Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafodd dim datganiadau o fuddiant personol eu cyflwyno yn y cyfarfod.</AI1>
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Is-bwyllgor gais gan Morgan & John Leisure Ltd am amrywio trwydded safle Chillies Diner & Mojitos Bar, 17–21 Stryd Cowell, Llanelli SA15 1YA fel a ganlyn:-
Cyflenwi Alcohol/Ffilmiau: Dydd Llun – Dydd Iau, 09:00 – 00:30 Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 09:00 – 03:00
Cerddoriaeth Fyw: Dydd Llun – Dydd Sul, 09:00 – 23:30
Cerddoriaeth a recordiwyd: Dydd Sul – Dydd Iau, 09:00 – 00:30 Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 09:00 – 03:00
Lluniaeth hwyrnos: Dydd Sul – Dydd Iau, 23:00 – 00:30 Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 23:00 – 03:00
Amserau Ansafonol:- caniatáu'r holl weithgareddau uchod ac eithrio cerddoriaeth fyw, ar 12 achlysur y flwyddyn tan 03:30
Roedd y drwydded safle bresennol yn caniatáu:-
Cyflenwi Alcohol/Ffilmiau/Cerddoriaeth a recordiwyd:- Dydd Llun – Dydd Sul, 10:00 – 00:15 Cerddoriaeth Fyw: Dydd Llun – Dydd Sul, 10:00 – 23:30 (ar hyd at 24 achlysur y flwyddyn) Lluniaeth hwyrnos: Dydd Llun – Dydd Sul, 23:00 – 00:15 Oriau Agor: Dydd Llun – Dydd Sul, 09:00 – 00:30
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ddogfennaeth ychwanegol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod sef dogfennaeth gan yr ymgeisydd yn newid ei gais gan gael gwared ar yr elfennau hynny oedd yn ymwneud â chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr adroddiad gan nodi manylion y cais, fel y'u hamlinellwyd uchod, a dywedodd fod y dogfennau canlynol hefyd wedi'u hatodi iddo:- · Atodiad A – copi o'r cais · Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu; · Atodiad C – Sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys, fel y cytunwyd arnynt â'r ymgeisydd · Atodiad D – Sylwadau oedd wedi dod i law gan rai oedd a wnelont â'r mater;
Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi cyflwyno sylwadau ar y cais.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr Adroddiad, a thynnodd sylw'r Is-bwyllgor at nifer o ffactorau'n ymwneud â hynny. Yn gyntaf, o ran pwynt c), a'r mater o ganiatâd cynllunio'r safle, roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad fyddai gofyn am amrywiad i'r caniatâd cynllunio hwnnw mewn perthynas ag unrhyw amrywiad a gâi ei ganiatáu gan yr Is-bwyllgor y diwrnod hwn nw, ac na fyddai'r amrywiad yn cael ei weithredu tan y ceid y caniatâd cynllunio. O ran pwynt f), roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r farn nad oedd geiriad yr amserlen weithredu, a oedd wedi'i chyflwyno fel rhan o'r cais, yn ddigon manwl i'w alluogi i lunio amodau trwyddedu clir y gellid eu gorfodi yn unol ag Adran 18(2)(a) o'r Ddeddf Trwyddedu. Roedd yr ymgeisydd wedi datgan dan bwynt f) fod asesiad risg wedi'i gynnal, ond nid oedd tystiolaeth ddogfennol i ategu'r honiad hwnnw. Felly, roedd ymweliadau safle wedi'u cynnal ganddo ef a chan gynrychiolydd o Is-adran Iechyd y Cyhoedd ar benwythnosau ar wahân i asesu a oedd angen i asesiad o'r fath gael ei gynnal a'i ddogfennu'n ffurfiol. Yn ystod yr achlysuron hynny, canfuwyd mai cerddoriaeth gefndir, isel yn unig oedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |