Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 11eg Gorffennaf, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, P. Edwards,
C. Evans, R. Evans, C.J. Harries, A. James, T.J. Jones, G. Thomas ac
A.D.T. Speake.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi mynd iddynt wrth gynrychioli'r Cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • agoriad swyddogol dwy ysgol gynradd mewn adeiladau newydd a chyffrous - Penrhos yn Llanelli a Thrimsaran, ac ar yr un pryd roedd disgyblion yn mynychu ysgol newydd Porth Tywyn am y tro cyntaf;
  • agoriad cylch beicio newydd ym Mharc Gwledig Pen-bre, cynllun cyffrous a fyddai'n adnodd gwerthfawr i blant a phobl ifanc;
  • agoriad prynhawn llawn digwyddiadau ym Mhorth Tywyn, a drefnwyd yn effeithlon gan Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn er mwyn nodi 90 mlynedd ers i Amelia Earhart lanio oddi ar yr arfordir ger Pwll;
  • dechrau ras 10k Rhydaman ar 8 Gorffennaf 2018, lle cymerodd tua 300 o bobl ran yn y tywydd twym; 
  • te prynhawn yn Neuadd Gymunedol Llanarthne i godi arian ar gyfer creu cofeb barhaol yn y pentref i gofio'r plwyfolion a gollodd eu bywydau yn ystod y rhyfeloedd;
  • agorwyd coedwigoedd coffa yng Nghoed Ffos Las gan y Dywysoges Frenhinol, a chynhaliwyd digwyddiad yn Ysbyty'r Tywysog Phillip gyda'r Cynghrair Cyfeillion i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed; 
  • ymwelodd Tywysog Cymru a Duges Cernyw â Rheilffordd Calon Cymru er mwyn dathlu pen-blwydd y Rheilffordd yn 150 oed;
  • llawer o ddigwyddiadau eraill ar draws Sir Gaerfyrddin gan gynnwys Gwasanaethau Dinesig, Ffeiriau Haf, G?yl Afon - Caerfyrddin, a diwrnodau graddio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Estynnwyd llongyfarchiadau i Mrs Pat Thomas, sef cadeirydd presennol Cyngor Cymuned Dyffryn Cennen, a Mrs Beryl Owens, gan eu bod wedi cael eu henwebu i gael Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol Jo Cox Cymru ar gyfer eu gwaith yn ardal Trap/Llandyfân.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i Gylch Meithrin Felin-foel, gan mai hwn oedd y Cylch cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr aur Safonau Serennog gan Fudiad Meithrin.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 13EG MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 491 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS I'R CYNGHORYDD PHILIP HUGHES, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS DDIOGELU'R CYHOEDD

A allai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu'r cyhoedd roi datganiad ynghylch y camau gweithredu y mae'r Cyngor wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r pla o glêr yn Llanelli, gan gynnwys pryd gafodd y Cyngor wybod am y broblem i gychwyn, pryd wnaeth ymateb, a manylion unrhyw gyngor arbenigol a gafwyd ynghylch y broblem?

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor fod y cwestiwn hwn wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG Y PHLANT

Dros ddwy flynedd, talodd darparwr athrawon cyflenwi mwyaf Cymru bron i £1 miliwn i ddau gyfarwyddwr. Eto, mae cyflogau ac amodau athrawon cyflenwi gryn dipyn yn is nag ar gyfer staff parhaol. O ganlyniad i'r annhegwch hwn cynhelir gwrthdystiad yng Nghaerdydd ar y 7fed o Orffennaf.

Beth mae'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant yn ei wneud i drefnu bod athrawon cyflenwi yn cael eu comisiynu a'u cyflogi trwy drefniadau eraill, gan gynnwys eu cyflogi'n uniongyrchol?

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Dros ddwy flynedd, talodd darparwr athrawon cyflenwi mwyaf Cymru bron £1 miliwn i ddau gyfarwyddwr. Eto, mae cyflogau ac amodau athrawon cyflenwi gryn dipyn yn is nag ar gyfer staff parhaol. O ganlyniad i'r annhegwch hwn cynhelir gwrthdystiad yng Nghaerdydd ar 7 Gorffennaf. Beth mae'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant yn ei wneud i drefnu bod athrawon cyflenwi yn cael eu comisiynu a'u cyflogi trwy drefniadau eraill, gan gynnwys eu cyflogi'n uniongyrchol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Hoffwn ddechrau gan ddweud bod athrawon cyflenwi yn adnodd hanfodol i'n hysgolion. Wrth gwrs, maent yn gwneud gwaith cyflenwi pan fydd athrawon yn sâl ac felly maent yn sicrhau bod addysg yn parhau i gael ei rhoi pan fydd yr athro/athrawes arferol yn yr ysgol yn absennol.  Ond wrth gwrs, mae angen athrawon cyflenwi arnom pan fydd ein hathrawon yn mynd ar gyrsiau ac mae'r cyrsiau hyfforddiant hynny yn rhan hanfodol o ddatblygiad yr unigolion hynny.  Mae'n bwysig bod ein hathrawon yn datblygu eu sgiliau ac felly gallwch weld bod athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o lwyddiant ein system addysg.

