Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, B.A.L. Roberts a J. Williams. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
||||||||||
COFNODION - 14 TACHWEDD 2016 (AILGYNULLWYD AR 6 RHAGFYR 2016) PDF 130 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2016 (ailgynullwyd ar 6 Rhagfyr 2016), gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||
DDIM I’W GYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddatgelu enw unigolyn. |
||||||||||
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu enw unigolyn.
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1988. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddog Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)
Dywedwyd bod y Swyddogion Ymchwilio yn bwriadu galw tyst, a oedd wedi rhoi tystiolaeth yn y Gwrandawiad Disgyblu ffurfiol. Heriodd y Cynrychiolydd Undeb Llafur hyn gan ei fod yn credu nad oedd yn dilyn y protocol ac nid oeddent wedi cael amser digonol i baratoi. Eglurwyd na fyddai'r tyst yn cyflwyno tystiolaeth newydd ac y byddai'n cyfeirio at wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn y papurau. Cytunodd y Panel i wrando ar y tyst a gohirio'r cyfarfod am 30 munud i roi mwy o amser i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur baratoi. Nodwyd bod y Cynrychiolydd Undeb Llafur yn gwrthwynebu bod y Panel yn gwrando ar y tyst. Ailymgynullodd y cyfarfod am 11pm.
Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio, a chan yr apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur. Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r Swyddogion Ymchwilio
PENDERFYNWYD 5.1 bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod y penderfyniad i ddiswyddo'r apelydd, a oedd wedi'i ategu mewn llythyr dyddiedig 29 Rhagfyr, 2016, yn dilyn Gwrandawiad Disgyblu ffurfiol ar 21 Rhagfyr, 2016, yn cael ei gadarnhau; 5.2 bod yr apelydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r rhesymau llawn dros wrthod yr apêl.
Cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod a'u hysbysu ynghylch penderfyniad y Pwyllgor.
|