Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir
Dydd Mercher, 12fed Chwefror, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.M. Cundy, G. Davies, K. Davies, J.A. Davies, A.D. Harries, C. Jones, S. Matthews, D. Nicholas, a J.S. Phillips.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

5       - Cwestiynau gan y Cyhoedd

Mae ganddo fuddiant o ran Carmarthenshire Energy Ltd

 

C.A. Davies

8.1 - Cynllun Carbon Sero-net

Mae ei g?r yn ffermwr sy'n denant

 

K. Lloyd

8.1 - Cynllun Carbon Sero-net

Mae ganddo fuddiant o ran Carmarthenshire Energy Ltd

 

 

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi bwriadu cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar ?yl San Steffan i godi arian ar gyfer ei ddewis elusennau. Yn anffodus, oherwydd salwch nid oedd wedi gallu mynd i'r môr. Dywedodd y Cadeirydd fod trefniadau wedi'u gwneud iddo fentro i'r d?r ddydd Gwener, 14 Chwefror am 10:00am ym Mharc Gwledig Pen-bre.

 

Hefyd rhoddodd y Cadeirydd wybod fod trefniadau ar waith i gynnal Cinio Elusennol ddydd Sadwrn, 18 Ebrill yn Neuadd Ddinesig Aman, Rhydaman.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r 19 o Gynghorau Tref a Chymuned a oedd eisoes wedi cyfrannu tuag at ei apêl codi arian.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Alun Lenny wedi cyhoeddi hunangofiant. Roedd llyfr y Cynghorydd Alun Lenny "Byw ffwl pelt" wedi'i gyhoeddi ym mis Rhagfyr ac yn olrhain hanes ei fywyd fel Newyddiadurwr, Cynghorydd a Phregethwr Lleyg.

 

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 8FED O IONAWR 2020. pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2020 yn gofnod cywir,

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER 1: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

(NODER 2: Yn unol â Rheol 2 (3) Gweithdrefn y Cyngor, amrywiodd y Cadeirydd drefn y busnes er mwyn caniatáu cymryd cwestiynau 5.2 a 5.13 yn gyntaf.)

5.1

CWESTIWN GAN MR D SMITH I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“A oes gan y Cyngor Sir flaengynllun i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor? Yn y cyswllt hwn a yw wedi nodi safleoedd ac archwilio'r posibiliadau yn sgil opsiynau storio batris datganoledig?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A oes gan y Cyngor Sir flaengynllun i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor?  Yn y cyswllt hwn a yw wedi nodi safleoedd ac archwilio'r posibiliadau yn sgil opsiynau storio batris datganoledig?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Fe welwch yn ein cynllun gweithredu ar gyfer bod yn garbon sero-net ein bod yn sylweddoli na all yr un Awdurdod Lleol na chorff cyhoeddus yng Nghymru na'r DU fod yn ddi-garbon, yn bendant nid yn y dyfodol rhagweladwy beth bynnag. Bydd wastad gennym ni rywfaint o allyriadau carbon, felly beth sydd angen i ni ei wneud fel cyrff cyhoeddus yw ceisio dod o hyd i ffordd o wrthbwyso'r allyriadau carbon hynny er mwyn bod yn sero-net.  Felly, yn benodol, i ateb eich cwestiwn, rydym yn edrych ar hyn o bryd ar gyfleoedd amrywiol i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy rydym yn ei gynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys ailedrych ar safleoedd posibl a nodwyd yn flaenorol ar dir y Cyngor i weld a yw'r rhain bellach yn hyfyw yn economaidd. Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned i weld a allem wneud prosiectau tebyg ar dir sy'n eiddo iddynt hwy yn ogystal.  Fel y gwyddoch, mae gan y Cyngor un tyrbin gwynt 500kw eisoes yn Nant-y-caws. Mae cyfleoedd posibl i gael rhagor o dyrbinau gwynt, prosiectau solar a hydro, ynghyd â storio batris hefyd. Yn bersonol, rwy'n awyddus i'r Cyngor edrych ar ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.  Nid yn unig byddai hynny'n dda o ran newid yn yr hinsawdd, ond hefyd ar hyn o bryd mae llawer o'r prosiectau hyn yn mynd â'r arian a'r elw allan o Sir Gaerfyrddin.  Pe gallem redeg rhai o'r prosiectau hynny ein hunain, gellid ailfuddsoddi'r elw yn ein cymunedau. Un pwynt olaf, mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o brosiect y Fargen Ddinesig, ac mae gennym fel un o brosiectau mawr y Fargen Ddinesig brosiect o'r enw Cartrefi yn Orsafoedd P?er ac mae datblygu storio batris yn un o elfennau allweddol y prosiect hwn."

Gofynnodd Mr Smith y cwestiwn atodol canlynol:-

"A ydy'r Cynulliad Cenedlaethol wedi nodi maint y gyllideb y bydd yn ei rhoi i chi i weithredu'r strategaeth hon?"

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

“Yr ateb syml yw nac ydy.”

 

5.2

CWESTIWN GAN MR N BIZZELL-BROWNING I'R CYNGHORYDD D JENKINS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADNODDAU

A yw'r Cyngor Sir yn buddsoddi mewn Adnoddau Dynol i helpu'r argyfwng hinsawdd?
h.y.

  • I ba raddau y mae'r Cyngor wedi ystyried cyflwyno gweithio o hirbell (gartref), h.y. dim carbon cysylltiedig â theithio ac ati?
  • Faint o swyddi newydd y mae'r Cyngor Sir wedi'u creu er mwyn ymdrin â'r argyfwng yn benodol?
  • Pa ganran o oriau gweithwyr presennol sydd wedi'u neilltuo i'r argyfwng?
  • Pa raglenni hyfforddiant sydd wedi'u cynllunio er mwyn i weithwyr y cyngor, cleientiaid a darparwyr gwasanaethau ddeall y bygythiadau dirfodol sy'n ein hwynebu, er enghraifft HyfforddiantLlythrennedd Carbon?” (https://carbonliteracy.com/)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A ydy'r Cyngor Sir yn buddsoddi mewn Adnoddau Dynol i helpu'r argyfwng hinsawdd? h.y.

  • I ba raddau y mae'r Cyngor wedi ystyried cyflwyno gweithio o hirbell (gartref), h.y. dim carbon cysylltiedig â theithio ac ati?
  • Faint o swyddi newydd y mae'r Cyngor Sir wedi'u creu er mwyn ymdrin â'r argyfwng yn benodol?
  • Pa ganran o oriau gweithwyr presennol sydd wedi'u neilltuo i'r argyfwng?
  • Pa raglenni hyfforddiant sydd wedi'u cynllunio er mwyn i weithwyr y cyngor, cleientiaid a darparwyr gwasanaethau ddeall y bygythiadau dirfodol sy'n ein hwynebu, er enghraifft Hyfforddiant Llythrennedd Carbon? (https://carbonliteracy.com/) “

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

"Y peth cyntaf wna i ei ddweud yw, er mai blwyddyn yn ôl y bu i ni basio Rhybudd o Gynnig yma yn Neuadd y Sir yn ymwneud â bod yn garbon sero-net erbyn 2030, roeddem eisoes wedi bod yn gweithio tuag at fod yn garbon sero-net erbyn 2050, fel y pennwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly beth rydym wedi'i wneud yw bwrw'r amserlen ymlaen, felly mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn digwydd ers cryn amser. I ateb eich cwestiwn yn benodol, yr ateb syml yw 'ydy' ac rydym wedi bod yn gwneud hyn ers sawl blwyddyn. Mae tîm Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) yr Awdurdod wedi bod yn edrych ar nifer o fentrau i leihau'r ddibyniaeth ar wneud milltiroedd lle bynnag y bo'n bosibl. I'r perwyl hwn gallaf gadarnhau bod gliniadur gan 81% o'n staff swyddfa, sy'n eu galluogi i weithio'n ystwyth, ac rydym yn awyddus i hyrwyddo defnydd pellach o dechnoleg megis SKYPE er enghraifft. Er mwyn cyflawni'r agenda hon, rydym wedi gallu secondio nifer o swyddogion i'r tîm TIC sydd â'r sgiliau iawn i'n helpu i ymateb i'r agenda hynod heriol hon.

