Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.P. Jenkins A.D.T. Speake.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
AWDURDOD TÂN CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cynghorydd C.P. Higgins wedi ymddiswyddo'n ddiweddar fel aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yr oedd gan y Cyngor bum cynrychiolydd arno. Gan fod y gynrychiolaeth ar yr uchod yn gytbwys yn wleidyddol, ymgynghorwyd ag Arweinydd y Gr?p Llafur ynghylch enwebu aelod i lenwi'r lle gwag, ac roedd enw'r Cynghorydd D.C. Evans wedi'i gynnig. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd D.C. Evans yn un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle'r Cynghorydd C.P. Higgins.
|
|
Y CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG) Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol [CYSAG] yr oedd gan y Cyngor bedwar cynrychiolydd arno. Gan fod y gynrychiolaeth ar yr uchod yn gytbwys yn wleidyddol, ymgynghorwyd ag Arweinydd Gr?p Plaid Cymru ynghylch enwebu aelod i lenwi'r lle gwag, ac roedd enw'r Cynghorydd M.J.A. Lewis wedi'i gynnig. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd M.J.A. Lewis yn un o gynrychiolwyr y Cyngor ar SACRE yn lle'r Cynghorydd H.A.L. Evans.
|
|
CYNGOR LLYFRAU CYMRU Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cynghorydd A. Lenny wedi ymddiswyddo fel aelod o Gyngor Llyfrau Cymru a bod angen i'r Cyngor ystyried penodi rhywun i lenwi'r lle gwag. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd S.E. Thomas yn lle'r Cynghorydd A. Lenny ar Gyngor Llyfrau Cymru.
|
|
BWRDD RHEOLI CYMDEITHAS TAI CANTREF Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cynghorydd E. Dole wedi ymddiswyddo fel sylwedydd ar Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Cantref a bod angen i'r Cyngor ystyried penodi rhywun i lenwi'r lle gwag. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd M.J.A. Lewis yn sylwedydd y Cyngor ar Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Cantref yn lle'r Cynghorydd E. Dole.
|
|
CYNGOR CYMRU I'R DEILLION - GRWP LLYWIO RHANBARTHOL (A ELWID GYNT Y PWYLLGOR GWAITH) Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cynghorydd P.E.M. Jones wedi ymddiswyddo fel aelod o Gyngor Cymru i'r Deillion - Gr?p Llywio Rhanbarthol a bod angen i'r Cyngor ystyried penodi rhywun i lenwi'r lle gwag. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd K.P. Thomas ar Gyngor Cymru i'r Deillion - Gr?p Llywio Rhanbarthol yn lle'r Cynghorydd P.E.M. Jones.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2015, gan eu bod yn gofnod cywir.
|