Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen a B.A.L. Roberts. Bu i'r Cadeirydd longyfarch y Cynghorwyr S.M. Allen, B.A.L. Roberts a G.B. Thomas ar gael eu hail-ethol a bu iddo longyfarch y Cynghorydd J. Gilasbey ar gael ei hethol i'r Cyngor Sir ac estynnodd ei ddiolch iddi am ei gwaith ar y Pwyllgor yn gynrychiolydd cymunedol.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SIR E. DOLE PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i'r Pwyllgor ystyried cais gan y Cynghorydd Sir E. Dole, a oedd wedi ei benodi'n arweinydd y Cyngor ar 20 Mai 2017, am ollyngiad i benodi'r Cynghorydd L. Evans, sy'n chwaer-yng-nghyfraith iddo, yn Aelod o’r Bwrdd Gweithredol gan ei fod am iddi ymgymryd â rôl yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai, sef swydd sydd â chyflog uwch yn hytrach na chyflog sylfaenol. Rhoddwyd gollyngiad i'r Cynghorydd Dole benodi'r Cynghorydd Evans i'r Bwrdd Gweithredol yn y rôl hon o dan y Weinyddiaeth flaenorol a bu'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu'n flaenorol, er 2012, fel llefarydd yr wrthblaid ar Dai ar ôl iddi gael ei phenodi i'r rôl honno gan arweinydd yr wrthblaid ar y pryd hwnnw, y Cynghorydd Hughes-Griffiths. Hefyd, bu'r Cynghorydd Evans yn flaenorol yn dal swydd gyflogedig Cadeirydd Pwyllgor Craffu ar ôl iddi gael ei henwebu i'r rôl honno gan y cyngor llawn. Yn dilyn trafodaeth fanwl PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad i'r Cynghorydd E. Dole, o dan Reoliad 2(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, i'w alluogi i benodi'r Cynghorydd L. Evans yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol os oedd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
|