Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 11eg Mawrth, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Cymuned J. Gilasbey.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR YR 3YDD RHAGFYR 2015 pdf eicon PDF 544 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y drafodaeth yn y cyfarfod diwethaf ynghylch cofnod 10, ac at benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ysgrifennu at glercod y Cynghorau Tref a Chymuned i'w hatgoffa o'u rolau o ran cynghori eu haelodau am y Côd Ymddygiad. Gofynnwyd a oedd y llythyron wedi'u hanfon.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n holi ynghylch hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Rhagfyr, 2015 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN CYNGHORWYR O GYNGOR CYMUNED GORS-LAS pdf eicon PDF 414 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais oedd wedi'i gyflwyno gan Glerc Cyngor Cymuned Gors-las ar ran yr wyth cynghorydd canlynol, a oedd yn aelodau o Gyngor Cymuned Gors-las, am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 fel y gallent siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las ynghylch eu cysylltiad â'r pedair ysgol yn yr ardal sef:-

Ysgol Maes y Gwendraeth - Y Cynghorydd T. Davies

Ysgol Cefneithin - Y Cynghorydd S.D. Martin

Ysgol Dre-fach - Y Cynghorwyr D. Price a C. Green

Ysgol Gors-las - Y Cynghorwyr T. Davies, J.A. Price, E. Davies a G. Griffiths

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i gyflwyno am fod yr wyth cynghorydd yn aelodau o gyrff llywodraethu yr ysgolion uchod, ond nad oeddynt wedi'u penodi gan y Cyngor Cymuned, a bod ganddynt felly fuddiant personol mewn materion ynghylch y cyfryw ysgolion o dan 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd. Hefyd yr oedd y buddiant hwnnw'n rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.

Gan fod y buddiant yn barhaus yr oedd yr ymgeiswyr wedi gofyn, petai'r Pwyllgor yn bwriadu caniatáu'r gollyngiad, i'r gollyngiad fod am weddill eu cyfnod gwasanaethu presennol, hynny yw tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, petai'n bwriadu caniatáu'r ceisiadau, y gellid gwneud hynny ar sail 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, sef bod y buddiant yn effeithio ar ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod.

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(a) o ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr T.Davies, S.D. Martin, D. Price, C. Green, J.A. Davies, E. Davies a G. Griffiths BLEIDLEISIO A SIARAD yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las ynghylch unrhyw drafodaethau am eu swyddogaeth fel llywodraethwyr Ysgol Maes y Gwendraeth, Ysgol Gynradd Cefneithin, Ysgol Gynradd Dre-fach, ac Ysgol Gynradd Gors-las a hynny tan ddiwedd eu cyfnod gwasanaethu presennol sef yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN CYNGHORWYR O GYNGOR CYMUNED GORS-LAS pdf eicon PDF 415 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 11eg Medi, 2015 (gweler cofnod 11), wedi caniatáu gollyngiad, tan 11eg Mawrth, 2015, i'r 15 aelod canlynol o Gyngor Cymuned Gors-las siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned, o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, ynghylch unrhyw drafodaethau am y tri pharc hamdden yr oedd y Cyngor Cymuned yn berchen arnynt ac yn eu cynnal a'u cadw:-

Parc Cefneithin:- Y Cynghorwyr S.D. Martin, T. Jones, H. Davies, B. Kirby a D. Price.

Parc Dre-fach:- Y Cynghorwyr D.W. Edwards, C. Green, A. Rees, T. Jukes a N. Lewis

Parc Gors-las:- T. Davies, A. Owen, J.A. Price, E. Davies a G. Griffiths

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi'i gyflwyno yn y cyfamser gan Glerc Cyngor Cymuned Gors-las ar ran yr un un cynghorwyr, am ymestyn y gollyngiad. Yn ogystal, gan fod y buddiant yn barhaus, yr oedd y Clerc wedi gofyn, petai'r Pwyllgor yn bwriadu caniatáu'r cais, am i'r gollyngiad fod am weddill cyfnod gwasanaethu presennol y Cynghorwyr, hynny yw tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017.

Dywedwyd bod y cais am adnewyddu'r gollyngiad wedi'i gyflwyno am fod gan bob un o'r 15 cynghorydd fuddiant personol yn y materion hyn o dan baragraff 10(2)(ix)(ee) o'r Côd gan eu bod yn aelodau o Bwyllgorau'r Cymdeithasau Lles oedd yn gysylltiedig â chynnal y parciau hynny, ond nad oeddynt wedi'u penodi i'w rolau ar y pwyllgorau hynny gan y Cyngor Cymuned.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorwyr yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd. Er enghraifft, pan fyddai'r Cyngor Cymuned yn penderfynu a fyddai'n gwario arian neu beidio ar y parciau, gallai aelod o'r cyhoedd dybio'n rhesymol fod y ffaith fod cynghorydd yn aelod o Bwyllgor y Gymdeithas Les berthnasol yn gallu dylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch a ddylid gwario'r arian ar y parc, neu ar ryw fater arall nad oedd yn gysylltiedig â'r Gymdeithas. Nodwyd nad oedd gan y cynghorwyr fuddiant ariannol uniongyrchol yn eu gwahanol Gymdeithasau Lles. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, petai'n bwriadu caniatáu'r ceisiadau adnewyddu, y gellid gwneud hynny ar sail 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, sef bod y buddiant yn effeithio ar ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod.

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(a) o ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r 15 aelod uchod o Gyngor Cymuned Gors-las, a hynny tan ddiwedd eu cyfnod gwasanaethu presennol sef tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017, SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Gors-las mewn unrhyw drafodaethau o ran eu haelodaeth o'r Cymdeithasau Lles perthnasol mewn perthynas â'r tri pharc hamdden yr oedd y Cyngor Cymuned yn berchen arnynt ac yn eu cynnal a'u cadw yng Nghefneithin, Dre-fach a Gors-las.  

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR B REES pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod gollyngiad wedi'i roi tan 31ain Mawrth 2016, yn y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Rhagfyr 2015 (gweler cofnod 5), i'r Cynghorydd B. Rees, sef aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo'r cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Rees, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu'r gollyngiad gan ofyn, oherwydd nad oedd wedi defnyddio'r gollyngiad hyd yn hyn, am i'r gollyngiad, pe byddid yn ei ganiatáu, barhau tan o leiaf gyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2016.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais adnewyddu gan y Cynghorydd B. Rees, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo'r cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Rees fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Bowlio Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Rees yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, yr oedd y Cynghorydd Rees wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dros y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Rees.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd B. Rees SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo'r cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad mewn grym tan 9fed Medi 2016.

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR E.W. NICHOLAS pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Rhagfyr 2015 (gweler cofnod 6) wedi caniatáu gollyngiad, tan 31ain Mawrth, 2016, i'r Cynghorydd E.W. Nicholas, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo'r cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Nicholas, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad gan ofyn, oherwydd nad oedd wedi defnyddio'r gollyngiad hyd yn hyn, am i'r gollyngiad, pe byddid yn ei ganiatáu, barhau tan o leiaf gyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2016.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd E.W. Nicholas, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo'r cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Nicholas fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Nicholas yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod yr holl ffeithiau ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, yr oedd y Cynghorydd Nicholas wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Nicholas.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd E.W. Nicholas SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo'r cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad mewn grym tan 9fed Medi 2016.

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR W R A DAVIES pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Rhagfyr 2015 (gweler cofnod 7), wedi caniatáu gollyngiad, tan 31ain Mawrth, 2016, i'r Cynghorydd W.R.A. Davies, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo'r cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Davies, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad gan ofyn, oherwydd nad oedd wedi defnyddio'r gollyngiad hyd yn hyn, am i'r gollyngiad, pe byddid yn ei ganiatáu, barhau tan o leiaf gyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2016.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd W.R.A. Davies, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo'r cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Davies yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod yr holl ffeithiau ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, yr oedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Davies.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd W.R.A. Davies SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo'r cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad mewn grym tan 9fed Medi 2016.

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD I R LLEWELLYN pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Rhagfyr 2015 (gweler cofnod 11), wedi caniatáu gollyngiad, tan 10fed Mawrth, 2016, i'r Cynghorydd I.R. Llewellyn, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Llewellyn, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd Llewellyn, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo Asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Llewellyn fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(ii) o'r Côd Ymddygiad gan fod y mater yn ymwneud â'i gyflogwr, neu'n debygol o effeithio ar ei gyflogwr, sef Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Llewellyn yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod yr holl ffeithiau ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, yr oedd y Cynghorydd Llewellyn wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) am na fyddai cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned yn effeithio ar hyder y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd I.R. Llewellyn SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad mewn grym tan 9fed Medi 2016.

10.