Bellach mae gan ein holl brif adeiladau gweinyddol weithfannau cyfleus a fydd yn helpu i leihau'r angen i deithio, ac yn sgil hynny bydd allyriadau CO2 yn lleihau. Yn gysylltiedig â hyn, rydym wedi ymgymryd â Rhaglen Datblygu Gweithio Ystwyth gynhwysfawr i helpu Rheolwyr a Staff i newid i Weithio Ystwyth.

O ganlyniad i'r mentrau hyn mae nifer y milltiroedd wedi gostwng dros gan mil o filltiroedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Er bod hwn yn ganlyniad da, nid ydym yn hunanfodlon fel Awdurdod, ac rydym yn bwriadu cyflwyno mwy o geir trydan/hybrid i ategu ein fflyd bresennol o geir trydan ym Mharc Myrddin a Pharc Dewi Sant. Felly eleni fe welwch y cerbydau trydan/hybrid hyn nid yn unig yng Nghaerfyrddin, ond yn Rhydaman a Llanelli hefyd. 

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r hyn rydym yn ei wneud fel rhan o'n hymagwedd strategol at Newid yn yr Hinsawdd, ac rydym yn sylweddoli ein bod mewn sefyllfa unigryw i arwain a gweithredu er mwyn mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, ac i wneud gwahaniaeth drwy ein gweithgareddau ein hunain a thrwy arwain partneriaethau.

Rydym wedi ymrwymo ers blynyddoedd i leihau ynni yn ein hadeiladau ein hunain, ysgolion, a stoc tai cymdeithasol a reolir gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

CWESTIWN GAN MS K LANGDON I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i annog (a) ymagwedd gyffredin tuag at fioamrywiaeth, cadwraeth gynaliadwy a rhannu arferion gorau? A (b) annog addysg, gweithredu a chynhwysiant cymunedol (sy'n sicr o fod yn rhan allweddol o'r broses fioamrywiaeth?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Langdon yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn canlynol ar ei rhan:-

 

“Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i annog (a) ymagwedd gyffredin tuag at fioamrywiaeth, cadwraeth gynaliadwy a rhannu arferion gorau? A (b) annog addysg, gweithredu a chynhwysiant cymunedol (sy'n sicr o fod yn rhan allweddol o'r broses fioamrywiaeth)?”

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at Ms Langdon.

 

 

5.4

CWESTIWN GAN MS S SYLVAN I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Yn 2018 buom yn wynebu llifogydd ofnadwy yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi arwain at ddigartrefedd a marwolaeth. Dywedir wrthym y bydd amodau tywydd eithafol fel hyn yn arferol o hyn ymlaen, wrth i'r hinsawdd fethu. A oes gan y Cyngor gronfa argyfwng hinsawdd ac asesiad risg ar gyfer yr ardal? Faint o arian sydd yn y gronfa ac a oes modd ei ddefnyddio i weithredu yn erbyn bygythiadau hinsawdd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn 2018 buom yn wynebu llifogydd ofnadwy yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi arwain at ddigartrefedd a marwolaeth. Dywedir wrthym y bydd amodau tywydd eithafol fel hyn yn arferol o hyn ymlaen, wrth i'r hinsawdd fethu. A oes gan y Cyngor gronfa argyfwng hinsawdd ac asesiad risg ar gyfer yr ardal? Faint o arian sydd yn y gronfa ac a oes modd ei ddefnyddio i weithredu yn erbyn bygythiadau hinsawdd?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

Nodwyd bod llifogydd arfordirol difrifol yn un o'r risgiau uchaf yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys. Mae'r Fforwm hwnnw'n cynnwys llawer o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau a gwasanaethau eraill hefyd. Mae wedi datblygu Matrics Risg i nodi'r gwahanol risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol argyfyngau a digwyddiadau.  Yn sicr, mae llifogydd arfordirol difrifol yn cael eu nodi'n risg "uchel iawn" ac mae mathau eraill o dywydd garw fel stormydd a llifogydd afonol yn sgorio'n "uchel" ar y Matrics hefyd. Felly mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â'n partneriaid yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, gynlluniau wrth gefn i ymateb i'r mathau hyn o argyfyngau.  Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd drefniadau cadarn ar gyfer arwain y gwaith o adfer cymunedau yn dilyn trychinebau, ac mae angen i ni gofio'r gwaith gwych wnaeth ein tîm o swyddogion yn dilyn Storm Callum, pan gafwyd llifogydd mewn sawl ardal yn Sir Gâr, ac rwy'n meddwl yn benodol am dref Caerfyrddin ei hun a phentref Pont-tyweli lle cafwyd llifogydd mewn nifer o gartrefi a busnesau a lle bu pobl yn ddi-gartref am beth amser. Felly mae gennym dîm cydnerth sy'n gallu ymateb yn gyflym i argyfyngau o'r fath.

Mae ail ran eich cwestiwn yn gofyn am gyllid. Wel, nid oes cyllid uniongyrchol gan y Cyngor i ymdrin â digwyddiadau naturiol fel hyn, felly defnyddir cyllidebau adrannol neu gronfeydd wrth gefn y Cyngor i ymdrin â'r digwyddiadau cychwynnol a'r broses adfer ddilynol.

Ar gyfer trychinebau mawr, mewn rhai amgylchiadau, gall Llywodraeth Cymru ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol o dan y Cynllun Cymorth Ariannol Brys.  Mae'r cynllun hwn yn gwneud taliadau dewisol ac yn rhoi cymorth ariannol brys i Awdurdodau Lleol. Felly os caiff y cynllun ei weithredu, yn dilyn argyfwng, dim ond canlyniadau refeniw'r argyfwng y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hwy yn union ar ôl y digwyddiad ei hun. Yn ogystal, bydd disgwyl i'r Awdurdodau yr effeithir arnynt dalu'r holl wariant cymwys hyd at lefel ei drothwy.  Caiff trothwyon eu cyfrifo gan Lywodraeth Cymru ar 0.2% o ofynion cyllideb flynyddol yr Awdurdod ac maent yn berthnasol i'r flwyddyn ariannol gyfan. Felly os cawn lawer o ddigwyddiadau yn yr un flwyddyn ariannol honno, does dim gwahaniaeth. Cymorth ariannol ar gyfer un flwyddyn ariannol yn unig ydyw ac nid ar gyfer pob digwyddiad. Y trothwy presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw £714,000.

 

Gofynnodd Ms Sylvan y cwestiwn atodol canlynol:-

"Meddwl ydw i, ydych chi'n credu y byddai'n ddoeth cael cronfa ar wahân?"

 

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

Mae'n sicr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

CWESTIWN GAN MS C STRANGE I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Faint o Gynllun Carbon Sero-net y Cyngor (sydd wedi'i grynhoi yn Atodiad 1 yn y drafft) gafodd ei lunio cyn datgan argyfwng?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Faint o Gynllun Carbon Sero-net y Cyngor (sydd wedi'i grynhoi yn Atodiad 1 yn y drafft) gafodd ei lunio cyn datgan argyfwng?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Fel y soniodd y Cynghorydd David Jenkins yn gynharach, rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith eisoes ar leihau allyriadau carbon, felly mae llawer o'r gwaith da rydym wedi'i wneud yn rhagflaenu'r cynllun gweithredu fydd yn dod gerbron y Cyngor yn nes ymlaen y bore yma.  Er enghraifft, hyd yn hyn mae'r Cyngor wedi lleihau 38% ar ei allyriadau carbon o'i adeiladau annomestig ers 2005/06, wedi lleihau 65% ar ei allyriadau carbon o'i oleuadau stryd ers 2011/12, wedi lleihau 19% ar ei allyriadau carbon o filltiroedd ei fflyd ers 2012/13, ac wedi lleihau mwy na 36% ar ei filltiroedd busnes dros yr un cyfnod.   Felly roeddem wedi gwneud llawer o waith hynod dda cyn datgan argyfwng hinsawdd union flwyddyn yn ôl, ond rydym ni'n dal i edrych ar fabwysiadu rhaglenni rhagweithiol i leihau ein hallyriadau carbon ymhellach ac mae manylion y rhaglenni hynny i'w gweld yn ein cynllun gweithredu.  Felly, yn naturiol, mae llawer mwy o gamau gweithredu y gallwn eu cymryd ond y gwahaniaeth rhwng rhaglenni blaenorol a'r camau hynny a gynhwysir yn y Cynllun yn awr yw'r ymrwymiad i fod yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030. Mae hynny'n peri i ni ganolbwyntio nawr ar y targed go iawn rydym eisiau ei gyrraedd, felly mae hynny'n rhoi nod clir i ni. Roeddem yn gwneud hyn o'r blaen am ein bod yn credu ei fod yn bwysig ond erbyn hyn mae gennym darged gwirioneddol i'w gyrraedd.”

 

Gofynnodd Ms Strange y cwestiwn atodol canlynol:-

“Yn sgil y brys i gyflwyno'r amrywiol fesurau a amlinellwyd yn y cynllun carbon sero-net, faint o gydweithio a chefnogi sy'n digwydd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a chynghorau eraill sydd hefyd yn ceisio cyflwyno mesurau tebyg?"

 

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

“Ar ôl i ni gymeradwyo'r cynllun gweithredu hwn heddiw gobeithio, bydd hynny'n rhoi'r golau gwyrdd i ni gydweithio a thrafod gydag Awdurdodau Lleol eraill yn y rhanbarth. Rydym eisoes yn gwneud hynny gyda rhaglen y Fargen Ddinesig ond hefyd gyrff cyhoeddus eraill yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â Chynghorau Tref a Chymuned, Cymdeithasau Chwaraeon, a chyrff gwirfoddol, oherwydd ar ddiwedd y dydd gallwn ond cyrraedd y nod drwy weithio gyda'n gilydd. Mae'n golygu pawb yn y Siambr hon a phawb sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol hefyd. Pan gawn sêl bendith heddiw, byddwn yn cychwyn ar y broses o gynnal trafodaethau â sefydliadau allweddol eraill y tu allan i'r Cyngor Sir.”

 

 

5.6

CWESTIWN GAN MR M REED I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“O ran moduro di-garbon, mae'n bosibl y bydd effaith sylweddol a mesuradwy ar dwristiaeth os bydd y Cyngor yn methu â gosod y seilwaith cywir. Faint o bwyntiau gwefru ceir trydan a hydrogen sydd wedi'u gosod yn Sir Gaerfyrddin neu y cynllunnir i'w gosod yn 2020?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“O ran moduro di-garbon, mae'n bosibl y bydd effaith sylweddol a mesuradwy ar dwristiaeth os bydd y Cyngor yn methu â gosod y seilwaith cywir. Faint o bwyntiau gwefru ceir trydan a hydrogen sydd wedi'u gosod yn Sir Gaerfyrddin neu y cynllunnir i'w gosod yn 2020?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Nodwyd bod twristiaeth yn ddiwydiant twf sylweddol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac mae'r sector yn cyfrannu tua £430 miliwn i'r economi leol bob blwyddyn. Felly mae'r Cyngor yn amlwg yn awyddus i hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan i dwristiaid, ac, o ganlyniad, rydym yn cydnabod pwysigrwydd diogelu ein rhwydwaith priffyrdd ar gyfer y dyfodol, nid yn unig er mwyn cefnogi twristiaeth ond hefyd er mwyn cefnogi ein huchelgeisiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Yn hynny o beth, ni oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir trydan i'n fflyd yn 2011/12.

Hefyd, yn 2019/20, yn y flwyddyn ariannol hon, llwyddwyd i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel i gyflwyno rhaglen seilwaith gwefru newydd uchelgeisiol ar gyfer ceir trydan. Mae hyn wedi caniatáu i ni osod 26 pwynt gwefru ar draws 24 maes parcio cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Llanelli, Porth Tywyn, Rhydaman, Caerfyrddin, Cwm Gwendraeth, Llandeilo, Pentywyn, Llanybydder, Llansteffan, Cydweli, a Llandybie. Bydd y gwefrwyr cyflym hyn yn ein galluogi i ailwefru ceir trydan a bydd yn cymryd rhwng 3 a 5 awr yn fras. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y pwyntiau gwefru a osodwyd gennym eisoes ym Mharc Myrddin, Heol Spilman, Parc Dewi Sant, Stryd Murray, Llanymddyfri, Castellnewydd Emlyn a Maes Parcio San Pedr, Caerfyrddin. Rydym ar hyn o bryd yn ysgrifennu cynigion i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn creu hwb gwefru cyflym yn Cross Hands, a chredwn mai hwn fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n bosibl y gellir gwefru car trydan mewn awr yno. Ac i ateb y cwestiwn penodol am bwyntiau gwefru ceir hydrogen, nid oes gennym bwyntiau gwefru ceir hydrogen ar hyn o bryd ond rydym yn bwriadu creu pwynt gwefru car cyflym yn Cross Hands.”

Gofynnodd Mr Reed y cwestiwn atodol canlynol:-

"Pa ymdrechion mae'r Cyngor yn eu gwneud i annog bysiau trydan a faint sydd yn yr ardal ar hyn o bryd?"

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Mae cwestiwn i ddod yn nes ymlaen ar fysiau felly maddeuwch i mi, os nad oes ots gennych chi, a fyddai modd i mi ateb y cwestiwn penodol hwnnw fel rhan o'r cwestiwn ehangach ar ein bysiau a'n cludiant cyhoeddus sydd i ddod yn hwyrach?"

 

 

5.7

CWESTIWN GAN DR A BELLAMY I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd o bwys byd-eang lle na fydd "busnes fel arfer" yn ddigonol nac yn bosibl. Hyd yn hyn, mae'r "gwerth gorau" am dir wedi'i ddehongli fel y cynnig ariannol uchaf. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, a ddylid ailddiffinio'r gwerth gorau i flaenoriaethu gwerth i'r gymuned leol?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Dr. Bellamy yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei ran:-

 

“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd o bwys byd-eang lle na fydd "busnes fel arfer" yn ddigonol nac yn bosibl. Hyd yn hyn, mae'r "gwerth gorau" am dir wedi'i ddehongli fel y cynnig ariannol uchaf. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, a ddylid ailddiffinio'r gwerth gorau i flaenoriaethu gwerth i'r gymuned leol?”

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at Dr. Bellamy.

 

 

5.8

CWESTIWN GAN MS J THOMPSON I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Mewn perthynas â strategaeth garbon sero-net yr Cyngor, rwy'n meddwl am fioamrywiaeth, gan gynnwys rhywogaethau brodorol sydd dan fygythiad darfod. A allech ddweud wrthyf a oes cofrestr o gynefinoedd yn y sir sydd wedi dirywio a dadansoddiad risg o rywogaethau brodorol a beth yw'r cynllun gweithredu cyfatebol, os oes un o gwbwl?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mewn perthynas â strategaeth carbon sero-net y Cyngor, rwy'n meddwl am fioamrywiaeth, gan gynnwys rhywogaethau brodorol sydd dan fygythiad darfod. A allech ddweud wrthyf a oes cofrestr o gynefinoedd yn y sir sydd wedi dirywio a dadansoddiad risg o rywogaethau brodorol a beth yw'r cynllun gweithredu cyfatebol, os oes un o gwbwl?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Mae a wnelo'r cwestiwn â bioamrywiaeth ac rydych yn iawn i ddweud ei bod hi'n synhwyrol iawn i ystyried bioamrywiaeth yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd. Yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin yn datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Sir Gaerfyrddin. Mae'r cynllun hwn yn ymdrin â chadwraeth a rheolaeth y cynefinoedd a'r rhywogaethau â blaenoriaeth a restrir yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Caiff y rhain eu hadnabod hefyd fel cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd pennaf yng Nghymru ac mae'r rhestr yn cynnwys y rhan fwyaf o'r cynefinoedd lled-naturiol a'r rhywogaethau cysylltiedig sydd yn y sir e.e. coetiroedd, rhostiroedd, cynefinoedd arfordirol, ynghyd â rhywogaethau fel llygod pengrwn y d?r a britheg y gors.  Bydd y camau gweithredu y bydd y cynllun yn cyfeirio atynt yn seiliedig ar y dull o reoli'r cynefinoedd a'r adnoddau naturiol hyn yn gynaliadwy, sy'n cael eu datblygu hefyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.”

Gofynnodd Ms Thompson y cwestiwn atodol canlynol:-

"Cynllun Gweithredu Adfer Natur - pwy sydd â chyfrifoldeb dros fonitro a gwneud yn si?r ei fod yn digwydd mewn gwirionedd a ble gallaf gael golwg arno?"

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Mae'r cyfrifoldeb yn amlwg ar ysgwyddau Cyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â chyrff allanol eraill hefyd; Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r un amlwg a dyna pam mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin yn cynnwys yr holl bartneriaid hyn.  Unwaith eto, gweithio ar y cyd ac nid yn ynysig yw'r peth pwysig, oherwydd rydym yn rhannu arfer da, yn rhannu profiad, ac yn rhannu gwybodaeth am rywbeth sy'n fater cymhleth iawn. Felly gallaf eich sicrhau ein bod yn hoelio ein llawn sylw ar hyn oherwydd mae'r cysylltiad bregus â'r ecosystem mor bwysig, ac os cawn y peth yn anghywir mae'n peryglu ein bodolaeth ni ein hunain, felly mae'r mater yn brif flaenoriaeth gennym."

 

 

5.9

CWESTIWN GAN MS S WEAVER I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“O ystyried canfyddiadau ymchwil diweddar (Science 05 Gorffennaf 19: Cyfrol 365, Rhifyn 6448, tud. 76-79) y gellid plannu triliwn o goed yn fyd-eang er mwyn lleihau dwy ran o dair o allyriadau carbon anthropogenig hyd yn hyn - heb ordyfu ar dir cnydau neu ardaloedd trefol - a dyna'r dull rhataf a mwyaf pwerus o'r holl atebion arfaethedig i'r argyfwng hinsawdd:

 - pa gynlluniau sydd gan y Cyngor i gefnogi plannu coed cymunedol yn y flwyddyn nesaf drwy sicrhau bod tir a chyllid ar gael?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Weaver yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan:-

 

“O ystyried canfyddiadau ymchwil diweddar (Science 05 Gorffennaf 19: Cyfrol 365, Rhifyn 6448, tud. 76-79) y gellid plannu triliwn o goed yn fyd-eang er mwyn lleihau dwy ran o dair o allyriadau carbon anthropogenig hyd yn hyn - heb ordyfu ar dir cnydau neu ardaloedd trefol - a dyna'r dull rhataf a mwyaf pwerus o'r holl atebion arfaethedig i'r argyfwng hinsawdd: pa gynlluniau sydd gan y Cyngor i gefnogi plannu coed cymunedol yn y flwyddyn nesaf drwy sicrhau bod tir a chyllid ar gael?”

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at Ms Weaver.

 

 

5.10

CWESTIWN GAN MS D SMITH I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“A yw'r Cyngor yn gwybod am botensial pellach i ddal a storio carbon yn Sir Gaerfyrddin (pridd/mawn/coed --) y gall ei annog - a sut allwn ni helpu?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A yw'r Cyngor yn gwybod am botensial pellach i ddal a storio carbon yn Sir Gaerfyrddin (pridd/mawn/coed) y gall ei annog - a sut allwn ni helpu?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Mae corsydd a phriddoedd mawnaidd, wrth eu rheoli'n gywir, yn dal a storio carbon. Golyga hyn ei fod yn gwrthbwyso carbon, mae'n cipio'r carbon sy'n cael ei ryddhau. Mae Prosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin a Phrosiect Brithegion y Gors, Caeau'r Mynydd Mawr y mae'n si?r eich bod wedi clywed amdanynt, ill dau yn gweithio ar y cynefinoedd hyn, gyda'r nod o wella eu cyflwr ar gyfer bioamrywiaeth a'u gallu i ddal a storio carbon. Yn ogystal â hyn, mae gwaith wedi cael ei wneud i'r gors ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain yng Ngors-las er mwyn gwella'i gallu i gadw d?r a dal a storio carbon. Gall pobl helpu ar lefel ehangach yn ogystal, pob un ohonom ni a phawb mas fan yna, drwy beidio â phrynu compost sy'n cynnwys mawn ac annog eu Cynghorau Tref a Chymuned lleol i ddefnyddio cynhyrchion nad ydynt yn cynnwys mawn mewn unrhyw gynlluniau plannu a allai fod ganddynt.  Felly, yn gorfforaethol, rydym yn gwneud llawer, ond yn unigol gallwn hefyd leihau'r pwysau o ran prynu mawn drwy beidio â phrynu pridd sy'n cynnwys mawn." 

 

 

5.11

CWESTIWN GAN MS D GROOM I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Gan fod y diwydiant amaethyddol yn y DU yn cael cymorthdaliadau mawr, hoffwn ddeall pam mae'r Cyngor Sir yn gwario arian ar ei gynllun 'Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen' i roi hwb i gynhyrchiant bwyd yn ddiwahân er ein bod yn gwybod mai un o'r camau gweithredu mwyaf effeithiol y gall pobl ei gymryd yw bwyta llai o gig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gan fod y diwydiant amaethyddol yn y DU yn cael cymorthdaliadau mawr, hoffwn ddeall pam mae'r Cyngor Sir yn gwario arian yn ei gynllun 'Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen' ar roi hwb i gynhyrchiant bwyd yn ddiwahân er ein bod yn gwybod mai un o'r camau gweithredu mwyaf effeithiol y gall pobl ei gymryd yw bwyta llai o gig.”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Mae bwyta cig yn ddewis personol ac nid wyf am gael dadl foesol gyda chi ynghylch bwyta cig. Fodd bynnag, yr hyn mae adroddiad Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen yn ei gydnabod yw mai'r sector amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin, a hynny nid yn unig o ran yr economi ond hefyd o ran ei gyfraniad cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Rydym yn sôn am gymunedau byw.  Rydym hefyd yn sylweddoli fod y modd yr ariennir amaethyddiaeth (ac mae wedi cael cymorthdaliadau mawr fel y dywedoch) yn debygol iawn o newid yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, sef rhywbeth nad oes gan y Cyngor Sir fawr ddim dylanwad arno os o gwbl, ac yn ei dro mae hyn yn debygol o newid amaethyddiaeth yn sylweddol. Os bydd hyn yn effeithio'n negyddol ar y sector amaeth yn y dyfodol, gallai gael effaith niweidiol iawn ar gydnerthedd a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod neb yn y Siambr hon am i hynny ddigwydd i'r cymunedau gwledig unigryw sydd gennym yma yn Sir Gâr ac mewn rhannau eraill o Gymru.

Nid yw’r Cyngor wedi ymrwymo i wario arian ar gynyddu cynhyrchiant bwyd yn ddiwahân, fel y bu i chi ei grybwyll, a byddwn o bosib yn eich herio ynghylch hynny, gan nad ydym erioed wedi awgrymu y byddem yn gwneud hynny'n ddiwahân yn yr adroddiad. Yn hytrach hoffem gefnogi’r sector amaeth lleol i arallgyfeirio a cheisio cyfleoedd newydd o safbwynt cynhyrchiant bwyd cynaliadwy lleol a defnydd tymhorol addas, ar draws ystod eang o fathau o fwyd, boed hynny yn gig, llaeth neu gynnyrch planhigion. Rydym eisiau annog cynnyrch bwyd sydd wedi ei baratoi yn lleol ac sy'n cael ei fwyta yn lleol, ac un o’r pethau rydym yn edrych arno, ar y cyd â phartneriaid sector cyhoeddus eraill yn Sir Gaerfyrddin, yw sut y gallwn addasu ein trefniadau caffael er mwyn i ni allu prynu mwy o gynnyrch lleol gan leihau milltiroedd bwyd a gwastraff yn ein cadwyni cyflenwi.

Gofynnodd Ms Groom y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud a dweud y gwir.  Rwyf am gefnogi'r ffermwyr, ond mae'n amlwg bod y symudiad tuag at feganiaeth yn cyflymu, a bydd hyn yn y pen draw yn ergyd drom i'n cynhyrchwyr da byw.  Tybed a yw'r Cyngor yn ystyried sut i annog a helpu'r ffermwyr hyn i newid o dda byw i gynhyrchu bwyd sy'n ecolegol gadarn drwy neilltuo cyllid ar gyfer cefnogi'r newid hwn? "

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Mae gennym berthynas agos iawn â'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.11

5.12

CWESTIWN GAN MR P HUGHES I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Hoffwn wybod faint o gerbydau diesel, petrol a thrydan sydd gan y gwasanaeth Bwcabus yn ei fflyd, a pha gynlluniau sydd gan y Cyngor i gyflwyno cerbydau wedi'u pweru'n llwyr gan drydan?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Hoffwn wybod faint o gerbydau diesel, petrol a thrydan sydd gan y gwasanaeth Bwcabus yn ei fflyd, a pha gynlluniau sydd gan y Cyngor i gyflwyno cerbydau wedi'u pweru'n llwyr gan drydan?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Mae'r cynllun Bwcabus yn brosiect pwysig iawn gennym.  Mae'n darparu trafnidiaeth gwasanaethau cyhoeddus i rannau o'r Sir Gaerfyrddin wledig ac mae wedi bod yn rhedeg ers deng mlynedd.  Mae'r gwasanaeth yn defnyddio pum cerbyd ar y pryd a'r rhain oedd y rhai mwyaf addas o ran defnydd technoleg ac offer uwch ar adeg eu prynu ac roeddent yn cydymffurfio â'r safonau allyriadau diweddaraf ar y pryd.

Fel y nodir yn ein cynllun gweithredu, mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn adolygu'r opsiynau ar gyfer rhedeg y cynllun yn y dyfodol gan gynnwys cael cerbydau newydd.  Mae opsiynau'n cael eu harchwilio o ran cynhyrchion addas sy'n bodloni gofynion gweithredol a ffynonellau ynni cynaliadwy.  Un o amcanion allweddol y cynllun yw darparu datrysiad trafnidiaeth o safon sy'n annog pobl i deithio drwy ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth megis trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol. Nawr mae gennym ffordd bell i fynd oherwydd rwy'n credu bod yr ystadegyn diweddaraf welais i yn dweud mai dim ond rhyw 6% o'r boblogaeth sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Felly, gan fod y gwasanaeth yn cael llawer o gymhorthdal, mae honno'n broblem ynddi'i hun, ond hefyd mae angen i ni annog rhagor o bobl i ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus pan fyddant ar gael.”

Gofynnodd Mr Hughes y cwestiwn atodol canlynol:-

“Faint o gerbydau diesel, petrol a thrydan sydd gennych ym mhob categori?”

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Ar hyn o bryd nid oes unrhyw un o'r bysiau Bwcabus yn gerbydau trydan ond, fel y soniais, rydym yn adolygu ein hopsiynau wrth symud ymlaen ac rydym yn edrych ar brynu rhai cerbydau trydan efallai.  Rwy'n gwybod bod rhai mudiadau gwirfoddol yn gwneud hyn ar hyn o bryd. Maent yn rhedeg 'people carriers' sy'n defnyddio trydan. Unwaith eto mae hwn yn opsiwn i ni edrych arno mewn cymunedau gwledig. Pan ddaw oes y bysiau hyn i ben, a bydd hynny'n fuan iawn, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o edrych ar fflyd drydan ond ar hyn o bryd maent yn rhai diesel a phetrol.  Ni allaf roi'r union fanylion ichi, ond gallaf wneud hynny'n nes ymlaen.  Mae gennym bum cerbyd ac adeg eu prynu nhw oedd y rhai mwyaf addas yn dechnolegol ar y farchnad.”

 

 

5.13

CWESTIWN GAN Y PARCH ATHRO D JENKINS I'R CYNGHORYDD M STEPHENS, DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

“Nid oes sôn am yr hinsawdd yn y Cyflwyniad Cryno presennol o'r Cynllun Datblygu Lleol (https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1216114/ldp-summary-introduction-cymraeg-final.pdf). Mae fersiwn fwy manwl yn sôn am newid yn yr hinsawdd http://www.cartogold.co.uk/CarmarthenshireLDP/welsh/text/05_Strategaeth-a-Pholisiau-Strategol.htm ond nid oes llawer o wybodaeth am hynny wedi'i chynnwys yn y strategaeth na'r polisi. Sut y bydd y Cynllun yn adlewyrchu datgan argyfwng hinsawdd; a fydd y Cyngor yn casglu barn y cyhoedd drwy Gynulliad Dinasyddion?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Nid oes sôn am yr hinsawdd yn y Cyflwyniad Cryno presennol o'r Cynllun Datblygu Lleol (https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1216114/ldp-summary-introduction-cymraeg-final.pdf). Mae fersiwn fwy manwl yn sôn am newid yn yr hinsawdd http://www.cartogold.co.uk/CarmarthenshireLDP/welsh/text/05_Strategaeth-a-Pholisiau-Strategol.htm ond nid oes llawer o wybodaeth am hynny wedi'i chynnwys yn y strategaeth na'r polisi.Sut y bydd y Cynllun yn adlewyrchu datgan argyfwng hinsawdd; a fydd y Cyngor yn casglu barn y cyhoedd drwy Gynulliad Dinasyddion?”  

Ymateb gan y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:-

"Mae eich cwestiwn mor briodol ei amseriad ac mae'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad presennol ar y CDLl.  Nodaf gyda sicrwydd nad y dogfennau y cyfeirir atynt yn y cwestiwn yw cyhoeddiadau mwyaf diweddar y CDLl. Cafodd y ddogfen 'cyflwyniad cryno' ei pharatoi ar ddechrau'r gwaith o greu'r CDLl Diwygiedig, a'r ddogfen arall y cyfeirir ati fel y 'fersiwn fwy manwl' yw'r CDLl cyfredol a fabwysiadwyd. Fodd bynnag, diolch i chi am gymryd yr amser i'w darllen a'u deall ac am wybod bod y ddwy ddogfen hyn yn sail i'r cynllun a llawer o'r cyd-destun o ran cyfeiriad, a diolch am bopeth rydych wedi ei wneud hyd yn hyn.

Rwyf wedi dweud droeon yn y siambr hon, pryd bynnag rydym yn mynd drwy wahanol gamau'r broses CDLl, sy'n hir ac yn ymddangos yn llafurus, ein bod yn mireinio'n barhaus ac yn ei wneud yn gadarnach wrth i ragor o dystiolaeth gael ei chasglu a'i chynnwys yn y cynllun.  Efallai ei bod yn werth nodi fan hyn y math o ymgysylltu ac ymgynghori sydd wedi bod yn digwydd hyd yma, a, chredwch chi fi, mae hynny wedi bod ar raddfa fwy o lawer nag unrhyw beth sydd wedi digwydd wrth gynhyrchu unrhyw CDLl yn y gorffennol. Felly, yn ogystal ag ymgynghoriad y Gr?p Ymgynghorol, sy'n cynnwys aelodau sydd wedi dod â materion o bob rhan o'r sir i'w trafod, bu fforwm rhanddeiliaid allweddol sy'n cynnwys trawstoriad o bobl o sefydliadau statudol fel y GIG, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau cyfagos, cafwyd sylwadau gan Gynghorau a Chynghorwyr Tref a Chymuned, cynrychiolwyr y gwahanol fudiadau gwirfoddol sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin, a hefyd cynrychiolwyr o'r gymuned sy'n cwmpasu ystod eang o fuddiannau, ac, fel rwyf wastad wedi dweud, maent yn cyfrannu eu gofynion at y cynllun. Rydym hefyd wedi cyfarfod â Chynghorau Cymuned a Thref, fel y gellir cael safbwynt mwy lleol, ac, yn wir, fel y gallant ddweud wrthym pa fath o ddatblygiad sy'n dderbyniol, ac, os caf fentro dweud, annerbyniol yn eu hardaloedd.  Mae'r rheiny wedi cael eu cyfrannu ac yn cael eu hystyried o ran yr hyn sy'n digwydd. Rydym hefyd wedi trafod â datblygwyr ac asiantau er mwyn ceisio sicrhau bod cyflawni'r cynllun hwn ar ddiwedd y dydd yn rhywbeth y gallwn weithio gydag ef, ac ymfalchïo ynddo ar gyfer dyfodol Sir Gaerfyrddin.

Mae rhan o'r cynllun hwnnw'n golygu edrych ar y materion sydd gennym o fewn ein rheolaeth, sef y pethau hynny y gwyddom fod gennym eisoes, Cynllun Cymunedol integredig a chynlluniau ar gyfer ardaloedd gwledig.  Mae gennym y cynllun hwn sydd wedi esgor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.13

5.14

CWESTIWN GAN MS G JENKINS I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Yn ôl yr Athro Syr Ian Boyd, cyn brif ymgynghorydd gwyddonol i lywodraeth y DU, mae angen trawsnewid hanner o dir ffermio'r genedl yn goetiroedd ac yn gynefinoedd naturiol i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac adfer bywyd gwyllt. Yn y cyd-destun hwnnw, pa gynlluniau sydd gan y Cyngor ar gyfer annog bywyd gwyllt?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Yn ôl yr Athro Syr Ian Boyd, cyn brif ymgynghorydd gwyddonol i lywodraeth y DU, mae angen trawsnewid hanner o dir ffermio'r genedl yn goetiroedd ac yn gynefinoedd naturiol i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac adfer bywyd gwyllt. Yn y cyd-destun hwnnw, pa gynlluniau sydd gan y Cyngor ar gyfer dad-ddofi tir?"

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Yr ateb syml yw nad oes gennym gynlluniau ar gyfer dad-ddofi tir, ond rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer creu coetir ar dir rydym yn berchen arno a thir rydym yn ei reoli, ac mae'r Cyngor Sir eisoes yn rheoli sawl safle ar draws y sir yn bennaf ar gyfer bioamrywiaeth, o Warchodfa Natur Leol Morfa Berwig ar gyrion Llanelli, i Barc Natur Lleol Ynys Dawela ym Mrynaman.

Fel rhan o'i ddyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd, disgwylir i'r Cyngor ystyried effaith ei arferion rheoli tir ar yr amgylchedd naturiol a sut y gellir eu haddasu i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Mae'r CDLl Diwygiedig sydd ar y gweill, yr ydym wedi clywed amdano eisoes y bore yma gan y Cynghorydd Mair Stephens, hefyd yn rhoi cymorth i gynigion ar gyfer creu a gwarchod coetiroedd newydd, coedwigoedd, lleiniau o goed a choridorau o goed lle maen nhw'n ceisio hyrwyddo cyflawni uchelgeisiau datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd yn genedlaethol a lleol.

Felly yr ateb syml i'ch cwestiwn yw nad oes cynlluniau gennym, ond rydym yn gwneud llawer o bethau cyffrous eraill i edrych ar ddatblygu coetir ac yn y blaen.”

Gofynnodd Ms Jenkins y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd wrth ddweud nad oes gennych unrhyw gynlluniau, ond os yw cynigion y CDLl Diwygiedig yn sôn am ddad-ddofi mewn ffordd, hynny yw, rhagor o goetiroedd ac ati, oni fyddai'n briodol ystyried y 24 fferm, y 22 parc, yn ogystal â'r tir ymylol sydd gennych fel Cyngor a gwneud cynlluniau i ddad-ddofi'r rheiny? "

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Rwy'n credu bod yna drafodaeth fawr i'w chael ynghylch dad-ddofi a beth yw ystyr dad-ddofi, mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Rydym i gyd yn gwybod am syniad George Monbiot o ddad-ddofi, sef ail-gyflwyno anifeiliaid gwyllt fel bleiddiaid, eirth a baeddod gwyllt. I lawer o bobl, dyna beth yw ystyr dad-ddofi. Yn bersonol, ni fyddwn i'n cefnogi hynny oherwydd ble rydym wedi cyrraedd. Mae'r ecosystem wedi datblygu i'w phwynt presennol yn sgil gwarchod y cydbwysedd bregus iawn hwnnw rhwng y sawl sy'n ffermio, y sawl sy'n gwarchod y tir, a'r rheiny sydd am newid natur ein tir, ac rwy'n meddwl mai cadw'r cydbwysedd hwnnw yw'r hyn sydd angen i ni ei wneud. Mae gennym gymunedau byw i'w gwarchod yma yn Sir Gaerfyrddin ochr yn ochr â'n cymunedau bywyd gwyllt, ac mae'r cydbwysedd rhyngddynt wastad wedi cael ei gynnal gan warcheidwaid y tir, sef ein ffermwyr, y mae eu profiad o gynnal cynhyrchiant bwyd o safon ar y cyd â diogelu ein cynefinoedd naturiol wedi'i ddatblygu dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.14

5.15

CWESTIWN GAN MR D REED I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWETIHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Hoffwn ofyn  pa newidiadau mawr sydd wedi'u gwneud ers mabwysiadu templed yr Asesiad Risg Cynaliadwy sy'n cyfrannu at leihau'r argyfwng hinsawdd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Hoffwn ofyn pa newidiadau mawr sydd wedi'u gwneud ers mabwysiadu templed yr Asesiad Risg Cynaliadwy sy'n cyfrannu at leihau'r argyfwng hinsawdd?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn i ni yn Sir Gaerfyrddin gan fod enw da gennym fel sir sy'n cynhyrchu bwyd.  Defnyddir yr Asesiad Risg Cynaliadwy i nodi enillion cynaliadwy ar ymarferion caffael gwerth dros £25,000, gan alluogi'r Cyngor yn y pen draw i wneud penderfyniadau prynu gwell mewn perthynas â chynaliadwyedd. Templed gan Lywodraeth Cymru yw hon ac mae'n ymdrin â nifer o feysydd sy'n helpu i gyfrannu at Gynllun Carbon Sero-net y Cyngor.  Mae'r Asesiad Risg yn cynnwys:-

·       lleihau effeithiau trafnidiaeth;

·       lleihau deunydd pacio a gwastraff;

·       defnyddio deunyddiau a gyrchir yn gynaliadwy;

·       diogelu mannau gwyrdd a bioamrywiaeth;

·       lleihau’r defnydd o gemegion gwenwynig, toddyddion a sylweddau sy’n niweidiol i’r haen osôn;

·       lleihau’r angen am ynni a gwneud defnydd mwy effeithlon ohono;

·       fel y crybwyllwyd yn yr ymateb i gwestiwn blaenorol, mae addasu rheoliadau caffael i brynu mwy o gynnyrch bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn flaenoriaeth i ni gan ein bod eisoes yn ymgysylltu â chyrff sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yngl?n â datblygu rhaglen ar gyfer defnyddio a phrynu mwy o fwyd a diod lleol, sy'n mynd i leihau'r milltiroedd bwyd yn amlwg a hefyd gefnogi cynaliadwyedd busnesau lleol yn ogystal.

Felly mae prosiectau cynaliadwy penodol ar y gweill i gefnogi'r agenda hon ymhellach yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft mae'r Cyngor yn gweithio gyda WRAP o dan raglen gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio yn y sector cyhoeddus drwy gaffael.

Mae Llywodraeth Cymru yn y camau olaf o gyflwyno 'Dangosfwrdd Datgarboneiddio' fel rhan o raglen Atamis (y porth dadansoddi gwariant a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn ar gael ym mis Mawrth eleni a'r nod yw darparu darlun lefel uchel o allyriadau carbon sefydliad sy'n gysylltiedig â gwariant caffael gyda chontractwyr, cyflenwyr neu ddarparwyr gwasanaethau a bydd hyn yn waelodlin inni, yn fan cychwyn ar gyfer cynllunio i ddatgarboneiddio. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y rhaglen dangosfwrdd hon gan Lywodraeth Cymru. "

Gofynnodd Mr Reed y cwestiwn atodol canlynol:-

"Mae cryn dipyn o wybodaeth i mi ei phrosesu fan yna. A oes unrhyw enghreifftiau y gallwch eu rhoi i mi y mae'r Asesiad Risg Cynaliadwy wedi eu defnyddio yng Nghaerfyrddin o fewn y diwydiant bwyd?”

