Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mercher, 9fed Awst, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Nodyn: Moved from 18.07.2023 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH YNGHYLCH A FATERION ARIANNOL NEU FUSNES UNRHYW UNIGOLYN PENODOL (GAN GYNNWYS YR AWDURDOD SY'N DAL Y WYBODAETH HONNO). OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 2 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn arwain at gyhoeddi ffilm heb dystysgrif a byddai hynny'n tanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Llinos Hallgarth, ar ran Cered - Menter Iaith Ceredigion, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio ffilm a oedd yn ddiddosbarth yn flaenorol.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y dylai'r ffilm a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan Gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn galluogi'r Is-bwyllgor i wneud yr argymhelliad gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilm, cafodd gyfle i wylio'r ffilm gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL y byddai "Teulu T? Crwn" yn cael ei hystyried yn ffilm yr argymhellir i blant ei gwylio yng nghwmni oedolyn (PG).