Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Apelau - Dydd Llun, 6ed Mehefin, 2016 9.45 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 1, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. P. Jenkins.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 314 KB

LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 18FED EBRILL, 2016.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 18fed Ebrill, 2016 gan eu bod yn gywir.

4.

DDIM I’W GYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.

5.

YSTRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddadlennu pwy oedd yr unigolyn dan sylw.

Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998.Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r apelydd, ynghyd â Chyfarwyddwr yr Amgylchedd, y Swyddog Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl. (Dosbarthwyd copïau o'r protocol yn y cyfarfod.)

 

Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddog Ymchwilio a'r apelydd.

 

Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei ran, a chan y Swyddog Ymchwilio,

PENDERFYNWYD

5.1 bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod y penderfyniad i ddiswyddo'r apelydd, a oedd wedi'i ategu mewn llythyr dyddiedig 22ain Ebrill 2016 yn dilyn Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol ar 19eg Ebrill 2016, yn cael ei gadarnhau;

5.2. bod yr apelydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r rhesymau llawn dros wrthod yr apêl.

 

Cafodd y naill ochr a’r llall eu galw yn ôl i’r cyfarfod a'u hysbysu ynghylch penderfyniad y Panel.