 

Mae dod o hyd i athrawon cymwysedig da yn gallu bod yn anodd iawn, ar adegau gall fod yn amhosibl, felly mae'n bwysig bod gennym ryw fath o system ar waith.

 

Rwyf yn barod i gyfaddef heddiw fod yna anawsterau, felly gallaf sicrhau'r Cynghorydd Bill Thomas fy mod i a'r Adran yn nodi hyn a gwaith Llywodraeth Cymru.  Rydym eisiau gweld ateb i'r sefyllfa anodd hon.  Rydym wedi dosbarthu'r dogfennau a'r canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac ESTYN.  Gallwch gael copïau o'r rheiny os ydych yn dymuno.  Fodd bynnag, y peth pwysig yw bod athrawon yn gymwysedig ar gyfer y gwaith.

 

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Beth mae Llafur Cymru yn ei wneud i sicrhau bod athrawon cyflenwi'n cael cyflog teg?  Sefydlwyd gweithlu gweinidogol ym mis Mehefin 2016, a chafwyd adroddiad ym mis Chwefror 2017, a ddiweddarwyd ym mis Medi y llynedd gan Kirsty Williams, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.  Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am fodelau eraill o glyfogi athrawon cyflenwi. 
Ar hyn o bryd, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n pennu graddfa gyflog a chylch gwaith athrawon cyflenwi.  Gallai ddod yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, a gobeithiaf y bydd hynny'n digwydd.  Rydym wedi cael gwybod mai'r adeg gynharaf y gellir trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwn fydd mis Medi y flwyddyn nesaf.  Blwyddyn i fis Medi. 

 

Ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn rhan o gynllun peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n helpu'r athrawon hynny sydd newydd gymhwyso.  Y nod yw rhoi cymorth iddynt fynd ar yr ysgol yrfaol; mae'n hynod bwysig gael y swydd gyntaf honno.  Hoffem gynyddu ein galluoedd o ran addysgu.  Mae 11 sir wedi dangos diddordeb yn y cynllun peilot hwn ac rwyf yn falch iawn o ddweud ein bod ni yn Sir Gaerfyrddin yn un o'r rheiny.  Rydym yn gweithredu'r cynllun hwn yn Ysgol Coed Cae yn Llanelli.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

7.

TAITH PRYDAIN 2018 pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Ian Jones, Pennaeth Hamdden, a gafodd wahoddiad i roi cyflwyniad i'r Cyngor ynghylch Taith Prydain.

 

Rhoddodd y cyflwyniad y wybodaeth ddiweddaraf am fanteision a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â Thaith Prydain 2018, a fyddai'n dechrau yn Sir Gaerfyrddin ar 2 Medi 2018. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun rheoli'r digwyddiad, a oedd gyda'r nod o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd hyrwyddo ar gyfer y Sir. 

 

Esboniodd y Pennaeth Hamdden fod Taith Prydain, a elwir yn Daith Prydain OVO Energy at ddibenion noddi, yn ras feicio aml-gam ar ffyrdd Prydain, lle bydd cyfranogwyr yn rasio ar draws Prydain Fawr i gwblhau'r ras yn yr amser cyflymaf.  Roedd cymal cyntaf ras Taith Prydain yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn mynd ymlaen i Gaerfyrddin, hyd at Ddyffryn Tywi ac o Lanymddyfri hyd at ddiwedd y cymal yng Nghasnewydd, Gwent. 

 

Er mwyn cael gwell syniad o'r hyn y mae Taith Prydain yn ei gynnwys, cafodd yr Aelodau gyfle i wylio clip fideo byr o Daith Prydain 2017.

 

Ar sail data o Arolwg Effaith Economaidd 2015 ynghylch llwybr Cymal 1 o Feaumaris i Wrecsam, gallai'r effaith economaidd bosibl yn sgil y ras hon roi hwb o £4.5m i'r economi gan roi cyfle rhagorol i'r Sir.  Yn ogystal, byddai'r digwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw mewn 125 o wledydd ledled y byd.

 

Rhoddodd y Pennaeth Hamdden fanylion am lwybr Cymal 1 fel y nodwyd ar y map yn y cyflwyniad.  Rhoddwyd gwybod am y digwyddiad i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned, gan eu hannog i gyd i gymryd rhan, a oedd wedi cynhyrchu llawer o ymatebion a syniadau cadarnhaol. Byddai'r rhain yn cael eu ffurfioli a'u cynnwys yng nghynllun rheoli'r digwyddiad.  

 

Roedd llawer iawn o waith hyrwyddo a gweithredu wedi'i wneud mewn ysgolion a chymunedau er mwyn codi ymwybyddiaeth ac adeiladu momentwm wrth baratoi at ddechrau'r digwyddiad.  Byddai crysau-T i wirfoddolwyr a chrysau polo i staff yn hyrwyddo'r digwyddiad.  Yn ogystal, roedd crys beicio proffesiynol, a oedd yn cael ei arddangos, wedi'i ddylunio i ddathlu Taith Prydain yn Sir Gaerfyrddin, a byddai ar gael i'w brynu ar-lein yn adran Taith Prydain ar wefan y Cyngor.

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb ac ar ôl hynny diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am gyflwyniad rhagorol a llawn gwybodaeth.

 

 

 

8.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON

“Gofynnaf i'r Cyngor hwn gadarnhau'r cynnig hwn bod bagiau glas ar gyfer ailgylchu'n cael eu gwneud yn fwy trwchus a chryf."  Byddai hyn yn fwy cost effeithiol ac yn fwy addas i'r diben.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Gofynnaf i'r Cyngor hwn gadarnhau'r cynnig hwn bod bagiau ailgylchu glas yn cael eu gwella drwy ddefnyddio deunydd mwy trwchus a chryfach." Byddai hyn yn fwy cost effeithiol ac yn fwy addas i'r diben.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Cynigydd, gyda chefnogaeth ei eilydd, siarad o blaid y Cynnig a bu iddo amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn erbyn y Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.


 

 

9.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 608 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2018, sy'n pennu'r amcanion a'r fframwaith polisi a strategaeth ar gyfer rheoli'r rhwydwaith priffyrdd, sy'n cydymffurfio ag argymhellion y Côd Ymarfer newydd – Seilwaith Priffyrdd sy'n cael ei Reoli'n Dda.  Yn ogystal, yn unol â'r Côd Ymarfer, mae'r Cynllun yn nodi mabwysiadu dull seiliedig ar risg er mwyn rhoi adnoddau i'r ardaloedd lle mae'r angen mwyaf a lle byddai buddsoddi yn rhoi'r gwerth gorau.

 

Esboniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y Cynllun yn cynnwys pedair rhan allweddol a oedd yn cynnwys y strategaeth a'r polisi, fframwaith rheoli, datganiad blynyddol o gyflwr a buddsoddiadau, a fyddai'n llywio'r gwaith o lunio llawlyfr cynnal a chadw ar gyfer elfennau amrywiol asedau'r priffyrdd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Gofynnwyd a oes unrhyw reswm pwysig pam nad oedd y Cynllun wedi mynd gerbron y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.  Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd nad yw Rhan 4 wedi'i llunio eto fel Llawlyfr Cynnal a Chadw a fyddai'n manylu ar y ffordd o reoli elfennau unigol ac y byddai'n fwy priodol i'r Pwyllgor Craffu cyfrannu at y maes hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

“cymeradwyo Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2018”

 

 

9.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2017-2018 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2017 (gweler Cofnod 16), ei fod wedi mabwysiadu Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18. Yn unol â'r polisi hwnnw, cafodd y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod at 2 Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 12), yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn amlinellu gweithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod 2017/2018 ac yn crynhoi'r gweithgareddau oedd wedi digwydd yn ystod 2017/2018 o dan y penawdau canlynol:   Buddsoddiadau; Benthyca; Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth; Prydlesu ac Aildrefnu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Bod Adroddiad Blynyddol 2017/18 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys yn cael ei dderbyn”.


 

 

 

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

GWEITHIO'N DDI-BAPUR pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gais y Cadeirydd, cafodd yr eitem hon ei gohirio tan gyfarfod nesaf y Cyngor.

 

 

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 4 MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas â Chofnod 14, Grant Gwisg Ysgol, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd a oedd yn cynyddu'r lwfans o £105 i £125 fesul disgybl dosbarth derbyn a blwyddyn 7 ers cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 4 Mehefin 2018.  Gofynnwyd a allai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg sicrhau bod y £15k a glustnodwyd eisoes yn cael ei gadw er mwyn gwella cynllun Llywodraeth Cymru, drwy estyn y cynnig i ddisgyblion blynyddoedd eraill.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg y byddai'r Awdurdod yn tynnu'r cynnig gwreiddiol yn ôl ac y byddai'n ailystyried defnyddio'r cyllid hwn, o ystyried cynnig newydd Llywodraeth Cymru i gynyddu'r grant a fyddai'n cynnwys cyfarpar chwaraeon a dillad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

 

12.

