Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Apelau - Dydd Llun, 27ain Chwefror, 2017 9.45 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd  J. Williams.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau.

3.

NAD YDYW I'W GYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD

Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS

GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM

MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF

LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN

ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT

WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y

PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD

YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED

Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R

CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD

TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.

4.

YSTYRIED APÊL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch yr unigolyn.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1988.  Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddogion Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)

 

Aeth y Pwyllgor felly ymlaen i gael y dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio.

 

Nodwyd bod cynrychiolydd undeb llafur yr apelydd yn bwriadu galw ar dyst, a oedd wedi rhoi tystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad. Cytunodd y Panel ohirio'r cyfarfod am gyfnod er mwyn aros i'r tyst gyrraedd. Gohiriwyd y cyfarfod am 11.50am. (Noder: Gadawodd y Cynghorydd J.P. Jenkins y cyfarfod yn y man hwn).

 

Ailymgynullodd y Panel am 12.05pm. Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan yr apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur.

 

Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi, ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r Swyddogion Ymchwilio

 

PENDERFYNWYD

4.1 bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod y penderfyniad i ddiswyddo'r apelydd, a oedd wedi'i ategu mewn llythyr dyddiedig 6 Hydref, 2016 yn dilyn Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol a gynhaliwyd ar 30 Medi 2016, yn cael ei gadarnhau;

4.2. bod yr apelydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r rhesymau llawn dros wrthod yr apêl.

 

(Noder: Gadawodd y Cyng. S.M. Allen y cyfarfod yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor)

 

Cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod a'u hysbysu ynghylch penderfyniad y Pwyllgor.