Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 16eg Ionawr, 2024 1.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 11 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ALED DAVIES, CYNGHORYDD ALUN DAVIES, CYNGHORYDD ARWEL DAVIES, CYNGHORYDD MARK HARRIES, CYNGHORYDD ANDREW THOMAS pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Aled Davies, Alun Davies, Arwel Davies, Mark Harris, Andrew Thomas o Gyngor Cymuned Maenordeilo a Salem, i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion y cyngor ynghylch Cynllun Ynni Tywi Wysg Bute Energy.

 

Nodwyd bod cais am ollyngiad wedi ei gyflwyno gan 5 Cynghorydd ac roedd gan bob un ohonynt fuddiant rhagfarnol yn y materion sy'n ymwneud â Chynllun Ynni Tywi Wysg Bute Energy. Bu'r aelodau'n ystyried y rhestr o fuddiannau personol a atodwyd i'r adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cais yn cyfeirio at y ffaith bod y 5 Cynghorydd gyfystyr â 41% o gyfanswm aelodaeth y Cyngor.

 

Wrth nodi bod gollyngiadau a roddwyd yn flaenorol i Gynghorwyr eraill wedi'u gwneud mewn perthynas â buddiannau tebyg, fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd yr Aelodau'n teimlo bod angen bod yn gyson ac yn deg mewn perthynas â'r cais hwn o ran peidio â phleidleisio. 

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(2)(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr Aled Davies, Alun Davies, Arwel Davies, Mark Harris, Andrew Thomas SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn cyfarfodydd mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Ynni Tywi Wysg Bute Energya bod y gollyngiadau hyn yn ddilys tan ddiwedd cyfnod presennol y Cynghorwyr dan sylw yn y swydd.

 

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD PETER COMLEY pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Peter Comley o Gyngor Cymuned y Betws am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion y cyngor ynghylch Clwb Rygbi'r Betws mewn perthynas â'r buddiannau personol a rhagfarnol canlynol:

 

·      Clwb Rygbi'r Betws – Mae'r Cynghorydd Comley yn Aelod o'r Pwyllgor, ac ef yw'r Ysgrifennydd, y Trysorydd a'r Trwyddedai ar gyfer Clwb Rygbi'r Betws

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Comley fuddiant rhagfarnol a phersonol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (2)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Peter Comley SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn cyfarfodydd mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi'r Betws a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn y swydd.

 

 

6.

UNRHYW FATERION ARALL Y DYLID, YM MARN Y CADEIRYDD, EI YSTYRIED YN FATER BRYS OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.