Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Apelau - Dydd Llun, 14eg Tachwedd, 2016 9.45 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.</AI1>

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.</AI1>

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6ed, 7fed ac 17eg Mehefin, 2016 yn gofnod cywir.

 

4.

GWAHARDD Y CYHOEDD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.</AI4><AI5>

 

5.

YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD.

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddadlennu pwy oedd yr unigolyn dan sylw.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1988.  Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddogion Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl. (roedd copïau o'r protocol wedi eu cynnwys yn y pecyn agenda).

 

Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio, a chan yr apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur.

 

Rhoddwyd cyfle i'r ddwy ochr groesholi ei gilydd ynghylch y dystiolaeth a ddarparwyd.  Yn ystod y rhan hon o'r cyfarfod, daeth yn amlwg bod tystiolaeth newydd wedi dod i'r golwg ers cwblhau'r ymchwiliad.  Felly gofynnwyd i'r ddwy ochr adael y cyfarfod er mwyn i'r Pwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Yna cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod a dywedwyd wrthynt fod trefniadau wedi'u gwneud i swyddog o is-adran TG yr Awdurdod ddod i'r cyfarfod i archwilio'r dystiolaeth newydd. 

 

Felly gofynnwyd i'r ddwy ochr adael y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.  Yna cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod i gael gwybod beth oedd penderfyniad y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried yr apêl tan 6 Rhagfyr, 2016 er mwyn i'r swyddogion archwilio'r dystiolaeth newydd a oedd wedi'i chyflwyno yn y cyfarfod.

 

[SYLWER:  Yn ystod yr apêl ataliwyd y cyfarfod sawl tro er mwyn i'r Pwyllgor gael cyngor cyfreithiol a thechnegol.]

 

6.

RECONVENED MEETING

Cofnodion:

Roedd y cyfarfod wedi ailymgynnull yn Ystafell Pwyllgorau 2, 3 Heol Spilman,  Caerfyrddin ar ddydd Mawrth, 6ed Rhagfyr, 2016 am 9.45 a.m.

 

YN BRESENNOL:     Y Cynghorydd J.K. Howell [Cadeirydd]

 

Y Cynghorwyr:

W.G. Hopkins, J.P. Jenkins ac S.E. Thomas

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

Mrs J. Stuart – Pen-swyddog Adnoddau Dynol;

Mr C. Jones – Cyfreithiwr Cynorthwyol

Mr M. Davies – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

7.         YMDDIHEURIADAU

 

            Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, B.A.L.         Roberts a J. Williams.

 

8.         DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

 

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

9.         APÊL YN ERBYN DISWYDDIAD - ADRAN YR AMGYLCHEDD

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddogion Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol a dywedodd taw diben y cyfarfod y diwrnod hwnnw oedd parhau â'r gwrandawiad ynghylch apêl yn erbyn diswyddiad a oedd wedi ei ohirio ar 14 Tachwedd 2016.  Amlinellodd y Cadeirydd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl. (Roedd copïau o'r protocol wedi eu cynnwys yn y pecyn agenda).

 

Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio, a chan yr apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur.  Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r Swyddogion Ymchwilio, 

PENDERFYNWYD

6.1       cadarnhau'r apêl a bod penderfyniad y Gwrandawiad Disgyblu a          gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2016 i ddiswyddo'r apelydd yn cael ei           ddiddymu a bod yr apelydd yn cael ei adfer i'w swydd o'r dyddiad       hwnnw;

6.2       bod yr apelydd yn cael rhybudd ysgrifenedig terfynol a bod yn rhaid   iddo gael hyfforddiant priodol.

Cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod a'u hysbysu ynghylch penderfyniad y Pwyllgor.

 

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

Y CADEIRYDD                                                                                Y DYDDIAD