Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs. M. Dodd a'r Cynghorydd G.B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

3.1 penodi Mr C. Downward yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

3.1 penodi Mr A. Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

4.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOE A GYNHALIWYD AR Y 11EG MEDI 2015 pdf eicon PDF 362 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg Medi, 2015 yn gofnod cywir

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR B REES pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd B Rees, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Rees fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Bowlio Llandybïe.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Rees hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Rees wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Rees.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd B Rees SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Mawrth 2016.

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR E W NICHOLAS pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd E.W. Nicholas, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Nicholas fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Nicholas hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Rees wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Nicholas.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd E.W.Nicholas SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Mawrth 2016.

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD COUNCILLOR W R A DAVIES pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd W.R.A. Davies, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Davies hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Davies wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Davies.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd W.R.A. Davies SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 31 Mawrth 2016.

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J JONES pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd J. Jones, a oedd yn aelod o Gyngor Tref Llandeilo, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo mewn perthynas â materion yn ymwneud â G?yl Gerdd flynyddol Llandeilo Fawr, neu sy'n debygol o effeithio ar yr ?yl.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(bb) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr Artistig yr ?yl.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol o ran cais y Cynghorydd Jones.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd J. Jones SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch G?yl Gerdd flynyddol Llandeilo Fawr a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 10 Mehefin 2016.

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G THOMAS pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir, Gareth Thomas am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a/neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn cyfarfodydd o Gyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(i) o'r Côd Ymddygiad gan fod y materion yn ymwneud ag unrhyw gyflogaeth neu fusnes a wneid gan y Cynghorydd Thomas, oedd yn ffermwr.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Thomas hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Thomas wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor eu bod yn eu cyfarfod ar 29 Gorffennaf 2015 (gweler cofnod 6) wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Thomas siarad ond nid pleidleisio a hefyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau yn ymwneud â ffermio llaeth tan 4 Rhagfyr 2015. Cafodd y gollyngiad ei weithredu ar un achlysur ynghylch Rhybudd o Gynnig a gafodd ei ystyried gan y Cyngor Sir ar 14 Hydref, 2015.  Hefyd dywedodd fod y cais presennol am amrywio'r hyn a ganiatawyd eisoes er mwyn cynnwys unrhyw faterion yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol, ac nid y diwydiant llaeth yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd G. Thomas SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 10 Mehefin 2016.

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J LEWIS pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir, Jean Lewis am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a/neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn cyfarfodydd o Gyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Lewis fuddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(i) o'r Côd Ymddygiad gan fod y materion yn ymwneud ag unrhyw gyflogaeth neu fusnes a wneid gan y Cynghorydd Lewis, oedd yn ffermwr.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lewis hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lewis wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor eu bod yn eu cyfarfod ar 29 Gorffennaf 2015 (gweler cofnod 6) wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Lewis siarad ond nid pleidleisio a hefyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau yn ymwneud â ffermio llaeth tan 4 Rhagfyr 2015. Cafodd y gollyngiad ei weithredu ar un achlysur ynghylch Rhybudd o Gynnig a gafodd ei ystyried gan y Cyngor Sir ar 14 Hydref, 2015.  Hefyd dywedodd fod y cais presennol am amrywio'r hyn a ganiatawyd eisoes er mwyn cynnwys unrhyw faterion yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol, ac nid y diwydiant llaeth yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd J. Lewis SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 10 Mehefin 2016.

11.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD I R LLEWELLYN pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd I.R. Llewellyn, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo Asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Llewellyn fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ii) o'r Côd Ymddygiad gan fod y mater yn ymwneud â'i gyflogwr,  neu'n debygol o effeithio ar ei gyflogwr, sef Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Llewellyn hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Llewellyn wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Wrth ystyried y cais, roedd y Pwyllgor wedi rhoi sylw i gyflogaeth y Cynghorydd Llewellyn fel Rheolwr Blaen-gynllunio y Cyngor Sir, i'r datganiad yn ei gais nad oedd ei rôl yn cynnwys unrhyw ymgysylltiad uniongyrchol â'r Strategaeth Trosglwyddo Asedau, na'r broses gwneud penderfyniadau ar Lefel Cyngor Sir ac nad oedd ganddo unrhyw ddylanwad dros amodau unrhyw brydles i Gyngor Cymuned Llandybïe. Er yn cydnabod y pwyntiau hyn, roedd y Pwyllgor yn teimlo y gallai cyflogaeth y Cynghorydd Llewellyn roi cipolwg iddo o'r Broses Trosglwyddo Asedau, ac er nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i ganiatáu gollyngiad iddo siarad yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned, roedd o'r farn na fyddai'n briodol ymestyn y gollyngiad i gynnwys pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd I.R. Llewellyn SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 10 Mawrth 2016.

12.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD A SMITH pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd A. Smith, a oedd yn aelod o Gyngor Tref Rhydaman, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ammanford Enterprise Partnership Ltd.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Smith fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(x)(c)(v), gan fod ei bartner yn Gyfarwyddwr y Cwmni, a 10 (2)(ix)(bb) gan ei fod yn ôl pob golwg yn aelod o'r cwmni hwnnw.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Smith hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd wrth ymdrin â cheisiadau gan y cwmni i'r cyngor cymuned am gymorth ariannol, neu mewn perthynas â gweithrediadau eraill rhwng y cwmni a'r cyngor.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Smith wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, mai rheoliadau 2(d)(f) a (h) oedd y rhai mwyaf priodol.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried lefel cyfranogiad y Cynghorydd Smith, a'i bartner, gydag Ammanford Enterprise Partnership Limited,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd A Smith i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas ag Ammanford Enterprise Partnership Limited yn cael ei WRTHOD.

13.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J F GWYNFRYN -EVANS pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd  J.F. Gwynfryn-Evans, a oedd yn aelod o Gyngor Tref Rhydaman, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ammanford Enterprise Partnership Ltd.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Gwynfryn-Evans fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(x)(c)(v) o'r Côd Ymddygiad, gan fod ei gyfeillion yn Gyfarwyddwr ac yn aelod o'r cwmni uchod a bod natur y cyfeillgarwch yn golygu y dylid ystyried yn briodol bod yr unigolion hynny yn gyfranogion agos a phersonol o'r cwmni.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Gwynfryn-Evans hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd wrth ymdrin â cheisiadau gan y cwmni i'r cyngor cymuned am gymorth ariannol, neu mewn perthynas â gweithrediadau eraill rhwng y cwmni a'r cyngor.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gwynfryn-Evans wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, mai rheoliadau 2(d)(f) a (h) oedd y rhai mwyaf priodol.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor roi ystyriaeth i berthynas agos a phersonol y Cynghorydd Gwynfryn-Evans â Chyfarwyddwr ac aelod o Ammanford Enterprise Partnership Limited,

 

PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.F. Gwynfryn-Evans i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas ag Ammanford Enterprise Partnership Limited yn cael ei WRTHOD.

14.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G HOWELLS pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd G. Howells, aelod o Gyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri, am ganiatáu gollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas â materion yn ymwneud â hawl tramwy  oedd yn destun anghydfod i Croft Cottage, Llansteffan, ac y gallai hefyd effeithio ar dir a brydlesir gan y Cyngor Cymuned.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Howells fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(c)(i) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn gyfaill i un o'r partïon yn yr anghydfod ers nifer o flynyddoedd.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Howells hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Howells wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(e)(f)(h) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, nad oedd rheoliadau 2(e) ac (i) yn briodol yn ôl pob golwg. Mewn perthynas ag (f), roedd y Cynghorydd yn gyfreithiwr wedi ymddeol ac roedd ganddo brofiad helaeth o weithredu mewn materion yn ymwneud ag eiddo, gan gynnwys ar ran y Cyngor Cymuned. Gan hynny, gallai'r Pwyllgor ystyried y byddai ganddo wybodaeth dechnegol a chyfreithiol yn ogystal â dealltwriaeth o drafodion cyfreithiol perthnasol y gorffennol a fyddai o gymorth i'w gyd-gynghorwyr yn eu trafodaethau.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor roi sylw i gyfeillgarwch personol maith y Cynghorydd Howell ag un o bartïon yr anghydfod,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd G. Howells i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas ag anghydfod ynghylch hawl tramwy i Croft Cottage, Llansteffan, yn cael ei WRTHOD.

