Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.P. Jenkins
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 na fyddai’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd hynny ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, sef gwybodaeth a fyddai'n debygol o ddadlennu enw unigolyn.
|
|
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddadlennu pwy oedd yr unigolyn dan sylw.
Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1988. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd, ei chynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r cynrychiolwyr adrannol ac Adnoddau Dynol gan amlinellu'r protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (yr oedd copïau wedi'u dosbarthu eisoes gydag agenda'r cyfarfod ac wedi'u dosbarthu yn y cyfarfod).
Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y cynrychiolydd adrannol, a chan yr apelydd a'i chynrychiolydd undeb llafur.
Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r cynrychiolydd adrannol:-
PENDERFYNWYD cadarnhau'r apêl
|