Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
||||||||||
GOHIRIO'R CYFARFOD AC AILYMGYNNULL AM 10:00 Y.B YN CLWB RYGBI TRIMSARAN, TRIMSARAN, CYDWELI, CAERFYRDDIN ER MWYN YMWELD Â'R SAFLE SY'N GYSYLLTIEDIG Â'R CAIS AM DRWYDDED.
AR ÔL GORFFEN YR YMWELIAD SAFLE UCHOD BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN SIAMBR, 3 HEOL SPILMAN, CAERFYRDDIN AM 10.45 Y.B ER MWYN CAEL SYLWADAU AC I BENDERFYNU AR CAIS UCHOD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Torrodd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn 3 Heol Spilman, Caerfyrddin am 9:35am ac ailymgynullodd ar y safle am 10:00am yng Nghlwb Rygbi Trimsaran, Canolfan Plas y Sarn, Trimsaran, Cydweli er mwyn gweld lleoliad yr eiddo ac eiddo'r gwrthwynebwyr mewn cysylltiad â'r cais a gyflwynwyd am drwydded safle. Cafodd yr Is-bwyllgor y cyfle i archwilio cyfleusterau mewnol ac allanol yr eiddo. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.50am i ystyried y cais.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan Glwb Rygbi Trimsaran am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Trimsaran, Canolfan Plas y Sarn, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AA fel a ganlyn:-
Cais i Ganiatáu:
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill
Yn ogystal â'r dogfennau uchod, cafodd yr Is-bwyllgor y deunydd ychwanegol canlynol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod:
· E-bost gan Mrs H. Waters at Mr Andrew Rees - Swyddog Trwyddedu · E-bost gan L. Davies dyddiedig 15 Ionawr, 2020 at yr Awdurdod Trwyddedu mewn ymateb i sylwadau Mrs Waters · Cynllun lleoliad safle yn dangos lleoliad Clwb Rygbi Trimsaran mewn perthynas ag eiddo'r gwrthwynebwyr.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad, a dywedodd er nad oedd cwynion wedi dod i law mewn perthynas â safle'r cais, fod un g?yn wedi dod i law yn 2017 yn ymwneud â safle presennol y Clwb yn 40 Heol Llanelli, Trimsaran lle'r oedd wedi bod yn gweithredu am nifer o flynyddoedd.
Cyfeiriodd at y sylwadau ac awgrymodd yr amodau trwydded a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ac Iechyd y Cyhoedd (gweler Atodiadau C a D), a dywedodd fod yr amodau hynny wedi cael eu derbyn gan yr ymgeisydd a'i fod yn cytuno arnynt. Hefyd, newidiodd yr ymgeisydd yr oriau gweithredu ar ôl derbyn yr amodau fel bod y safle yn cau awr yn gynharach na'r amser y gwnaed y cais amdano'n wreiddiol h.y. yr holl weithgareddau trwyddedadwy, gan gynnwys peidio â gwerthu alcohol ar ôl 01:00am a chau'r safle am 01:30am.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny gael eu hatodi i'r drwydded ynghyd â'r amrywiad y cytunwyd arno ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |