Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.. Cundy, E Schiavone a Mrs J James. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r Cynllun Archwilio Mewnol. Nodwyd bod Rhan A yn darparu adroddiad cynnydd ar Gynllun Archwilio 2018/19 ynghyd ag Argymhellion Matrics Sgorio. Roedd Rhan B yn grynodeb o adroddiadau terfynol ynghylch systemau allweddol mewn perthynas â'r canlynol:-
· Rheoli’r Trysorlys · Credydwyr · Y Gyflogres · Recriwtio mewn Ysgolion a Chyflogau Athrawon
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiadau:-
Codwyd pryder ynghylch lefel isel y sicrwydd ar gyfer y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y cytunwyd ar yr argymhellion. Dywedwyd hefyd nad oedd y sgorio'n adlewyrchu'r archwiliad yn rhesymol a bod y dull sgorio'n cael ei adolygu.
Gofynnwyd faint oedd cyfanswm y ffigurau ar gyfer y taliadau dyblyg. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol nad oedd ganddi'r ffigurau wrth law ond y byddai'n eu dosbarthu i'r aelodau.
Gofynnwyd a fyddai'r Pwyllgor Archwilio'n cael diweddariad ynghylch rhoi'r argymhellion ar waith. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod system ar waith i fonitro cynnydd drwy'r System Monitro Perfformiad a Gwella (PIMS) ac y byddai adroddiad newydd yn darparu'r manylion am faterion sydd heb eu datrys.
Dywedwyd hefyd y byddai crynodeb o'r adroddiadau'n ddefnyddiol.Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y gellid darparu crynodebau gyda'r adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019/20 A CHWMPAS Y CYNLLUN AR GYFER 2020-22 PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2019/20 a chwmpas y cynllun ar gyfer 2020/22. Roedd y Cynllun Archwilio wedi ei lunio gan ddefnyddio egwyddorion asesu risg, a chan ystyried newidiadau mewn gwasanaethau. Roedd mabwysiadu rhaglen dreigl dair blynedd yn rhoi sicrwydd bod y trefniadau archwilio yn ddigonol gan ganiatáu hyblygrwydd o ran ymdrin â newidiadau i systemau'r Awdurdod. Roedd y Cynllun yn cymryd y byddai pob un o swyddi'r Adain yn llawn, sef 10 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn. Dywedwyd bod Llesiant Delta Wellbeing Ltd a'r Cwmni Tai yn rhan o'r cynllun archwilio i roi sicrwydd bod offer rheoli cadarn ar waith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.1 cymeradwyo'r Cynllun Archwilio Mewnol blynyddol ar gyfer 2019/20;
4.2. cadarnhau cwmpas y cynllun ar gyfer 2020/22. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Flaenraglen Waith ar gyfer 2019/20, a nodai'r eitemau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfodydd oedd wedi'u trefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI PDF 447 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ganlyniadau adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a'r adolygiad annibynnol ynghylch Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli. Roedd yr adroddiadau'n cynnwys: · canfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol a oedd yn asesu cadernid a chydymffurfiaeth mewn perthynas â'r prosesau caffael a llywodraethu; · canfyddiadau Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn asesu rheolaeth yr Awdurdod o ran prosesau, risgiau a threfniadau llywodraethu a diogelu arian cyhoeddus;
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ymateb Llywodraeth Cymru ac ymateb Llywodraeth y DU i Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi dod i law ynghyd ag Adroddiad yr Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe Mawrth 2019. Byddai'r ddau o'r rheiny'n mynd i gael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol a Chyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac ar ôl hynny byddent yn cael eu hadrodd yn ffurfiol wrth y Cyngor.
Roedd y canlynol ymhlith y materion/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Perfformiad fod yr adolygiad yn rhoi sylw i'r cyfnod pan ymrwymodd y Cyngor i Gytundeb Cyfyngol ym mis Mai 2018 hyd at 2019 a diwedd y cytundeb. · Croesawodd yr aelodau ganfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol ac adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru. · Mynegodd yr aelodau eu siom a'u pryderon bod Adroddiad yr Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cael ei gyhoeddi gan y wasg cyn i'r Cyd-bwyllgor gael cyfle i'w ystyried. · Mynegwyd pryderon ynghylch capasiti staffio a faint o amser y mae swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei dreulio ar waith y Fargen Ddinesig ar y cyfan. Cydnabuwyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Corfforaethol bod staff o dan bwysau a'u bod yn cyflawni dyletswyddau ychwanegol yn ogystal â chyflawni eu swyddi o ddydd i ddydd; ac y byddai'n anodd recriwtio nes bod y cyllid wedi dod i law. · Codwyd pryderon ynghylch y pwysau ar y Tîm Cyfathrebu yn sgil ymdrin â materion o ran diffyg ffydd oherwydd adroddiadau anghywir yn y wasg. · Gofynnwyd pryd y byddai'r Awdurdod yn debygol o gael y cyllid gan Lywodraeth Cymru gan fod yr Egin bellach wedi'i gwblhau. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y strwythur cyllido'n gymhleth a bod y camau'n cael eu hystyried yn un prosiect. Roedd cyllid Cam 1 mewn perygl nes y byddai Achos Busnes Cam 2 yn cael ei gwblhau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y ffaith mai un ffactor lliniaru yn unig sy'n gysylltiedig â'r risg o ran tai, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y byddai'n cyfeirio hyn at reolwr y gwasanaeth priodol er mwyn iddo ei adolygu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL PARATOWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU:- |
|
CYNLLUN ARCHWILIO 2019 - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2019 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Nodwyd bod rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd allanol y Cyngor, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Archwilio 2019 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO 2019 - CRONFA BENSIWN DYFED PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2019 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd bod rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cronfa Bensiwn Dyfed, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Archwilio 2019 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. |
|
ADRODDIAD LLEOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Lleol Swyddfa Archwilio Cymru a luniwyd ar ôl gwerthuso dull y Cyngor mewn perthynas â' Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Archwiliad: "Dechrau'n Dda - Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw”. Roedd y canfyddiadau wedi nodi bod y Cyngor wedi gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth sefydlu'r 'cam' ac roedd wedi ystyried yn effeithiol y pum ffordd o weithio yn y camau yr oedd yn eu cymryd i'w gyflawni, h.y.:-
· “Y Tymor Hir - Y pwysigrwydd o gydbwyso anghenion tymor byr gyda'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd; · Atal - Gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion; · Integreiddio - Ystyried sut y gallai amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill; · Cydweithio - Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion llesiant; · Cynhwysiant - Y pwysigrwydd o gynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal sy'n cael ei gwasanaethu gan y corff”.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Gofynnwyd beth oedd rôl y Pwyllgor Archwilio o ran monitro'r camau. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod y camau'n cael eu neilltuo o fewn y System Monitro Perfformiad a Gwella (PIMS) ac y byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod amdanynt yn flynyddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR ARCHWYLIO PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cofnodion canlynol:-
9.1Y Panel Grantiau, 14 Tachwedd 2018;
9.2Y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol, 21 Ionawr 2019. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 14EG RHAGFYR 2018 PDF 238 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018 gan eu bod yn gywir. |