AELODAETH PWYLLGORAU:

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol gan y Gr?p Llafur wedi dod i law a

 

PHENDERFYNWYD nodi bod y Cynghorydd Fozia Akhtar yn cymryd lle'r Cynghorydd Andre McPherson ar y Pwyllgor Trwyddedu.

 

[Sylwer: Ar yr adeg hon, gohiriwyd y cyfarfod er mwyn galluogi Mr D T. Davies OBE MM a'i deulu i ddod i mewn i'r Siambr]

 

 

13.

CYFLWYNO RHYDDFRAINT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN I MR DAVID TOM DAVIES OBE MM, BERLLAN FACH, DRYSLWYN, CAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Ailymgynullodd y Cyngor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.35am]

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Siambr y Cyngor i Mr David Tom Davies OBE MM, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.  

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y penderfyniad unfrydol a wnaed gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2018 (gweler Cofnod 11) i gyflwyno Rhyddfraint Sir Gaerfyrddin i Mr David Tom Davies OBE MM er mwyn cydnabod ei gofnod hir a nodedig o wasanaethu'r cyhoedd yn Llywodraeth Leol Cymru.

 

Bu Mr David Tom Davies, a gaiff ei alw'n 'D.T' gan bawb, yn gwasanaethu fel Cynghorydd ar gyfer Llandeilo a'r ardal gyfagos rhwng 1970 a 2003.  Cafodd Mr Davies ei ethol gyntaf fel Cynghorydd Sir ar yr hen Gyngor Sir Caerfyrddin yn 1969. Parhaodd fel Cynghorydd Sir ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974 wrth i Gyngor Sir Dyfed ddod i fodolaeth yn swyddogol yn 1976. 

Yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu Cyngor Sir Dyfed bu Mr Davies yn Gadeirydd y Cyngor yn 1981-82 ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg am nifer o flynyddoedd. Parhaodd ei yrfa drwy gyfnod arall o ad-drefnu awdurdodau lleol ugain mlynedd yn ddiweddarach gan ddod yn Gadeirydd cyntaf y Cyngor Sir Caerfyrddin presennol yn 1996. 

Bu Mr Davies hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llangathen am dros 40 o flynyddoedd ac yn aelod o fwrdd llywodraethwyr Ysgol Tre-gib.   Bu’n allweddol i sefydlu’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne ac yn ddiweddarach Gerddi Aberglasne. 

Clywodd y Cyngor am ddigwyddiadau nodedig ym mywyd Mr Davies, gan gynnwys cyfnod o amser pan gafodd ei gadw yn garcharor rhyfel ym Mrwydr Creta yn 1941 a threuliodd dair blynedd yn garcharor yn Awstria a Hwngari. Hefyd, cafodd ei ddal yn garcharor yng ngwersyll crynhoi Zemun ger Belgrade.

 

Roedd y Cynghorydd Cefin Campbell, sydd yn gwasanaethu ward Llanfihangel Aberbythych erbyn hyn, ymhlith y rheiny a enwebodd Mr Davies ar gyfer y Rhyddfraint Anrhydeddus.  Siaradodd y Cynghorydd Campbell am ymrwymiad anhunanol Mr Davies i'w gymuned a'i allu fel Cadeirydd, yn ogystal â'i natur benderfynol a'i wytnwch arbennig yn ei wasanaeth yn y rhyfel.

 

Yn ogystal, cydnabuwyd bod Mr Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed heddiw.

 

Er mwyn cydnabod a nodi ei gyfraniad enfawr at wasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, cynigiwyd cyflwyno Rhyddfraint Sir Gaerfyrddin i Mr Davies.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y sgrôl a nodir y dyfyniad canlynol:-

 

"Sir Gaerfyrddin - Er mwyn cydnabod gwasanaeth nodedig a rhagorol a roddwyd i'r sir, penderfynwyd yng nghyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 13 Mehefin 2018 gyflwyno Rhyddfraint y Sir i D.T. Davies. Rhoddwyd sêl gyffredin Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw ar 11 Gorffennaf ym mhresenoldeb D.T. Davies, y Cynghorydd J.M. Charles, Cadeirydd y Cyngor a Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor."

 

Cyflwynodd y Cadeirydd Ryddid Sir Gaerfyrddin i Mr David Tom Davies OBE MM yn ffurfiol.


 

Talodd yr aelodau deyrnged i Mr Davies, gan gydnabod ei ymrwymiad dros gyfnod o 50 mlynedd i'r Cyngor, i'w gymuned ac i lywodraeth leol Cymru.  Roedd yn uchel ei barch ac roedd pawb bob amser yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.