Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 20fed Ionawr, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies a B.A.L. Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau yn y cyfarfod.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 29ain Chwefror, 2016.

 

6.

Y GYMRAEG YN Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BOBL HYN pdf eicon PDF 469 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru oedd yn rhoi manylion am y cynnydd sy'n digwydd yn yr Adran Gwasanaethau Cymunedol o ran gweithredu  "Mwy na Geiriau", sef Dogfen Strategol gan Lywodraeth Cymru sy'n manylu ar bwysigrwydd yr iaith Gymraeg wrth ofalu am bobl h?n. 

 

Mae adroddiad Cyngor ar Bopeth, Hefyd ar Gael yn Gymraeg (2015), wedi tynnu rhagor o sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol i wasanaethau fod ar gael yn naturiol ddwyieithog, heb fod angen i unigolion agored i niwed ofyn am wasanaethau yn eu hiaith gyntaf. 

 

Mae "Hefyd ar Gael yn Gymraeg" yn hyrwyddo darparu "Cynnig Gweithredol" sy'n golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano oherwydd dylai'r Gymraeg fod mor weladwy â'r Saesneg.  Mae'r adran yn gweithio tuag at ddarparu'r Cynnig Gweithredol drwy:-

 

-     sicrhau bod iaith yr unigolyn yn cael ei chofnodi'n gywir ac yn gyson bob amser.  Mae'r cwestiwn sy'n gofyn pa ieithoedd mae unigolyn yn siarad a pha iaith yw iaith gyntaf yr unigolyn yn gwestiwn gorfodol bellach ar ffurflenni ymholiadau yr adran.  Fodd bynnag, gan fod nifer helaeth o ymholiadau yn cael eu paratoi gan weithwyr proffesiynol eraill, nid yw'r wybodaeth yn gywir bob amser;

 

-     gweithio gyda'r Adran Adnoddau Dynol a'r Adran Dysgu a Datblygu i gefnogi arferion a hyfforddiant recriwtio sy'n briodol yn ieithyddol er mwyn gwella sgiliau staff presennol.  Y nod yw sicrhau bod canran y siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn cyd-fynd â chanran y staff sy'n siaradwyr Cymraeg a hynny ym mhob maes gwasanaeth. Dylai'r holl staff ddilyn y modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth Iaith a bod yn ymwybodol o'r pecyn hyfforddiant Cynnig Gweithredol;

 

-     sicrhau bod y Cynnig Gweithredol yn cael ei ddarparu os yw'n hysbys fod unigolyn yn siaradwr Cymraeg.  Mae hyn yn golygu sicrhau bod y staff sy'n gweithio gyda'r unigolyn hwnnw'n gallu gweithio'n ddwyieithog, ac felly'n gallu darparu dewis naturiol i unigolion sy'n aml mewn argyfwng ac nid yn dymuno gorfod gofyn am siaradwr Cymraeg i weithio gyda nhw. 

 

Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn iaith gyntaf siaradwyr Cymraeg ac mae'n bwriadu hyrwyddo'r Cynnig Gweithredol drwy ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad fydd yn amlygu darpariaeth lwyddiannus.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai adroddiad diweddaru ar wahân ar hyfforddi a gwella sgiliau staff ynghylch y Cynnig Gweithredol yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Codwyd y mater canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Yn ateb i gwestiwn yn gofyn a oedd y swyddogion yn gwybod pa gyfran o'n cleientiaid oedd yn siaradwyr Cymraeg, atebodd y Cyfarwyddwr fod dewis iaith wedi bod yn y gorffennol yn fater bron o ddefnyddio trefn fiwrocrataidd o lenwi blwch yn hytrach nag yn rhan sylfaenol o asesu anghenion yr unigolyn. Pwysleisiodd bwysigrwydd asesu unigolyn yn eu hiaith gyntaf a thynnodd sylw at y ffaith fod yr Awdurdod wedi gwneud cynnydd ond bod rhagor i'w wneud.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

received.

7.

GWEITHREDU'R TALIADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL DIBRESWYL I OEDOLION, A ARFERAI FOD YN DDI-DÂL - GWERTHUSIAD AR ÔL GWEITHREDU pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod ar 17eg Mehefin, 2014 (gweler cofnod  6) roedd y Pwyllgor wedi cymeradwyo cyflwyno taliadau newydd am wasanaethau cymdeithasol di-breswyl ar gyfer oedolion a oedd yn arfer bod yn wasanaethau di-dâl. 

 

Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y Pwyllgor wedi gofyn am gynnal adolygiad i asesu effaith cyflwyno'r taliadau newydd, yn dilyn cyfnod o 12 mis.  Gan hynny, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad gwerthuso a roddai fanylion am effaith y taliadau newydd.

 

Nodwyd y dylai'r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati ym mhwynt 2.12 o'r adroddiad fod fel a ganlyn sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch cyn-gleientiaid oedrannus oedd wedi rhoi'r gorau i fynychu canolfannau dydd oherwydd na allent fforddio'r tâl a gofynnwyd i'r swyddogion beth oedd yn cael ei wneud i olrhain y cyn-gleientiaid hyn er mwyn sicrhau nad oeddynt yn dioddef fel canlyniad.  Eglurodd yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes fod cyfraddau rhoi'r gorau i dalu'r taliadau newydd yn cael eu monitro a bod unrhyw un oedd yn rhoi'r gorau iddi'n mynd yn ôl i'r system ar gyfer eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn unrhyw wasanaethau y gallent fod yn gymwys i'w cael. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw at y ffaith fod nifer sylweddol o bobl wedi cael prawf modd ac nad oeddynt yn talu am wasanaethau.  Hefyd roedd proses ddadansoddi eglur ar waith yn ychwanegol at y prawf modd oedd yn dal unrhyw amgylchiadau unigryw.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

8.

GWELLA'R CYMORTH AR GYFER POBL SYDD Â DEMENTIA A'U TEULUOEDD pdf eicon PDF 385 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gweithredu'r argymhellion yn ymwneud â gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia a gyflwynwyd gan y Fforwm Craffu ar y Cyd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau dementia yn Sir Gaerfyrddin yn 2011/12.

 

Mae nifer o gynlluniau newydd wedi cael eu datblygu er mwyn cefnogi pobl yn eu cymunedau:-

 

Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia - mae hwn yn fudiad cenedlaethol a'i nod yw gwella ymateb cymdeithas i bobl a allai fod â dementia er mwyn i bobl deimlo eu bod yn fwy diogel ac yn rhan o'r gymuned.  Pontyberem oedd y gymuned swyddogol cefnogi pobl â dementia gyntaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi penodi swyddog prosiect am flwyddyn i gynyddu nifer y cymunedau cefnogi pobl â dementia ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.  Mae gan Rhydaman a Llanelli bellach grwpiau llywio Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia ac maent ar eu ffordd i sicrhau cydnabyddiaeth swyddogol.  Hefyd mae cymunedau eraill â diddordeb mewn bwrw ymlaen â hyn. Mae busnesau lleol wedi mynychu sesiwn ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia ac wedi cael eu hannog i wneud eu hadeiladau'n rhai sy'n fwy cefnogol i bobl â dementia. Dylai cymuned sy'n gallu ymateb yn gadarnhaol i bobl a allai fod â dementia fod yn lle da i bawb.

 

Annog pobl i gael cymorth – gall pobl gael yr argraff nad oes dim y gellir ei wneud i helpu rhywun sy'n dangos arwyddion o ddementia. Fodd bynnag, er nad oes gwellhad i'r cyflwr, mae ymyriadau meddygol yn bod sy'n gallu arafu datblygiad y clefyd ac mae'r cyfle i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn gallu lleihau problemau pan fydd y cyflwr yn datblygu.  Ers peth amser gwnaed ymdrechion i lunio straeon newyddion yn ymwneud â dementia ar gyfer y wasg leol i godi ymwybyddiaeth.  Llynedd awgrymwyd defnyddio dull gwahanol er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd a lluniwyd nifer o stribedi cart?n gan artist lleol.  Cawsant dderbyniad cadarnhaol gan ofalwyr pobl â dementia a phenderfynwyd eu cyhoeddi yn y wasg leol.  Hefyd cafodd y cynllun sylw yn y wasg ledled Prydain.  Bellach mae'r cartwnau wedi'u cynnwys mewn poster a gobeithir y bydd hwn yn dal sylw pobl nad oes efallai ddiddordeb ganddynt yn y deunydd ysgrifenedig arferol.  Mae cynyddu cyfraddau isel o ddiagnosis dementia yn darged allweddol o ran gwella iechyd i'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Clinig Cof Cymunedol a chanolfan “galw heibio” – mae'r clinigau cof wedi'u lleoli fel arfer mewn ysbytai sy'n gallu bod yn anodd mynd iddynt.  Ar ddiwedd 2013, penderfynodd y clwstwr Meddygon Teulu yn Aman Gwendraeth ariannu clinig cof cymunedol. Roedd sefydlu'r clinig yn broses gymhleth gan fod angen integreiddio gwahanol rannau o'r Gwasanaeth Iechyd.  Cynhelir y clinig ar ddau fore bob mis yn Neuadd Gymunedol Llandybïe.  Mae tri meddyg teulu sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol yn rhoi'r mewnbwn meddygol ar sail rota, ynghyd â nyrs y clinig cof, gweithiwr cymorth o'r Gymdeithas Alzheimer a gweithiwr cymdeithasol o'r Tîm Adnoddau Cymunedol.  Yn ogystal â chael apwyntiadau meddygol,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 30 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rheswm dros beidio â chyflwyno adroddiad ar Gynllun Gweithredu Gofalwyr Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD nodi'r ffaith na chyflwynwyd yr adroddiad.

 

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR, COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGORAU CRAFFU ADDYSG A PHLANT A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD, A GYNHALIWYD AR Y 23AIN O DACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 281 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant a'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 23ain Tachwedd 2015.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 19EG O DACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 596 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg Tachwedd, 2015, yn gofnod cywir.

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 14EG o RAGFYR 2015 pdf eicon PDF 306 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Rhagfyr, 2015, yn gofnod cywir.

 

 

 

 

 

 

________________________                                                __________________

Y CADEIRYDD                                                                                   Y DYDDIAD