15.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G HOWELLS pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd G. Howells, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Llansteffan ac Eglwys y Plwyf, Llansteffan.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Howells fuddiant personol yn y ddau fater yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(aa) mewn perthynas â'r ysgol a 10 (2) (ix) (ee) mewn perthynas ag Eglwys y Plwyf i'r graddau:

1.     Bod yr ysgol yn gorff a arferai swyddogaethau cyhoeddus a bod y Cynghorydd Howells, fel Cadeirydd, yn dal swydd rheoli cyffredinol ac nad oedd wedi'i benodi'n llywodraethwr yr ysgol gan y Cyngor Cymuned;

2.     Dylid ystyried yr Eglwys yn gymdeithas breifat yr oedd ef, fel Warden yr Eglwys, yn aelod ohoni.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Howells hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Howells wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd G. Howells SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch Ysgol Gynradd Llansteffan ac Eglwys y Plwyf, Llansteffan, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan 10 Mehefin 2016.

16.

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD PANEL DYFARNU CYMRU - Y CYNGHORYDD CYMUNED HAULWEN LEWIS pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Mewn perthynas â Chofnod 10 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2015, derbyniodd y Pwyllgor benderfyniad rhesymegol llawn Panel Dyfarnu Cymru i atal Cynghorydd Cymuned Haulwen Lewis, aelod o Gyngor Cymuned Llanfihangel ar Arth, am gyfnod o dri mis mewn perthynas â thorri paragraffau 11(1) ac 14(1) (a) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Panel Dyfarnu Cymru yn cael ei dderbyn.

 

17.

CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU GYFAN 2015 pdf eicon PDF 397 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2015. Roedd y thema'n ystyried a oedd Egwyddorion Nolan yn parhau'n addas i'r pwrpas 20 mlynedd ar ôl eu cyflwyno a chafwyd gweithdai'n ymwneud â Datgelu Camarfer, Cyfryngau Cymdeithasol - Cadw Allan o Drwbl, Datrys Cwynion yn Lleol, a Chynghorau Tref a Chymuned - Llywodraethu.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2015 yn cael ei dderbyn.

18.

CYNHADLEDD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU YNGHYLCH DATGELU CAMARFER pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynhadledd Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Datgelu Camarfer a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 29 Hydref, 2015. Pwrpas y gynhadledd oedd rhannu arferion gorau ar draws amrywiaeth eang o asiantaethau cyhoeddus a thrydydd sector o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Cynhadledd Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Datgelu Camarfer 2015 yn cael ei dderbyn.

 

19.

FFEITHLENNI YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gopïau o'r ffeithlenni canlynol a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â:-

1.     Sut roedd yr Ombwdsmon yn penderfynu ymchwilio i g?yn ai peidio;

2.     Yr hyn y gall Cynghorwyr ddisgwyl mewn cyfweliad fel rhan o ymchwiliad yn ymwneud â'r Côd.

 

Roedd y Pwyllgor, wrth groesawu'r wybodaeth a ddarparwyd yn y ffeithlenni, o'r farn y dylid eu dosbarthu i holl aelodau'r Cyngor ac i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

19.1  bod y ffeithlenni a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu derbyn.

 

19.2  bod y ffeithlenni'n cael eu dosbarthu i holl aelodau'r Cyngor Sir ac i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin