Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin
Rhif | eitem |
---|---|
DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED SAFLE - CAEAU PARC GLANRANNELL, CRUG-Y-BAR, LLANWRDA, SIR GAERFYRDDIN, SA19 8SA NODER:
Cofnodion: Gadawodd yr Is-bwyllgor yr ystafell ac ailymgynnull ar safle Caeau Parc Glanrannell, Crug-y-bar, Llanwrda am 10.05 a.m. er mwyn cael golwg ar leoliad y safle mewn perthynas ag eiddo'r gwrthwynebydd. Cafodd yr Is-bwyllgor gyfle i gerdded o gwmpas y caeau a gweld lleoliadau arfaethedig amrywiol elfennau'r digwyddiad. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.45 a.m. i ystyried y cais. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan The Big Cwtch Ltd am drwydded safle ar gyfer digwyddiad blynyddol ar Gaeau Parc Glanrannell, Crug-y-bar, Llanwrda, fel a ganlyn: - Caniatáu:-
Cyflenwi Alcohol: Dydd Sadwrn 11:00-23:30
Adloniant Rheoledig: Dydd Sadwrn 11:00-23:59
Lluniaeth hwyrnos: Dydd Sadwrn 23:00-23:59
Oriau Agor: Dydd Sadwrn 10:00 tan ddydd Sul 14:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
· Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd; · Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu, yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt; · Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys, a oedd wedi eu diwygio ac yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt; · Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd, yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. · Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill. Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi cyflwyno sylwadau ar y cais. Cytunodd yr holl bartïon i gopïau o'r dogfennau ychwanegol canlynol gael eu dosbarthu i'r Is-bwyllgor:-
· e-bost gan Mr David Drinkall dyddiedig 18 Awst 2015 yn amgáu 2 lythyr gan gymdogion ac e-bost yn rhoi manylion am gytundeb rhwng yr ymgeisydd a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd o ran y 6 amod trwyddedu ychwanegol arfaethedig sydd ynghlwm wrth yr e-bost yn Atodiad 2; · Cynllun Rheoli Digwyddiad; · rhestr o sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd ynghylch y Cynllun Rheoli Digwyddiad. Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad gan ddweud nad oedd y geiriad yn y drefn weithredu'n ddigon manwl gywir i'w alluogi i lunio amodau trwydded gorfodadwy clir yn unol ag Adran 18(2)(a) o'r Ddeddf Trwyddedu. Credai, petai'r cais yn cael ei ganiatáu, y byddai'n briodol cynnwys amodau 1-8 yn lle'r datganiadau yn y drefn weithredu, yn unol â chais yr heddlu. Dywedodd wrth yr Is-bwyllgor ei fod wedi cydgysylltu â chydweithwyr yng Ngwasanaethau Iechyd y Cyhoedd i baratoi cyfres o amodau a nodwyd yn Atodiad 2, ac a ddosbarthwyd yn gynharach. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. Gyda hynny cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan un oedd a wnelo â'r mater ac a oedd yn gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau canlynol:-
· nid oedd dim ymgynghori cyn i'r digwyddiad gael ei gynnal am y tro cyntaf y llynedd; · nid yw'n ddigwyddiad undydd gan fod angen llawer o ddiwrnodau i baratoi sy'n tarfu ar ei gartref a'i fythynnod gwyliau; ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |