Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 30ain Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Nodyn: Virtual 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs M. Dodd, Mr F. Phillips a'r Cynghorydd G.B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD TREF CASTELL NEWYDD EMLYN HAZEL EVANS. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Hazel Evans, Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, gwneud sylwadau ysgrifenedig a phleidleisio mewn perthynas â busnes cyngor tref ynghylch caniatáu tenantiaeth yn Hen Adeilad y Llys, Castellnewydd Emlyn.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Evans fuddiant personol a rhagfarnol mewn mater o'r fath gan ei bod yn Gyfarwyddwr di-dâl ar un o'r ymgeiswyr, sydd yn elusen ei hun.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Evans yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(d) – roedd natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(f) – byddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Evans, byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyntrafodaeth ,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2 2 (d) ac (f) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Hazel Evans i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig, ond NID pleidleisio, ar fusnes y cyngor mewn cyfarfodydd Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn ynghylch caniatáu tenantiaeth Hen Adeilad y Llys, Castellnewydd Emlyn, a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol.

4.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.