Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Julie James a Philip Rogers.
|
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin, 2019 yn gofnod cywir.
|
|||||
DATA CYDYMFFURFIO Â'R CÔD PDF 374 KB Cofnodion: Yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019, cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cynghorau tref a chymuned a oedd wedi cyflwyno Data Cydymffurfio â'r Côd. Nodwyd bod 53 o'r 72 cyngor tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin bellach wedi ymateb a bod disgwyl am ymatebion gan 19 o'r cynghorau a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys rhai nad oeddent wedi ymateb ers y 2/3 blynedd diwethaf.
Yn dilyn cyhoeddi'r agenda ar gyfer y cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod ymatebion wedi dod i law gan gynghorau cymuned Llansadwrn, Llanwrda, Meidrim a Dyffryn Cennen, gan gynyddu'r cyfanswm a oedd wedi ymateb i 57, tra bod 15 cyngor heb ymateb eto.
Mynegodd y Pwyllgor bryder bod 15 cyngor heb ymateb i'r cais am wybodaeth eto, a bod rhai heb ymateb ers dwy neu dair blynedd, ac dywedwyd y dylid anfon llythyr at Gadeiryddion yr awdurdodau hynny (copïau i'r Clercod) yn gofyn iddynt gyflwyno'r wybodaeth berthnasol cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
COFLYFR CÔD YMDDYGIAD PDF 371 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019. Manylai ar grynodebau 2 ymchwiliad côd a gynhaliwyd lle daethpwyd o hyd i dystiolaeth o dorri'r côd, ond lle'r oedd yr Ombwdsmon yn credu nad oedd angen cymryd unrhyw gamau.
Nododd y Pwyllgor nad oedd dim o'r achosion yn ymwneud â chynghorwyr o Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||
HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD 2019 PDF 376 KB Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 9 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019, cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch presenoldeb yn y digwyddiadau Hyfforddiant Côd Ymddygiad a gynhelir gan yr Awdurdod ar gyfer cynghorau tref a chymuned yn bennaf. Nodwyd bod dau ddigwyddiad wedi'u cynnal ar 10 ac 16 Gorffennaf a bod 49 o bobl yn bresennol ar 10 Gorffennaf a 45 o bobl yn bresennol ar 16 Gorffennaf, gan gynrychioli cyfanswm o 43 o wahanol gynghorau, sy'n gynnydd ar y 30 a gynrychiolwyd yn 2018.
Cafwyd trafodaeth ynghylch ffyrdd gwahanol o gynyddu presenoldeb cynghorau tref a chymuned yn y sesiynau hyfforddiant, a oedd yn cynnwys cadw'r fformat hyfforddiant presennol yn Neuadd y Sir a chynhyrchu fideo hyfforddiant ar-lein. Cyfeiriwyd hefyd at fanteision trefnu hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Sir. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n archwilio'r posibilrwydd o gynhyrchu fideo hyfforddiant a threfnu hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON PDF 389 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2018/19 a oedd yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon ac yn rhoi gwybodaeth am achosion o gamweinyddu ac achosion Côd Ymddygiad y deliwyd â nhw gan ei swyddfa yn ystod cyfnod yr adroddiad.
Yng nghyd-destun y Côd Ymddygiad, roedd y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad fel a ganlyn:
- Roedd cynnydd cyffredinol o 4% yn nifer y cwynion a ddaeth i law o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol o 270 i 282. - Cafodd cyfanswm o 308 o g?ynion yngl?n â'r côd eu cau yn ystod y flwyddyn (gan gynnwys y rheiny a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn flaenorol) - cynnydd o 25%. - Ymchwiliwyd i 51 (16.5%) o'r achosion a gaewyd a chyfeiriwyd 8 at y Pwyllgor Safonau perthnasol neu Banel Dyfarnu Cymru. Cafodd yr 83.5% oedd yn weddill eu cau yn dilyn asesiad cychwynnol a heb ymchwiliad llawn. - Roedd 67% (190) o'r 282 cwyn a ddaeth i law yn ymwneud â chynghorwyr tref a chymuned, roedd 32% (91) yn ymwneud â chynghorwyr sir ac roedd yr 1 oedd yn weddill yn ymwneud ag aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol. - Roedd yr Ombwdsmon wedi rhoi sylwadau am y cynnydd pellach yn nifer y cwynion yn erbyn cynghorwyr tref a chymuned ac roedd yn pryderu bod llawer ohonynt yn gysylltiedig â honiadau ynghylch peidio â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch, gyda chynnydd yn nifer y cwynion a ddaeth i law gan glercod a gweithwyr y cyngor. - Ers 2011/12, bu gostyngiad cyffredinol o 32% yn nifer y cwynion a ddaeth i law yngl?n â'r côd.
O ran camweinyddu, cafodd cyfanswm o 2253 o g?ynion eu cau - bu 647 (28%) o'r rheiny yn destun ystyriaeth neu ymchwiliad manwl, a chafodd 532 (82%) eu datrys neu eu cadarnhau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|