Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 16eg Mai, 2018 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, D.C. Evans, D. Harries, T. Higgins, A. James, A.G. Morgan (sesiwn y bore), A. Speake, L.M. Stephens a G.B. Thomas (sesiwn y prynhawn).  

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Irfon Jones sef y Cadeirydd a oedd yn Ymddeol, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod.

Bu'r Cynghorydd Jones yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd a diolchodd i'r Prif Weithredwr am ei gyngor a'i arweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr a staff yr Awdurdod a oedd wedi cefnogi gwaith y Cadeirydd, gan gynnwys yr Uned Gwasanaethau Democrataidd, ei yrrwr Jeff Jones ac yn benodol Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, am drefnu ei ddigwyddiadau, ac am sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus bob amser.

Diolchodd i'w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Mansel Charles, a'i Gydymaith Mrs. Bethan Charles-Davies, am eu cefnogaeth a'u cwmni yn ystod ei gyfnod yn y swydd a dymunodd yn dda i'r Cynghorydd Charles ar ei flwyddyn yn y swydd. Diolchodd hefyd i'w gaplan y Parchedig Ganon Aled Williams am ei gefnogaeth ysbrydol a'i arweiniad trwy gydol y flwyddyn.

Mynegodd y Cynghorydd Jones ei ddiolch diffuant am yr holl gefnogaeth yr oedd ef a'i gydymaith wedi'i gael drwy gydol yr hyn a ystyriai ef yn bersonol yn flwyddyn lwyddiannus iawn. Roedd wedi teithio ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod â phobl oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn gant oed, pobl ifanc, enillwyr gwobrau, cerddorion, artistiaid ac aelodau o'r teulu brenhinol.

Yn olaf, talodd deyrnged i'w wraig a'i gydymaith Jean, a oedd wedi bod wrth ei ochr ac yn ei dywys yn ystod y 12 mis diwethaf a diolchodd iddi yn ffurfiol am ei chariad a'i chymorth parhaus. Dywedodd y bu'n anrhydedd ac yn fraint i wasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor a diolchodd i bawb am roi'r cyfle iddo. 

 

4.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd H.I. Jones ac eiliwyd gan y Cynghorydd C. Campbell a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd M.Charles yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

Gwnaeth y Cynghorydd M. Charles ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd oedd yn ymddeol.

 

Diolchodd y Cynghorydd M. Charles i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth yn ei benodi yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd ei fod yn gobeithio efelychu'r safon uchel o ran Cadeiryddiaeth a ddarparwyd gan ei ragflaenwyr.  Rhoddodd y Cynghorydd Charles deyrnged i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol, y Cynghorydd H.I. Jones, a chyflwynodd iddo ddarlun ac albwm o ffotograffau i nodi rhai o'r prif ddigwyddiadau yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, ynghyd â Chrogdlws i nodi ei fod yn Gyn-gadeirydd. 

 

Yna cyflwynodd Jean Jones, Cydymaith y Cadeirydd oedd yn ymddeol Gadwyn Swyddogol i Mrs Bethan Charles-Davies, a chyflwynodd Mrs Bethan Charles Davies Grogdlws Cydymaith y Cyn-gadeirydd i Mrs Jean Jones.

 

TEYRNGEDAU

Bu arweinwyr y Gr?p Annibynnol, Gr?p Plaid Cymru a'r Gr?p Llafur yn talu teyrnged i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol am ei wasanaeth ardderchog i'r Cyngor.  Cyfeiriwyd yn benodol at y modd rhagorol yr oedd y Cynghorydd Jones wedi cadeirio cyfarfodydd y Cyngor. Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i'r Cadeirydd oedd yn Ymddeol, a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o gefnogol i waith y Cyngor.

 

 

5.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19

Arôl y penodiadau uchod bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y cyfarfod yn torri tan 1.30 p.m. pryd y rhoddir sylw i'r materion sydd yn weddill ar yr agenda.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd R. James ac eiliwyd gan y Cynghorydd J.Tremlett a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd K. Madge yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2018/19. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. Madge ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol. 

 

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Gydymaith ar eu penodiad. 

Cyflwynwyd Cadwyn y Swydd i gydymaith y Cadeirydd, Mrs Catrin Madge, gan Gydymaith y Cadeirydd Mrs Bethan Charles-Davies.

 

6.

GOHIRIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd, eiliwyd hynny gan yr Is-gadeirydd, a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gohirio gweddill y materion ar yr agenda tan 1.30pm yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

7.

Y CYFARFOD YN AILYMGYNNULL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Roedd y Cyngor wedi ailymgynnull yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.30 p.m.

