Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mercher, 9fed Awst, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - CROSSHANDS SERVICE STATION, HEOL CROSSHANDS, GORSLAS, SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Motor Fuel Ltd i amrywio'r drwydded safle ar gyfer Crosshands Service Station, Heol Cross Hands, Gors-las, Sir Gaerfyrddin, SA14 6RR i ganiatáu:-

 

Cyflenwi Alcohol:-

Dydd Llun i Ddydd Sul 00:00 – 24:00

Lluniaeth Hwyrnos:-

Dydd Llun i Ddydd Sul 23:00 – 05:00

Oriau agor:-

Dydd Llun i Ddydd Sul 00:00 – 24:00

Newid i'r Cynllun Presennol

 

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·       Atodiad A - Copi o'r cais

·       Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·       Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

·       Atodiad D - copi o drwydded gyfredol y safle

 

Nid oedd yr awdurdodau cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at sylwadau Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad B), a thynnodd sylw'r Is-bwyllgor at ddogfen B6 yn yr atodiad hwnnw trwy'r hwn yr oedd yr Heddlu wedi tynnu ei sylwadau yn ôl yn ffurfiol yn dilyn dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch y materion arfaethedig i'w cynnwys mewn unrhyw amrywiad a gymeradwyir i amodau rhifau 1-15 y drwydded yn eu sylwadau gwreiddiol a nodir yn Atodiad B1-B3. Gyda golwg ar y sylwadau a gyflwynwyd gan barti â diddordeb (Atodiad C), gan nad oedd y parti hwnnw'n bresennol yn y cyfarfod, byddai angen i'r Is-bwyllgor roi sylw i'w sylwadau ysgrifenedig wrth drafod y cais.

 

Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd wrth yr Is-bwyllgor fod y cais i amrywio'r drwydded mewn dwy ran. Roedd y rhan gyntaf yn ymwneud â gwerthu alcohol am 6 awr ychwanegol rhwng 00.00 p.m. a 06:00 a.m., a fyddai'n golygu bod y safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol 24 awr y dydd, gan gyfateb felly i'w oriau gweithredu. Roedd angen yr ail ran, sef ar gyfer gwerthu lluniaeth hwyrnos, er mwyn gallu gwerthu diodydd twym rhwng  23:00 a 05:00 yn unig, ac ni fyddai'n golygu gwerthu cludfwyd twym.

 

Dywedodd fod y cais yn cydymffurfio â chanllawiau'r Cyngor a'r canllawiau statudol. Nid oedd unrhyw awdurdodau cyfrifol, ar wahân i Heddlu Dyfed-Powys, wedi cyflwyno sylwadau ar y cais, gyda'r Heddlu yn dilyn hynny wedi tynnu ei sylwadau yn ôl ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch cynnwys amodau ychwanegol yn y drwydded amrywio. Gyda golwg ar rôl yr awdurdodau cyfrifol yn y broses Drwyddedu, tynnodd sylw'r Is-bwyllgor at Baragraff 9.12 y Canllawiau Statudol, yn enwedig rôl yr Heddlu trwy'r hyn y dylai Awdurdodau Trwyddedu dderbyn ei gyngor oni bai bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno fel arall.

 

Ar hynny cyfeiriodd at y sylwadau a gafwyd gan Gyngor Cymuned Gors-las, fel y nodir yn atodiad C1, a oedd yn gwrthwynebu'r cais am gael gwerthu alcohol am chwe awr ychwanegol yn unig, ac nid yr elfen Lluniaeth Hwyrnos, a gwnaeth y sylwadau canlynol gyda golwg ar y canlynol:-

 

-        Pwynt 1 yn ymwneud ag agosrwydd y safle at Barc Gors-las. Teimlid na fyddai'r amrywiad, ar gyfer yr oriau rhwng  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.