Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 12fed Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies, D.C. Evans, L. Evans, D. Harries, K. Lloyd, A.G. Morgan, D. Price a G. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad i deulu'r diweddar Martin Morris, a fu'n aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin a'r hen Gyngor Sir Dyfed. Talwyd teyrnged gan y Cadeirydd a'r Cynghorydd Rob James (Arweinydd y Blaid Lafur) i Mr Morris, a fu'n Arweinydd Gr?p Llafur, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ffocws Cwsmeriaid/Cydraddoldeb yn ystod ei gyfnod fel aelod etholedig dros Sir Gaerfyrddin.

 

Safodd y Cyngor mewn tawelwch fel arwydd o deyrnged i Mr Morris.

 

·         Estynnodd y Cadeirydd groeso i Wendy Walters i'w chyfarfod cyntaf gyda'r Cyngor ar ôl iddi gael ei phenodi i swydd y Prif Weithredwr.

·         Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol yn ei wasanaeth dinesig, yn enwedig ei gaplan y Parchedig Dr Caroline Jones, y Gwir Barchedig Joanna Penberthy a Mr Mark Drakeford, sef Prif Weinidog Llywodraeth Cymru.

 

Diolchodd hefyd i'r rheiny a oedd wedi cyfrannu at ei elusen, gan godi swm o £806.76 ar gyfer y banciau bwyd.

·         Soniodd y Cadeirydd am y digwyddiadau y bu ef a'i is-gadeirydd yn bresennol ynddynt yn ddiweddar, yn enwedig y seremonïau penodi maerol mewn nifer o Gynghorau Tref a Chymuned ledled ardal yr awdurdod.

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliad diweddar, gyda'r Cynghorydd Irfon Jones, â Mr a Mrs Jones o Fwlchnewydd, Caerfyrddin, a oedd wedi dathlu 70 mlynedd o briodas yn ddiweddar.

·         Talodd y Cynghorydd Hazel Evans deyrnged i Dorian Lewis a Mark Allen o Adran yr Amgylchedd yn y Cyngor, yr oedd eu gweithredoedd anhunanol wedi achub bywyd gyrrwr lori yr oedd ei gerbyd wedi'i ysgubo i'r afon gan y tirlithriad yng Nghwmduad yn ystod Storm Callum yn ddiweddar. Cydnabuwyd eu gweithredoedd hefyd yn ystod noson Gwobrau Cymunedol Gorllewin Cymru ar 24 Mai, pan roddwyd y Wobr Dewrder Cymunedol iddynt.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd anrheg i Dorian a Mark gan y Cyngor er mwyn cydnabod eu dewrder.

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i:-

-       Y Cynghorydd Elwyn Williams, ar ei benodiad yn Is-gadeirydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2019/20.

-       Y Cynghorydd Rob Evans ar gael gwobr yng nghategori 'Codi Arian i Elusen' yng Ngwobrau Cymunedol Gorllewin Cymru 2019 o ran ei waith yn datblygu Banc Bwyd Llanelli a ac am ddarparu fan i wasanaethu'r holl gymunedau. Roedd y Cynghorydd Evans hefyd wedi creu Gardd Goffa'r Rhyfel yn Nafen, Llanelli.

-       Y Cynghorydd Jim Jones ar ei ben-blwydd diweddar.

·         Soniodd y Cynghorydd Gary Jones am y sefydliadau canlynol yn Llangennech, a oedd wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau Bwyd Cymru yn ddiweddar:-

 

The Bridge - Bwyty'r Flwyddyn (Rhanbarth y De-orllewin)

 

Tafarn y Morlais - Tafarn Gastro'r Flwyddyn (Rhanbarth y De-ddwyrain)

 

Parc Carafannau Teithiol De Cymru, ger Heol Troserch - Safle Carafanau Gorau yng Nghymru

 

·         Estynnodd y Cynghorydd P. Hughes Griffiths, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ei werthfawrogiad i bawb o Sir Gaerfyrddin a oedd wedi cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar, gan gynnwys disgyblion ysgol, athrawon, gwirfoddolwyr a chrefftwyr.

·         Cafodd y Cyngor y wybodaeth ddiweddar gan y Cynghorydd Cundy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

10FED EBRILL, 2019 pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2019 yn gofnod cywir.

 

4.2

1AF MAI, 2019 pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Mai 2019 yn gofnod cywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD ROB EVANS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn credo bod “Pob Plentyn yn Bwysig”. Dywedir wrthym hefyd fod rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled bob amser o dan bob “Ffformiwla Ariannau Teg”. Fodd bynnag, os yw’r un ysgolion ar eu colled flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut y gall hyn fod yn deg? Beth y gellir ei wneud I leihau’r anghydraddoldeb hwn?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn credu bod "Pob Plentyn yn Bwysig”. Dywedir wrthym hefyd fod rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled bob amser o dan bob "Fformiwla Ariannu Teg". Fodd bynnag, os yw'r un ysgolion ar eu colled flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut y gall hyn fod yn deg. Beth y gellir ei wneud i leihau'r anghydraddoldeb hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

"Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Rob Evans am ei gwestiwn.

 

Cytunaf fod 'Pob Plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn Bwysig' ac rydym yn gwneud ein gorau dros bob plentyn a phob person ifanc - yn ôl y cyfrifiad diwethaf roedd bron 28,000 ohonynt yn y Sir. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni weithio o fewn y Grant Cynnal Refeniw sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Byddai'n braf cael cyllideb deg o'r dechrau, yn ogystal â chyllideb amserol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y gyllideb addysg. Yng nghyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac wrth ymgynghori â Llywodraeth Lafur Cymru, rydym wedi gofyn am hynny, ond dywedwyd wrthym fod rhaid i ni flaenoriaethu addysg. Byddai rhai pobl yn ystyried hon yn broblem sydd bron yn amhosibl i'w datrys. Hynny yw, ein cyfrifoldeb ni fydd cyflawni hynny gan gadw at gyllideb sy'n lleihau ar adeg ariannol anodd. Felly, dim ond yr wythnos diwethaf gwnaethom dderbyn £1.9 miliwn y dylem fod wedi'i dderbyn ar y dechrau, ond rydym wedi'i gael tri mis ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol. Mae hynny hefyd yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn pennu'r gyllideb.

 

Mae'r weinyddiaeth hon wedi gweithio mor galed i amddiffyn cyllideb yr ysgolion ac nid ydym wedi lleihau'r gyllideb a ddyrennir i ysgolion, yn wahanol i'r hyn y mae llawer o Gynghorau Sir eraill wedi gorfod ei wneud. Nid yw hyn wedi bod yn wir ar gyfer meysydd gwasanaeth eraill lle bo toriadau'r gyllideb wedi cael effaith fawr.

 

O dan Reoliadau Cyllid Ysgolion Cymru Gyfan 2010, sy'n berthnasol i'r holl Gynghorau Sir yng Nghymru, sef pob awdurdod, mae cyllideb yr ysgolion unigol yn cael ei dyrannu i ysgolion ar ffurf cyfrannau yn y gyllideb, gan ddefnyddio fformiwla cyllido a bennir yn lleol. Mae cynnwys y fformiwla'n cael ei bennu gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol, ac mae llawer o agweddau'n gyffredin i'r holl Gynghorau. Fodd bynnag, mae ychydig o hyblygrwydd er mwyn adlewyrchu amgylchiadau a blaenoriaethau lleol.

Cyn dechrau cyfnod cyllido, mae'n rhaid i awdurdod lleol bennu'r fformiwla y bydd yn defnyddio i bennu cyfrannau'r ysgolion yn y gyllideb yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw, gan ystyried y ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau.

Wrth bennu cyfrannau'r ysgolion yn y gyllideb, mae'n rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ei fformiwla'n nodi bod o leiaf 70% o'r cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y disgyblion.  Caiff awdurdodau ddewis wedyn i ddyrannu'r 30% sy'n weddill ar sail ystod o ffactorau er mwyn iddynt ystyried amgylchiadau ysgolion unigol.

Duw a’n gwaredo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

7.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT - YNNI GWYNT AC YNNI'R HAUL A CHANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 508 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 1 Ebrill 2019 (gweler cofnod 9) wedi ystyried adroddiad ar fabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft - Ynni'r Gwynt ac Ynni'r Haul yng Nghynllun Lleol Caerfyrddin a'r Cylch a'i fod wedi ystyried bod Canllawiau Cynllunio Atodol - Dylunio Priffyrdd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cyn cael eu cynnwys yn y Cynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Bod yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori yn cael eu nodi a bod y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad;

 

Bod Canllawiau Cynllunio Atodol y Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am gyfnod o chwe wythnos;

 

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio gywiro gwallau argraffu, gwallau cartograffig neu wallau gramadegol a gwneud diwygiadau er mwyn gwella'r cywirdeb a gwneud yr ystyr yn gliriach.”

 

7.2

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 - DIWEDDARIAD MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 865 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 3 Mehefin 2019 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad diweddaru ynghylch Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2018, a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2019 yn dilyn adolygiad o'r Amcanion Llesiant. Nodwyd bod yr adroddiad diweddaru wedi'i ystyried eisoes gan bwyllgorau craffu y Cyngor a'i ddiwygio lle bo'n briodol i adlewyrchu eu barn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

ailgadarnhau'r Strategaeth Gorfforaethol a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018;

 

cadw'r un set o Amcanion Llesiant ar gyfer 2019/20 yn amodol ar wneud rhai cywiriadau.”

 

8.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODAU Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

8.1

1AF EBRILL 2019 pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019.

 

8.2

7FED MAI 2019 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 7 Mai 2019.

 

8.3

13EG MAI 2019 pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Mai 2019.