CÔD YMDDYGIAD - CANLLAW HAWDD EI DDEFNYDDIO pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod paragraff 9.3 (a) o Ran 2 o gyfansoddiad y Cyngor yn mynnu bod y Pwyllgor Safonau yn 'cynorthwyo'r cynghorwyr a'r aelodau cyfetholedig i gydymffurfio â Chôd Ymddygiad yr Aelodau' ac yn estyn cymorth i Gynghorwyr Tref a Chymuned yn y Sir o ran y Côd ac o ran cydymffurfio â'i egwyddorion.

 

Gan fod buddiannau personol a rhagfarnol ymysg y prif elfennau o'r Côd oedd yn peri'r anhawster mwyaf i'r aelodau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod llyfryn canllaw hwylus wedi'i lunio (yn Gymraeg ac yn Saesneg) er mwyn rhoi arweiniad, ar ffurf tri cham, i'r darllenydd ynghylch y rhan berthnasol o'r Côd, gan estyn cymorth felly i'r cynghorwyr a'r aelodau cyfetholedig weithredu'r rhan honno o'r Côd. Pe byddai'r Pwyllgor yn mabwysiadu'r llyfryn canllaw, byddai'n cael ei lansio'n ffurfiol yn y sesiynau Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad y byddid yn eu cynnal dros yr haf.

 

Mynegodd y Pwyllgor ei gefnogaeth wrth ystyried y fersiwn drafft, ond awgrymodd y dylid nodi'r dyddiad yn y canllaw pan fo unrhyw newidiadau'n digwydd iddo. Cadarnhaodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddid yn diwygio'r canllaw yn y modd hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Canllaw Hwylus i'r Côd Ymddygiad a'ilansio'n ffurfiol yn y sesiynau Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad y byddid yn eu cynnal yn ystod haf 2016.

11.

FFURFLEN GAIS DDIWYGIEDIG AM OLLYNGIADAU pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn unol â pharagraff 9.3 (f) o Ran 2 o gyfansoddiad y Cyngor, wedi dirprwyo awdurdod i ganiatáu gollyngiadau i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yn achos buddiant personol a rhagfarnol o dan Gôd Ymddygiad yr Aelodau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor taw'r sefyllfa bresennol oedd bod yr holl geisiadau am ollyngiad yn cael eu cyflwyno ar ffurflen safonol gyda golwg ar grynhoi digon o wybodaeth i alluogi'r Pwyllgor i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cais. Fodd bynnag, ar ôl cynnal adolygiad o gynnwys ac o gynllun y ffurflen gais yn sgil ei defnyddio ac er mwyn adlewyrchu esiamplau o arferion da gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r ffurflen ddiwygiedig, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Yr oeddid yn cynnig, pe byddid yn cymeradwyo'r ffurflen ddiwygiedig, ei bod yn weithredol erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10fed Mehefin, 2016, a'i bod hefyd yn cael ei hyrwyddo yn y digwyddiadau hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad y byddid yn eu cynnal dros yr haf. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiwn diwygiedig o'r Ffurflen Gais am Ollyngiad.

 

12.

FORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, ers nifer o flynyddoedd, wedi bod yn trefnu sesiynau hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned. Yn unol â hynny, bu'n ystyried y cyflwyniad arfaethedig ar gyfer sesiynau 2016, a oedd yn cwmpasu'r adborth o ddigwyddiadau 2015, gan roi sylw i'r prif newidiadau sef:-

 

1.     Dileu'r adran benodol ynghylch 'Cydraddoldeb a Pharch' ac am 'Achos Calver',

2.     Ailysgrifennu'r adran am Fuddiannau Personol fel y gellid, yn hytrach na dal i ddefnyddio dull 'darlithio', roi sylw i astudiaethau achos gyda chymorth canllaw hwylus,

3.     Cynnwys sesiwn Holi ac Ateb ar wahân ar y diwedd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor taw'r bwriad, o ran sesiynau hyfforddiant 2016, oedd eu cynnal yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin yn ystod mis Mehefin, ac na fyddai cyfyngiad ar nifer y cynrychiolwyr a fyddai'n cael bod yn bresennol o bob awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cyflwyniad ar gyfer Sesiynau Hyfforddiant 2016 ynghylch y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned. 

13.

BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) pdf eicon PDF 401 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, er gwybodaeth, adroddiad am y fersiwn drafft o Fil Llywodraeth Leol (Cymru), a oedd wedi ei gyhoeddi ar 24ain Tachwedd. Er bod y cyfryngau wedi bod yn hoelio sylw ar yr argymhellion yn y Bil i leihau nifer y Cynghorau Sir a Bwrdeistref, nodwyd ei fod yn cynnwys darpariaethau eraill oedd yn berthnasol i waith y Pwyllgor Safonau, fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.