansoddiad ariannol o ran enillion ar fuddsoddiad.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Pan ofynnwyd a fyddai’r cyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu hadlewyrchu yng nghyflog y staff, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai unrhyw ddyletswyddau ychwanegol yn cael effaith ar gyflog a byddai’n rhaid cynnal ymarferiad gwerthuso swyddi; · Pan ofynnwyd a fyddai pobl h?n sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain yn derbyn yr un driniaeth, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ei bod yn bwysig cynnal y cynllun peilot mewn amgylchedd diogel, dan reolaeth, ac mai dyma pam y dewiswyd cartref gofal. Ond y bwriad yn y pen draw fyddai cyflwyno’r rhaglen yn y gymuned.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.</AI8>
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr H.I. Jones, M.J.A. Lewis ac E. Morgan oll wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes.]
Atgoffwyd y Pwyllgor bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i basio gan Lywodraeth Cymru a bod gwahanol rannau o’r Ddeddf bellach yn dod i rym. Darparai’r Ddeddf y fframwaith statudol i gyflenwi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar lesiant, hawliau a chyfrifoldebau. Roedd Rhan 5 y Ddeddf yn ymwneud yn benodol â chodi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaeth am wasanaethau a dderbyniant a byddai’r rhan hon yn dod i rym ar 6ed Ebrill, 2016.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a nodai’r prif feysydd, yn benodol mewn perthynas ag asesiadau ariannol a chodi tâl, yr oedd angen eu hystyried ar y cychwyn a chynigwyd, yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, y byddai polisi diwygiedig newydd, a ddygai ynghyd elfennau o’r polisïau presennol, yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan yr aelodau.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder bod y gwahanol gategorïau o ofal a fframwaith o daliadau yn anodd eu dirnad. Meddai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor y byddai’n rhoi eglurhad o’r pwyntiau hyn yn yr adroddiad cyn iddo gael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I’R BWRDD GWEITHREDOL bod y Diwygiadau i’r Polisïau a’r Gweithdrefnau ar gyfer Codi Tâl ar Oedolion, fel a fanylir yn yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo.</AI9>
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|||||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. PDF 125 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno’r ddau adroddiad canlynol:-
- Gwerthusiad o Brosiectau Cronfa Gofal Canolraddol (ICF) - Adolygiad o’r Gwasanaeth Ailalluogi
PENDERFYNWYD nodi'r ffaith na chyflwynwyd yr adroddiadau. </AI11>
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 20FED IONAWR, 2016. PDF 424 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr, 2016, gan eu bod yn gofnod cywir.
|