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd J.M. Charles (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

F. Akhtar, S.M. Allen, L.R. Bowen, K.V. Broom, C.A. Campbell, J.M. Charles, D.M. Cundy, S.A. Curry, C.A. Davies, T.A.J. Davies, G. Davies, H.L. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, S.L. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, P.M. Edwards, H.A.L. Evans, L.D. Evans, R.E. Evans, W.T. Evans, A.L. Fox, S.J.G. Gilasbey, C.J. Harris, P. Hughes-Griffiths, J.K. Howell, P.M. Hughes, A. James, J.D. James, R. James, D.M. Jenkins, J.P. Jenkins, G.H. John, C. Jones, B.W. Jones, D. Jones, G.R. Jones, T.J. Jones, A. Lenny, M.J.A. Lewis, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, A.S.J. McPherson, E. Morgan, D. Nicholas, B.D.J. Phillips, J.S. Phillips, D. Price, J.G. Prosser, B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone, H.B. Shepardson, B. Thomas, D. Thomas, E.G. Thomas, G.B. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett, A.Vaughan Owen, D.T. Williams, D.E. Williams a J.E. Williams.

 

Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

M. James, Prif Weithredwr

C. Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedau

G. Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Phlant

Mrs R. Mullen, Cyfrwyddwr yr Amgylchedd

W. Walters, Cyarfwyddwr Adfywio a Pholisi

L.R. Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

P.R. Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

M.S. Davies, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd.

 

Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin 1.30 pm - 2.50 pm

 

8.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd ymddiheuriad arall am absenoldeb gan y Cynghorydd S.L. Davies.

 

9.

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 848 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei Adroddiad Blynyddol 2017-2018, a rhoddwyd copïau ohono yn ystod y cyfarfod, a oedd yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf. 

 

Hwn oedd y trydydd Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ond yr adroddiad cyntaf  ers etholiadau 2017 lle gwelwyd newid sylweddol yn y cydbwysedd grym o fewn y Cyngor. Bu'n edrych yn ôl ar y cyfnod hwn y llynedd pan groesawodd 29 o wynebau newydd i feinciau siambr y cyngor, sy'n cynrychioli dros draean o gyfanswm nifer y cynghorwyr. Er y bu cryn dipyn o sesiynau hyfforddi a seminarau sefydlu yn ystod y flwyddyn, y gobaith oedd bod gan yr aelodau newydd well dealltwriaeth o dipyn o ran sut y mae llywodraeth leol yn gweithio, a'u bod mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau hollbwysig dros y pedair blynedd sy'n weddill o'r Cyngor hwn. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd oes y Cyngor hwn yn para mwy o lawer na'r pedair blynedd sy'n weddill o'r tymor presennol.

 

Gan gyfeirio at y thema o gyni ariannol dywedodd fod arbedion ariannol wedi ceisio cael eu sicrhau ym mhob agwedd ar waith y Cyngor, a'i fod yn llawn edmygedd o staff y Cyngor am feddwl am lu o syniadau blaengar i arbed arian. Fodd bynnag, roedd y gwasanaethau wedi cael eu naddu i'r asgwrn a bellach roedd bron yn amhosibl dal ati i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Y gobaith oedd y byddai ymddeoliad y Prif Weinidog oedd ar y gorwel, yn arwain at newid mewn pwyslais a byddai Llywodraeth Leol yn cael ei amddiffyn rhag toriadau pellach. Serch hynny, er iddo fod yn gyfnod anodd, roedd llawer wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin dros y 12 mis diwethaf ac roedd yn bosibl teimlo'n gadarnhaol iawn am y dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at amcanion Rhaglen TIC i feddwl ac ymddwyn yn wahanol a thrwy hynny hefyd weithredu'n wahanol. Hyd yn hyn roedd wedi helpu i nodi a chyflawni tua £12 miliwn o arbedion ariannol gwirioneddol ac arbed costau. Roedd llawer o welliannau yn digwydd ar draws yr Awdurdod ochr yn ochr â Rhaglen TIC, a llynedd gydag awydd i gydnabod a gwobrwyo hynny, lansiwyd seremoni wobrwyo TIC ym mis Gorffennaf.  Rhoddwyd pump o brosiectau ysbrydoledig ar y rhestr fer, a'r enillydd cyffredinol oedd aelodau'r Tîm Dewisiadau Tai am y modd y bu iddynt wella eu systemau o ran rhoi ystod eang o gyngor i bobl y mae arnynt angen tai. Roedd TIC hefyd wedi cefnogi menter gorfforaethol allweddol o ran trawsnewid digidol sy'n cwmpasu rhaglenni 'newid sianel' er mwyn ehangu'r modd y gallai trigolion ryngweithio gyda gwasanaethau drwy greu cyfrif a rheoli'r gwasanaethau ar-lein. Lansiwyd menter allweddol o ran gweithio hyblyg hefyd a fyddai'n gwneud gwell defnydd o dechnoleg a swyddfeydd yr awdurdod gan roi mwy o hyblygrwydd i staff wrth weithio a darparu gwasanaethau. Er mwyn helpu ysgolion i wneud arbedion i ddiogelu cyrhaeddiad ac addysg disgyblion crëwyd swydd TIC penodol ar gyfer ysgolion a rhoddwyd rhaglen ar waith i nodi'r arbedion posibl y gallai, ac yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

