Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 26ain Ebrill, 2016 10.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - GWESTY'R PORTHMYN, 106 HEOL AWST, CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi’i gyflwyno gan Felinfoel Brewery Co. Ltd. i amrywio’r drwydded safle mewn perthynas â’r Drovers Arms, 106 Heol Awst, Caerfyrddin, i ganiatáu:-

 

Cyflenwi Alcohol:               Dydd Sul tan ddydd Iau                08:00 – 01:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn       08:00 – 02:00

Dydd Sul a dydd Llun G?yl y        08:00 – 02:00

Banc, Noswyl Nadolig a G?yl

San Steffan

 

Lluniaeth Hwyrnos:            Dydd Sul tan ddydd Iau                23:00 – 01:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn       23:00 – 02:00

Dydd Sul a dydd Llun G?yl y        23:00 – 02:00

Banc, Noswyl Nadolig a G?yl

San Steffan

 

Oriau Agor:                        Dydd Sul ddydd Iau                      08:00 – 01:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn       08:00 – 02:30

Dydd Sul a dydd Llun G?yl y        08:00 – 02:30

Banc, Noswyl Nadolig a G?yl

San Steffan

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

·       Atodiad A – copi o'r cais;

·       Atodiad B – copi o'r Drwydded Safle bresennol;

·       Atodiad C – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

·       Atodiad D – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

·       Atodiad E – sylwadau personau eraill yn ategu’r cais.

 

Dosbarthwyd copïau o’r eitemau canlynol o ddogfennaeth ychwanegol yn y cyfarfod, gyda chytundeb pob parti:-

 

-   e-bost dyddiedig 14eg Ebrill 2016 oddi wrth Glerc Cyngor Tref Caerfyrddin i Heddlu-Dyfed Powys yn hysbysu bod y Cyngor Tref wedi penderfynu cefnogi’r heddlu yn eu gwrthwynebiad i’r cais;

-    e-bost dyddiedig 19eg Ebrill 2016 oddi wrth y Cynghorydd Alan Speake yn cynnwys ei sylwadau;

-   e-bost dyddiedig 22ain Ebrill 2016 oddi wrth Glerc Cyngor Tref Caerfyrddin i Heddlu Dyfed-Powys yn nodi rhesymau dros wrthwynebiad y Cyngor Tref i’r cais;

-    llythyr dyddiedig 25ain Ebrill 2016 oddi wrth Felinfoel Brewery Co. Ltd. i Is-adran Drwyddedu’r Awdurdod yngl?n ag asesiadau risg a gynhaliwyd yn y Drovers Arms.

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel sydd i’w gweld yn Atodiad C i’r adroddiad.  Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

Cyflwynodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ei sylwadau ef fel sydd i’w gweld yn Atodiad D i’r adroddiad.  Cyfeiriodd at y ffaith y cafodd Heol Awst ei nodi yn fan problemus o ran ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn 2007 a’i bod wedi parhau i fod yn broblemus ers hynny. Daeth Heol Awst yn brysurach yn 2013/14 ac yn dilyn pryderon yngl?n â throseddau ac anhrefn ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, lluniwyd adroddiad ar ddigwyddiadau yn Heol Awst. Un o’r prif ganfyddiadau oedd y bu cynnydd amlwg mewn troseddau ac anhrefn ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn 2014.  A rhwng mis Mai 2013 a mis Gorffennaf 2015, roedd cydberthynas bendant rhwng troseddau ac anhrefn ac adloniant yr hwyrnos ar nos Wener a nos Sadwrn.  Meddai, er nad oedd digwyddiadau o droseddau ac anhrefn wedi’u cofnodi yn erbyn y safle, roedd eu pryderon yn ymwneud â lleoliad y safle a’r lefel o ymddygiad gwrth-gymdeithasol a throseddau ac anhrefn yn yr ardal.  Yng ngoleuni’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.