Lleoliad: Ystafell 1, Neuadd y Dref, Llanelli - Neuadd y Dref, Llanelli. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd W.G. Hopkins.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
DDIM I’W GYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007), sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.
|
|
YSTRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN Y CYMUNEDAU Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y pwnc oedd i'w ystyried gan y Pwyllgor yn fater sydd er budd y cyhoedd. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'r cynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â Swyddog Cyflwyno'r Ymchwiliad a chynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol a ddilynid wrth wrando ar yr apêl (fel y nodir ym mhecyn yr Agenda).
Yr oedd y Pwyllgor wedi gwrando ar dystiolaeth gan y Swyddog Cyflwyno a chan gynrychiolydd undeb llafur yr apelydd.
Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi'r dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei ran, a chan y Swyddog Ymchwilio, PENDERFYNWYD 5.1 bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod y penderfyniad i ddiswyddo'r apelydd, a oedd wedi'i ategu mewn llythyr dyddiedig 18 Ebrill 2016 yn dilyn Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol ar 14 Ebrill 2016, yn cael ei gadarnhau; 5.2 rhoi gwybod i'r apelydd, yn ysgrifenedig, am y rhesymau llawn dros wrthod yr apêl.
|