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Ni allaf roi enghreifftiau penodol i chi nawr, ond beth allaf ei ddweud wrthych yw ein bod ni, fel Awdurdod Lleol, bellach yn Awdurdod rhydd rhag plastig untro. Rydym hefyd wedi dod yn Gyngor Sir di-bapur. Ond o ran caffael bwyd, mae rheoliadau Ewropeaidd bob amser wedi cyfyngu arnom, ac efallai mai un fantais fach o adael yr Undeb Ewropeaidd yw bod y rheoliadau hyn yn mynd i gael eu llacio o bosibl, a fydd yn caniatáu i ni gaffael mwy o fwyd yn lleol. Nid ydym wedi gallu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.15

5.16

CWESTIWN GAN MS C LAXTON I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Gan ystyried bod contractwyr y Cyngor yn defnyddio glyffosad yn amhriodol, yn ogystal â phryderon y mae pawb yn ymwybodol ohonynt, ac nad ydynt bob amser yn defnyddio offer diogelwch, a fyddai'n well gwahardd ei ddefnydd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Laxton yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan:-

 

“Gan ystyried bod contractwyr y Cyngor yn defnyddio glyffosad yn amhriodol, yn ogystal â phryderon y mae pawb yn ymwybodol ohonynt, ac nad ydynt bob amser yn defnyddio offer diogelwch, a fyddai'n well gwahardd ei ddefnydd?”

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at Ms Laxton.

 

 

5.17

CWESTIWN GAN DR A LAXTON I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Sut y mae'r erwau o baneli haul yn Sir Gaerfyrddin yn cymharu â'r rhain mewn siroedd eraill?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Sut y mae'r erwau o baneli haul yn Sir Gaerfyrddin yn cymharu â'r rhain mewn siroedd eraill?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

 

"Ar dudalen 8 ein Cynllun Gweithredu byddwch wedi gweld hyper-ddolen i adroddiad Llywodraeth Cymru o'r enw 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru ' a luniwyd yn 2018 ond a gyhoeddwyd yn 2019 ac mae'n nodi capasiti cynhyrchu ynni Cymru. Darperir amrywiol ddata cynhyrchu ynni adnewyddadwy fesul Awdurdod Lleol, ac mae hyn yn ddefnyddiol oherwydd gallwn gymharu ein hunain ag Awdurdodau Lleol eraill. 

Gosodwyd cyfanswm o ran capasiti solar ffotofoltäig o 977.5 MW yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio o 6.7 MW ym Merthyr Tudful, y lleiaf, i 189.7 MW yn Sir Benfro. Yn Sir Gaerfyrddin yr oedd y capasiti solar ffotofoltäig ail uchaf yng Nghymru, sef 107.7 MW. Felly rydym yn ail yn y tabl hwnnw ar y pryd.

Ar sail y dybiaeth fod pob MW o gapasiti solar ffotofoltäig yn cwmpasu'r un ardal o dir, yna Sir Gaerfyrddin sydd â'r ail fwyaf o erwau o baneli solar (PV) o gymharu â siroedd eraill yng Nghymru, felly rwy'n credu ein bod yn gwneud yn dda iawn.”

Gofynnodd y Dr. Laxton y cwestiwn atodol canlynol:-

“Mae hynny'n ateb calonogol iawn.  Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i annog datblygu paneli solar ymhellach er gwaethaf y cynnydd da a wnaed eisoes?”

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Fe wnes i sôn am hyn yn gynharach, fy uchelgais i, ac yn sicr uchelgais y Weinyddiaeth, yw buddsoddi mwy mewn prosiectau ynni adnewyddadwy wrth symud ymlaen.  Fel y dywedais, mae gennym un tyrbin gwynt yn barod.  Rydym wrthi'n edrych ar ffyrdd o gael rhywfaint o gyllid i ddatblygu rhagor ac mae paneli solar hefyd yn bendant yn rhywbeth rydym yn edrych arno.  Felly yr hyn y bwriadaf ei drafod gyda swyddogion yw sefydlu gr?p bach i edrych ar y modd y gallwn symud yr agenda hon yn ei blaen fel y gallwn gynhyrchu mwy o'n hynni ein hunain drwy ffynonellau adnewyddadwy, oherwydd mae'n hanfodol bwysig inni wneud hynny i gyrraedd y targed rydym wedi gosod i'n hunain o fod yn garbon sero-net mewn deng mlynedd.”

 

 

5.18

CWESTIWN GAN MR B KLEIN BRETELER I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“O ran rhoi trwydded i echdynnu 110,000 o dunelli o lo o bwll glo presennol Glan Lash yn Heol Shands, Llandybïe. Er na fydd gan y Cyngor awdurdod i bennu'r swm penodol o lo a ellid ei werthu ar gyfer y farchnad losgi a marchnadoedd eraill.

Yn sgil y Cyngor Sir yn datgan argyfwng hinsawdd ar 20 Chwefror 2019, sef llai na 12 mis yn ôl, a yw'r Cyngor yn cytuno y byddai rhoi trwydded i estyn y pwll glo yn cael effaith niweidiol ar iechyd y bobl yn y gymuned leol, iechyd a bioamrywiaeth y coetiroedd eraill yn Sir Gaerfyrddin, ac yn cynyddu'r ôl troed carbon yn Sir Gaerfyrddin, ac a yw rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer echdynnu tanwydd ffosil yn cyd-fynd â datgan argyfwng hinsawdd ac yn cydymffurfio â pholisïau CSC a'i ymrwymiadau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“O ran rhoi trwydded i echdynnu 110,000 o dunelli o lo o bwll glo presennol Glan Lash yn Heol Shands, Llandybïe, er na fydd gan y Cyngor awdurdod i bennu'r swm penodol o lo a ellid ei werthu ar gyfer y farchnad losgi a marchnadoedd eraill.

Yn sgil y Cyngor Sir yn datgan argyfwng hinsawdd ar 20 Chwefror 2019, sef llai na 12 mis yn ôl, a yw'r Cyngor yn cytuno y byddai rhoi trwydded i estyn y pwll glo yn cael effaith niweidiol ar iechyd y bobl yn y gymuned leol, iechyd a bioamrywiaeth y coetiroedd sy'n weddill yn Sir Gaerfyrddin, ac yn cynyddu'r ôl troed carbon yn Sir Gaerfyrddin, ac a yw rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer echdynnu tanwydd ffosil yn cyd-fynd â datgan argyfwng hinsawdd ac yn cydymffurfio â pholisïau CSC a'i ymrwymiadau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016?”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Mae'r Cyngor yn ystyried cais cynllunio ar gyfer y datblygiad hwn, fel y gwyddoch.  Mae'n golygu bod protocol penodol y mae'n rhaid i ni ei ddilyn fel Cynghorwyr. Mae'n golygu na ellir barnu'r cais ymlaen llaw a bydd y mater hwn yn cael sylw pan fydd y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried y cais maes o law. Felly, ni all y Cyngor wneud sylwadau hyd nes i'r cais gael ei roi gerbron y Pwyllgor Cynllunio er mwyn penderfynu arno.

Yn bersonol, byddwn yn disgwyl i'n swyddogion cynllunio ac aelodau'r Pwyllgor Cynllunio ystyried ein Cynllun Carbon Sero-net wrth benderfynu ar y cas penodol hwn.