CADARNHAU PENODI AELODAU I BWYLLGORAU'R CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried aelodaeth bresennol y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill, ac aelodau presennol y pwyllgorau hynny. Cadarnhaodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol nad oedd unrhyw newidiadau yn yr aelodaeth ychwanegol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo aelodaeth ac aelodau'r Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2018/19, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

11.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU A DDAETH I LAW AR GYFER PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU / PANELAU Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19 pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol RhGG 17.6, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2018/19. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2018/19:-

 

PWYLLGOR/PANEL

Y CADEIRYDD

YR IS-GADEIRYDD

Y Pwyllgor Craffu - Cymunedau

Y Cynghorydd S.L. Davies

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant

Y Cynghorydd D. Price

Y Cynghorydd  E.G.Thomas

Y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

Y Cynghorydd J.D. James

Y Cynghorydd A. Davies

Y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau

Y Cynghorydd A.G. Morgan

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Y Cynghorydd G.Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

Pwyllgor Apêl

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Cynghorydd S.M.  Allen

Pwyllgor Penodi "A" – Cyfarwyddwyr

Y Cynghorydd E. Dole

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Pwyllgor Penodi "B" ar – Penaethiaid Gwasanaeth

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Y Cynghorydd E. Dole

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Y Cynghorydd S. Curry

Y Cynghorydd W.T. Evans

Y Pwyllgor Cynllunio

Y Cynghorydd A Lenny

Y Cynghorydd H.I. Jones

Y Pwyllgor Trwyddedu

Y Cynghorydd  E.G.Thomas

Y Cynghorydd D.E.Williams

Y Pwyllgor Penodi Aelodau

Y Cynghorydd A.D.T. Speake

Y Cynghorydd W.R.A. Davies

Y Panel Adolygu Tai

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D.E.Williams

Diangen

 

12.

CYFANSODDIAD Y CYNGOR pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynghori, yn gyfansoddiadol, fod ganddo dros fabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Cynghorwyr ond bellach y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn dynodi'r cyfansymiau i'w talu gyda'r nod o ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson o ran cydnabyddiaeth i gynghorwyr. Bu'r Cyngor yn ystyried newidiadau ar gyfer 2018/19 yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2018.  Roedd copi o'r Cynllun Lwfansau a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer 2018/19 oedd wedi ei ddiwygio ar gyfer ei weithredu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 ynghlwm wrth yr adroddiad i'w ystyried.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diwygiadau ychwanegol er mwyn adlewyrchu argymhellion Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn ystod ei gyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror a 20 Ebrill 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1 Diwygio Rhan 4.1 o'r Cyfansoddiad i egluro bod angen cynigydd ac eilydd ar gyfer Rhybuddion o Gynnig a chaniatáu i Rybuddion o Gynnig gael eu cyflwyno'n electronig. (RhGC 12.1);

12.2 Mabwysiadu'r Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2018/19 (Rhan 6.1) yn amodol ar gynnwys y canlynol:-

a)    bod Cadeirydd y Cyngor, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd yr Wrthblaid a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol (Adran 4.5 - Dyletswyddau Cymeradwy);

b)   bod Cynghorydd yn mynychu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau y mae'r Cynghorydd wedi’i benodi neu wedi’i enwebu'n ffurfiol gan y Cyngor i'w mynychu mewn rôl Hyrwyddwr neu Lysgennad e.e. Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Llysgennad Anabledd ac ati (Adran 4.5 – Dyletswyddau Cymeradwy);

c)    Disgrifiad o rôl Llysgennad/Hyrwyddwr (Atodiad D);

12.3 Cymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad o ran aelodaeth a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod; 

12.4 bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen;

12.5 yn amodol ar  12.1 – 12.4 uchod, bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei fabwysiadu ar gyfer 2018/19.

 

13.

AELODAETH PANELAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1 nodi bod y Gr?p y Blaid Lafur wedi enwebu'r Cynghorydd Deryk Cundy i olynu'r Cynghorydd Jeff Edmunds ar Gr?p Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad;

 

13.2 nodi bod Gr?p y Blaid Lafur wedi enwebu'r Cynghorydd Rob James i olynu'r Cynghorydd Jeff Edmunds ar y Panel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâl .