Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 4ydd Gorffennaf, 2018 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r sefyllfa ariannol 'union bron' fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dangosodd y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd danwariant o £212k o ran y gyllideb refeniw ar ddiwedd y flwyddyn, ac amrywiant net o -£752k yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18. 

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       O ran swyddi gwag, gofynnwyd i'r swyddogion a oeddent wedi recriwtio a gofynnwyd am yr effaith y mae swyddi gwag yn ei chael ar staff. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bu anawsterau o ran recriwtio gweithwyr cymdeithasol y llynedd ond bod yr holl swyddi gwag wedi'u llenwi eleni.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18. pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad  erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, a'i bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn cynnwys yr Amcanion Llesiant a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar berfformiad 2017/18, adroddiadau cynnydd ar gyfer pob un o'r 15 Amcan Llesiant a dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a roddwyd i bob Amcan Llesiant.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin), a fyddai'n cael eu diweddaru pan fyddai'r canlyniadau ar gael.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·        Gan gyfeirio at y bobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty tra byddant yn aros i gael pecynnau gofal cymdeithasol, gofynnwyd i'r swyddogion faint o amser y mae'n rhaid iddynt aros. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pob sefyllfa yn unigryw oherwydd gallant olygu pecynnau gofal mewn ardal wledig, anghenion gofal cymhleth, analluedd meddyliol ac ati. Fodd bynnag, y gobaith oedd na fyddai unrhyw un yn gorfod aros mwy na 4 wythnos.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gadael ar unwaith a dim ond yn yr ardaloedd mwy gwledig y ceir anawsterau;

·        Cyfeiriwyd at y ffaith fod y broses cynllunio i ryddhau yn dechrau 24 awr cyn bod claf yn cael ei ryddhau a gofynnwyd i'r swyddogion pam na ellid dechrau ar y broses hon yn gynharach i leihau unrhyw oedi.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor, wrth i gleifion gael eu derbyn i ysbytai, fod y wardiau yn nodi'r rhai y bydd angen cymorth arnynt ar ôl cael eu rhyddhau, er mwyn sicrhau bod asesiadau iechyd galwedigaethol a ffisiotherapi yn cael eu trefnu'r adeg honno;

·        Gofynnwyd i'r swyddogion sut y mae'r Awdurdod yn cymharu ag Awdurdodau eraill Cymru o ran amser rhagarweiniol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd, sef Llwybrau Annibynnol ar gyfer Pobl H?n, a fydd yn cynnwys data cymharol. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf;

·        Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod 62.1% o ofalwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i ddal ati â'u rôl ofalu yn 2017/18, sydd yn ostyngiad ar ffigwr y flwyddyn flaenorol sef 78.5% a gofynnwyd i'r swyddogion am esboniad.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gennym fwy o ofalwyr ond nid oes gan bob un ohonynt gynlluniau gofal a chymorth, ac yn anffodus dim ond y gofalwyr sydd â chynlluniau gofal a chymorth ar waith y mae arolygwyr yn gallu eu harolygu. Felly nid oedd yn bosibl cymharu'r ffigyrau hyn o flwyddyn i flwyddyn.  Eglurodd y Rheolwr Ardal fod swyddogion bellach yn defnyddio ffordd wahanol o gofnodi'r mesur hwn oherwydd y mae gan ofalwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

POLISI CYNLLUNIO'R CDLL O RAN ANABLEDDAU. pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2018, wrth ystyried Fersiwn Ddrafft y Strategaeth Anableddau Dysgu, penderfynodd y Pwyllgor ofyn i swyddogion Is-adran Flaen-gynllunio yr Awdurdod ystyried cynnwys y ddarpariaeth o ran rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ag anableddau dysgu yn y CDLl.

 

Rhoddodd y Rheolwr Blaen-gynllunio drosolwg i'r Pwyllgor ar y gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, y polisïau cynllunio perthnasol a'r ystyriaethau posibl ar gyfer pobl ag anableddau. Esboniodd nad oes llawer iawn o gyfle i ymyrryd yn anffodus.

 

·        Cyfeiriwyd at y ffaith fod swyddogion yn nodi safleoedd yn arbennig ar gyfer blociau i bobl anabl a mynegwyd pryder y byddai hyn yn cael gwared ar ddewis yr unigolyn o ran ble y mae'n dymuno byw. Bernid ei bod yn llawer gwell ystyried caniatáu estyniadau ar eiddo presennol ac adeiladu byngalos. Eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, os ydych yn canolbwyntio'n ormodol ar ddod o hyd i safleoedd penodol, byddwch yn colli'r hyblygrwydd i allu ymateb;

·        Gofynnwyd a ellid cynnwys arolwg yn awtomatig yn y polisi, ac eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai un o werthoedd y broses fonitro flynyddol yw ei bod yn tynnu sylw at yr holl fethiannau.  Ychwanegodd y byddai'n ystyried a ellid ei gynnwys yn y fframwaith monitro Arfarniad Cynaliadwyedd;

·        Gofynnwyd a ellid bod yn fwy hyblyg er mwyn ymateb yn well i dai presennol e.e. plentyn sydd wedi'i gyfyngu i d? y mae angen ei addasu/codi estyniad iddo ac ati, a dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y dylai hynny fod yn flaenllaw ym meddwl y swyddog cynllunio wrth ystyried cais o'r fath;

·        Gofynnwyd beth sy'n digwydd ledled Cymru ynghylch hyn, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y dull gweithredu yn anghyson, a bod gan rai Awdurdodau Lleol ddulliau hyblyg iawn tra bo eraill â dulliau anhyblyg;

·        Gofynnwyd a fyddai'n bosibl darparu Canllawiau Cynllunio Atodol ar y mater hwn cyn cwblhau'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd bydd hyn yn rhoi arweiniad i gynllunwyr ac aelodau'r pwyllgor yn y cyfamser. Eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod yn rhaid i Ganllawiau Cynllunio Atodol fod yn gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol a byddai'n rhaid iddo ddod o hyd i'r fframwaith polisi cywir i wneud hynny. Ychwanegodd, os yw polisi newydd yn cael ei baratoi o ran ceisiadau cynllunio sy'n ymwneud â phobl ag anableddau, byddai'n rhaid paratoi'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr un pryd er mwyn i'r ddau ohonynt gael eu mabwysiadu ar yr un pryd. Byddai llunio nodyn cyfarwyddyd yn ffordd gyflymach, a gall hyn fod yn llawer mwy ymatebol.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

.

 

8.

Y DDARPARIAETH PRYD AR GLUD. pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn y sir.

 

Hysbyswyd y swyddogion gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ei fod yn bwriadu rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gwasanaeth yn dod i ben fis Hydref 2018 fan bellaf.

 

O gofio bod angen i'r Adran Cymunedau adolygu 214 o unigolion a bod y gwasanaeth yn dod i ben erbyn mis Hydref 2018, gosodwyd dyletswydd ar ddau swyddog i adolygu defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn sicrhau y gallai'r broses adolygu ddechrau'n brydlon.  Byddai defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu symud i wasanaethau eraill cyn gynted ag oedd hynny'n briodol. Roedd hwn yn benderfyniad pragmatig yn seiliedig ar gyfanswm nifer yr unigolion yr oedd angen eu harolygu ac mae hyn yn golygu bod rhai pobl eisoes yn defnyddio gwasanaethau eraill.

 

Diben yr adolygiad yw asesu anghenion pob unigolyn a chynnig amryw o ddewisiadau i'r unigolyn.  Mae hefyd yn gyfle, yn unol â'r dull gweithredu newydd a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, i hybu mwy o annibyniaeth a chyfleoedd cymdeithasu ar gyfer yr unigolion, gan ddatblygu, lle bo modd, fentrau yn y gymuned i gefnogi'r unigolion a'u cymunedau lleol.

 

Dechreuodd y broses adolygu ym mis Mai yn ardal Teifi Tywi Taf a oedd yn golygu y gellid cynnig trefniadau eraill i 72 o unigolion. Ar sail canlyniadau'r adolygiad, dywedodd y rhan fwyaf o'r unigolion a oedd yn derbyn y gwasanaeth pryd ar glud naill ai y byddent yn ymdopi ar eu pen eu hunain neu eu bod wedi cael gafael ar fusnesau lleol i'w cynorthwyo o ran darparu pryd twym.  Dim ond ychydig iawn ohonynt sydd angen rhagor o gymorth gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.

 

Y bwriad yw dechrau ar adolygiadau yn Llanelli ac yn ardal Aman Gwendraeth wedi hynny. Cyn gwneud hyn, anfonir nodyn briffio at y Cynghorwyr lleol perthnasol yn eu hysbysu y byddai swyddogion yn falch o glywed ganddynt os ydynt yn gwybod am unrhyw gr?p cymunedol neu os oes ganddynt unrhyw syniadau o ran y ffordd orau o gefnogi'r unigolyn.

 

Fel rhan o'r cynllun prosiect, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a chynhelir trafodaethau wythnosol rhwng yr Awdurdod a'r Rheolwr Rhanbarthol er mwyn rhoi gwybod am holl ganlyniadau'r adolygiad. Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn nodi y bydd ei gymorth yn cael ei deilwra i gynnig ystod o gymorth ymarferol, cwmnïaeth, cyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau.

 

Dyma rai enghreifftiau o'r opsiynau posibl o ran darpariaeth yn y dyfodol:-

 

- prydau bwyd wedi'u rhewi yn cael eu dosbarthu gan Wiltshire Farm Foods a gwirfoddolwr (cyfeillachwr) y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn galw i helpu i gynhesu'r pryd o fwyd ar amser addas a bod ag amser ychwanegol i gymdeithasu.  Mae Wiltshire Farm Foods yn gweithredu ledled y sir gyfan;

- cyfeillachwr/gwirfoddolwr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn casglu'r unigolyn ac yn mynd ag ef/hi i dafarn leol (clybiau tafarn?) / caffi i gael pryd o fwyd;

- cyfeillachwr/gwirfoddolwr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn casglu unigolyn i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 43 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno’r adroddiadau canlynol:-

 

-  Ceir cefn gwlad

-  Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru (Gofalwyr Ifanc)

-  Mentrau i Ddiogelu Pobl Ifanc rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfodydd nesaf ar 25 Medi, 2018.

 

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21AIN MAI, 2018. pdf eicon PDF 189 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 21 Mai, 2018 gan eu bod yn gywir.