Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 19eg Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B.W. Jones.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED MEDI, 2023 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Medi 2023 gan eu bod yn gywir, yn amodol ar wneud newidiadau gramadegol i eitem 6 ar yr agenda - Data Côd Ymddygiad 2022-23.

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r buddiannau personol a rhagfarnol canlynol:

 

·         Eglwys y Santes Fair, Cydweli – Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn aelod ac yn ymddiriedolwr ar Gyngor Plwyf Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli.

·         Clwb Rygbi Cydweli – Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn aelod, yn ysgrifennydd ac yn gyfarwyddwr ar Glwb Rygbi Cydweli.

·         Amgueddfa Cydweli - Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn ymddiriedolwr ar Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant rhagfarnol a phersonol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.  

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2(2)(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cynghorydd Gilasbey wedi cael gollyngiad o'r blaen mewn perthynas â'r buddiannau hyn ym mis Ionawr 2019 a Rhagfyr 2022.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (2)(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn cyfarfodydd mewn perthynas â materion yn ymwneud ag:

·         Eglwys y Santes Fair, Cydweli

·         Clwb Rygbi Cydweli

·         Amgueddfa Cydweli

a bod y gollyngiadau hyn yn ddilys tan ddiwedd ei chyfnod presennol yn y swydd.

5.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.