NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, T. Higgins, G. John, A.G. Morgan,
B. Thomas a D.E. Williams a'r swyddogion C. Moore a H. Pugh wedi
datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Yn sgil cymhwyso prawf budd y cyhoedd
PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng
nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn
breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn
y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig am
unigolyn penodol (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r
Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas
â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn
cynnwys manylion am geisiadau a ddaeth i law ar gyfer swydd Person
Lleyg. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran
cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran
datgelu'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan
ymgeiswyr ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn
cael ei datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra
phwysig o ran datgelu gwybodaeth o'r fath.
Roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â thri
ymgeisydd ar gyfer swydd y person lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio.
Ar ôl ystyried y cyflwyniadau gan yr
ymgeiswyr,
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR, er mwyn
bodloni gofyniad Cyfansoddiad y Cyngor, fod y Cyngor Sir yn penodi
Mrs Julie James, Mr Malcolm MacDonald a Mr David MacGregor yn
Personau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer y
cyfnod rhwng 25 Mai 2022 a 24Mai 2027.