Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Nodyn: Head of Homes and Safer Communities
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell, J. Davies, E. Dole, D.C. Evans a D.M. Jenkins. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 12 GORFFENNAF 2018 PDF 96 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|
NODIADAU GWEITHREDU'R PANEL RHESTR FER - 11 TACHWEDD 2019 Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 11 Ionawr 2019.
|
|
DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR YRHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH CARTREFI A CHYMUNEDAU MWY DIOGELAC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Amlinellodd y Cadeirydd y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor fod nifer yr ymgeiswyr a gyflwynwyd am gyfweliad y diwrnod hwnnw wedi gostwng i ddau yn dilyn canlyniadau proses y Ganolfan Asesu. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd oedd yn weddill ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau. Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor adborth gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.
PENDERFYNWYD penodi Mr J. Morgan yn Bennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel. [Galwyd Mr. J. Morgan yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]
|