Gofynnodd Mr Klein Breteler y cwestiwn atodol canlynol:-

"Felly, a fyddai'r Cyngor yn fodlon cynnal neu fod yn rhan o Gynulliad Pobl neu Gynulliad Dinasyddion lle byddid yn curo ar ddrysau pob aelod o'r gymuned gyfagos ac yn rhoi gwahoddiad personol iddynt roi eu rhesymau dilys o blaid neu yn erbyn trwydded o'r fath, ac a fyddai'r Cyngor yn cymryd ymateb y bobl hyn o ddifrif ac yn cyflwyno'r ymateb hwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth ystyried yr estyniad i'r drwydded? "  

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Yn bersonol, ni fyddai gennyf unrhyw wrthwynebiad pe bai'r Cyngor Cymuned, er enghraifft yn Llandybïe, yn cynnal Cynulliad Dinasyddion i drafod y cais hwn. Dyna yw democratiaeth wedi'r cyfan, ac ni fyddai problem gen i pe bai unrhyw un yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod mater dadleuol fel hwn.  Mae Cynulliad Dinasyddion yn un o'r opsiynau hynny, felly mae hynny'n rhywbeth y gallech ei ystyried. Ond ar ddiwedd y dydd mae gennym Bwyllgor Cynllunio. Mae'n bwyllgor lled gyfreithiol ac mae'n cynnwys aelodau etholedig. Nawr, mewn sawl ffordd gallech ddadlau ein bod yn Gynulliad Dinasyddion gan ein bod wedi cael ein hethol gan ddinasyddion Sir Gaerfyrddin.  Ond rwy'n derbyn eich pwynt ac mae'n rhywbeth y gallech fod eisiau ei wneud yn lleol, a gallech yn sicr gyfleu unrhyw deimladau sydd gan y bobl leol ar y mater hwn i broses y Pwyllgor Cynllunio ei hun. "

 

 

5.19

CWESTIWN GAN MR R THOMSON I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Er mwyn gwerthuso'r strategaeth carbon sero-net, bydd angen mesur y newid o ran allbwn ynni adnewyddiadau, sy'n gofyn am ystod o ffynonellau p?er. Er enghraifft, faint o doeau sy'n darparu p?er yr haul yn Sir Gaerfyrddin a beth yw'r allbwn p?er?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Chair advised that Mr Thomson was unable to attend today’s meeting and had requested that he ask the following question on his behalf:-

 

“To evaluate the net zero carbon strategy there will be a need to measure the change in renewable energy output, requiring an inventory of power sources. For example, how many roofs provide solar power in Carmarthenshire and what is the power output?”

The Chair advised that a written response would be conveyed to Mr Thompson.

 

5.20

CWESTIWN GAN MS H GRIFFITHS I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“A yw Cronfa Bensiwn Dyfed wedi dadfuddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil erbyn hyn? Yn benodol a yw wedi dadfuddsoddi yn Blackrock, y mae ei fuddsoddiadau yn ExxonMobil, Chevron, Royal Dutch Shell a BP yn gyfrifol am 75% o golledion $90 biliwn Blackrock dros y degawd diwethaf (2019).”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Griffiths yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan:-

 

“A yw Cronfa Bensiwn Dyfed wedi dadfuddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil erbyn hyn? Yn benodol a yw wedi dadfuddsoddi yn Blackrock, y mae ei fuddsoddiadau yn ExxonMobil, Chevron, Royal Dutch Shell a BP yn gyfrifol am 75% o golledion $90 biliwn Blackrock dros y degawd diwethaf (2019).”

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at Ms Griffiths.

 

 

5.21

CWESTIWN GAN MR B DOYLE I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Ar ôl treulio degawdau'n ailgylchu'n gyson, a chawl gwybod yn ddiweddar ei bod yn bosibl bod y deunyddiau hynny wedi'u hanfon i Falaysia, er mwyn cael eu taflu mewn i afon a mynd i'r môr. Yno, mae'n bygwth llawer iawn o fywyd morol a dynoliaeth gyda chadwyni bwyd wedi'u halogi. Byddai'n well petaent wedi cael eu hanfon at safleoedd tirlenwi. Felly, a oes unrhyw ffordd y gall pobl gael cipolwg ar ble a sut y mae ein heitemau i'w hailgylchu'n cael eu prosesu?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Doyle yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei ran:-

 

“Ar ôl treulio degawdau'n ailgylchu'n gyson, a chael gwybod yn ddiweddar ei bod yn bosibl bod y deunyddiau hynny wedi'u hanfon i Falaysia, er mwyn cael eu taflu mewn i afon a mynd i'r môr. Yno, mae'n bygwth llawer iawn o fywyd morol a dynoliaeth gyda chadwyni bwyd wedi'u halogi. Byddai'n well petaent wedi cael eu hanfon at safleoedd tirlenwi. Felly, a oes unrhyw ffordd y gall pobl gael gwybodaeth am ble a sut y mae ein heitemau i'w hailgylchu'n cael eu prosesu?”

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at Mr Doyle.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cytunodd y Prif Weithredwr y byddai'r ymatebion ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi gyda chofnodion y cyfarfod.

Diolchodd y Cadeirydd i'r holwyr am eu cwestiynau ac am eu presenoldeb yn y cyfarfod.

 

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBYDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD FOZIA AKHTAR

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

         Credu bod angen gwneud mwy i wella amrywiaeth yn ein gweithlu.

         Ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol i ddeall y rhwystrau sy'n bodoli ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME).

         Galw ar y Bwrdd Gweithredol i greu Panel Ymgynghorol er mwyn ystyried pa gamau gweithredu y gellid eu cymryd i sicrhau mwy o amrywiaeth yn y gweithle.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Fozia Akhtar:-

 

Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

  • Credu bod angen gwneud mwy i wella amrywiaeth o fewn ein gweithlu.
  • Ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol i ddeall y rhwystrau sy'n bodoli ar gyfer unigolion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig.
  • Galw ar y Bwrdd Gweithredol i greu Panel Ymgynghorol i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i gynyddu amrywiaeth yn y gweithle.

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig. Dywedwyd wrth yr Aelodau, os y byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

 

8.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CYNLLUN CARBON SERO-NET (BWRDD GWEITHREDOL 3YDD CHWEFROR 2020) pdf eicon PDF 487 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Lloyd a C.A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2020 (gweler cofnod 8), wedi ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu cynllun i'r Awdurdod fod yn garbon sero-net. Roedd y Rhybudd o Gynnig a gafodd gefnogaeth unfrydol gan y Cyngor Sir ar 20 Chwefror 2019 yn mynnu bod cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod lleol carbon sero-net yn cael ei ddatblygu cyn pen 12 mis.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol: -

 

(1)  bod y Cynllun Carbon Sero-net sy'n amlinellu llwybr tuag at fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030 yn cael ei fabwysiadu, a

 

(2)  bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Swyddogion wneud addasiadau teipio neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Cynllun Carbon Sero-net.

 

8.2

CWM ENVIRONMENTAL LTD - GOFYNIAD CYLLID BENTHYCIADAU - (BWRDD GWEITHREDOL 3YDD CHWEFROR 2020) pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2020 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar sicrhau cyfleuster cyllido priodol ar gyfer CWM Environmental Ltd. Roedd angen y benthyciad er mwyn ariannu symud swyddfa'r Cwmni i Nant-y-caws, talu unrhyw daliadau diwedd prydles a allai fod yn daladwy yn sgil gadael y swyddfa bresennol yng Nghillefwr ynghyd â chaffael tir ychwanegol ger safle Nant-y-caws.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

Cytuno ar gyfleuster cyllido fel a ganlyn:

1.       Cyfanswm y cyfleuster benthyciad - £800k

2.       Hyd y trefniant – 10 mlynedd ar gyfer caffael y tir, 5 mlynedd ar gyfer costau cysylltiedig â'r adeiladau.

3.       Llog o 1% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus am 10 mlynedd a 5 mlynedd yn y drefn honno gan adlewyrchu'r diogelwch a fydd ar gael i'r Cyngor.

4.       Cyfleuster cyllido i'w weithredu fel trefniant tynnu i lawr - arian           i'w ddefnyddio pan fo angen yn unig.

5.       Cymeradwyo rhyddhau cyllid i'w ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, a bydd y cyfleuster i'w weinyddu fel a ganlyn:

a)       Rhyddhau cyllid dim ond:

i)         Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Fwrdd y Cwmni a chan gr?p Cyfranddalwyr CWM Environmental Ltd.

ii)        Pan fydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn fodlon y darperir ar gyfer ad-daliadau'r benthyciad yng Nghynllun Busnes y Cwmni a'u bod yn fforddiadwy.

b)       Elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl i'w dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

9.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

6ED IONAWR 2020 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.2

20FED IONAWR 2020 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2020.