Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: [SYLWER: Am 5pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Gweithdrefn y Cyngor 9 - Hyd y cyfarfod ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod ar waith ers tair awr, PENDERFYNWYD gohirio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 9 a pharhau â'r gwaith a oedd yn weddill]
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Davies, E. Dole a C. Evans.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD Y PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR 6 MEDI 2017 Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 6 Medi 2017.
|
|
CAEL CYFLWYNIADAU A CHYFWELD Â'R YMGEISWYR SYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH Y GWASANAETHAU ARIANNOL. Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Amlinellodd y Cadeirydd y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor fod nifer yr ymgeiswyr a gyflwynwyd am gyfweliad y diwrnod hwnnw wedi gostwng i bedwar yn dilyn canlyniadau proses y Ganolfan Asesu a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2017. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y pedwar ymgeisydd oedd yn weddill ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau. Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor adborth gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), ynghyd â sylwadau ymgynghorydd allanol a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.
PENDERFYNWYD, penodi Mr R. Hemingway yn Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol. [Galwyd Mr R. Hemingway yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]
|