Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.R. Bowen, R.E. Evans, D. Harries, T.J. Jones, A.D.T.  Speake, G.B. Thomas a J.E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnwyd llongyfarchiadau i:-

 

·       staff Adain Cadwraeth Cefn Gwlad Adran yr Amgylchedd a oedd yn ddiweddar wedi derbyn gwobr Canmoliaeth Uchel gan Wobrau Cynllunio Cymru am Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr - Canllawiau Cynllunio Atodol a Phrosiect Britheg y Gors

 

·       Johnny Clayton, un o weithwyr yr Awdurdod, a oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Deyrnas Unedig ac a oedd ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn un o 25 chwaraewr dartiau gorau'r byd.

 

·       Estynnwyd llongyfarchiadau i Niall Maxwell o Langeler a oedd yn ddiweddar wedi ennill Gwobr T?'r Flwyddyn Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain 2017 ac awgrymwyd bod llythyr yn cael ei anfon ar ran yr Awdurdod i'w longyfarch.

 

·       Cennydd a Dafydd Hywel a fu'n cynrychioli Cymru yn ddiweddar gan ennill Pencampwriaethau Bowlio Mat Byr mewn Parau Prydain, a hefyd Gethin ac Aled Edwards a enillodd, ynghyd â Cennydd a Dafydd, Bencampwriaeth Bowlio Taylor y Byd yn y categori 4 bob ochr.

 

Estynnwyd gair o werthfawrogiad i'r canlynol:-

 

·       y gwasanaethau brys a staff y Cyngor yn ystod y tân diweddar yng Nghlôs Gransby, Llanelli.  Mynegwyd diolch hefyd i'r Pennaeth Tai, ynghyd â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai a thîm ymateb brys yr Awdurdod ar gyfer tai, a fu'n cynorthwyo ar y noson ac a ddarparodd lety i'r preswylwyr.

 

·       staff yr Is-adran Priffyrdd a fu'n gweithio drwy'r nos i sicrhau bod ffyrdd yr Awdurdod yn cael eu graeanu yn ystod y cyfnod o dywydd gwael yn ddiweddar.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i'r canlynol:-

 

·       Y Cynghorydd Eirwyn Williams a oedd ar hyn o bryd yn gwella gartref ar ôl cael llawdriniaeth yn ddiweddar.

 

·       Côr Ieuenctid Sir Gâr ac Ensemble Pres Sir Gaerfyrddin a oedd yn mynd i gymryd rhan yng Ngwasanaeth Carolau'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn nes ymlaen y noson honno.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 15EG TACHWEDD, 2017. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2017 a'u llofnodi fel cofnod cywir, yn amodol ar dynnu enw'r Cynghorydd Deryk Cundy o'r rhestr o aelodau oedd yn bresennol.

 

5.

CYFLWYNIAD INSIGHT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor bod nifer o ddisgyblion o Ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn digwyddiad yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli, a drefnwyd gan y Cyngor. Roedd y digwyddiad blynyddol yn rhoi cipolwg i'r disgyblion ar y penderfyniadau anodd sy'n wynebu awdurdod lleol o safbwynt mynd ati i bennu'r gyllideb, ac yn caniatáu iddynt edrych ar amrywiol gynigion cyllidebol a chyflwyno argymhellion yn rôl y Bwrdd Gweithredol.

 

Er mwyn i'r Cyngor gael blas o'r cyflwyniadau a'r cyfraniadau a wnaed, cafodd y Cyngor sylwadau gan ddisgyblion a gynrychiolai'r ysgolion canlynol:-

 

Dyffryn Aman

Bro Dinefwr

Bro Myrddin

Glanymôr

Maes y Gwendraeth

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

 

Cyflwynodd yr Arweinydd y disgyblion o bob ysgol ac, yn dilyn eu cyflwyniadau, diolchodd iddynt am eu presenoldeb.

 

</AI5>

 

6.

CYFLWYNIAD FIDEO - GOFALWYR SY'N OEDOLION IFANC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dangoswyd fideo byr i'r Cyngor a oedd yn rhoi'r cefndir i ddeiseb a gyflwynwyd gan ofalwr ifanc yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cafodd pob un o'r aelodau ei annog i lofnodi'r Ddeiseb Gofalwyr Ifanc a oedd yn ceisio newid y gyfraith i ganiatáu i ofalwyr astudio mwy na 21 awr yr wythnos a hawlio Lwfans Gofalwyr.

 

 

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

8.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDREW JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd gan Gymru filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn darged uchelgeisiol, serch hynny rhaid ei drin fel her i bob un ohonom. Gallwn ni yn Sir Gaerfyrddin gyfrannu'n helaeth at y targed hwn, a byddwn yn gwneud hynny, ond dim ond os yw'r darpariaethau cywir a'r cymorth addysg iawn ar gael.  Mae Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo yn ysgol ddwyieithog categori 2b. Gall disgyblion dderbyn eu haddysg yn Gymraeg, Saesneg neu gyfuniad o'r ddwy iaith. Mae hyn yn golygu bod angen staff addysgu ychwanegol i addysgu ar bob lefel blwyddyn er mwyn bodloni'r gofynion sydd ynghlwm wrth y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy'r Ysgolion Cyfrwng Cymraeg hyn yr eir ati i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Er mwyn gwneud hynny, mae angen cynnal adolygiad llawn o'r fformiwla ar gyfer cyllido ysgolion. Os yw Llywodraeth Cymru am i'r bobl siarad ein hiaith, rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth briodol ar waith a bod cyllid digonol i ddarparu gwasanaethau ar gael. Os na chaiff cyllid priodol ei ddarparu, ni fydd rheidrwydd ar ysgolion 2b megis Ysgol Bro Dinefwr i gynnig yr Addysg Gymraeg lawn y mae'n ei darparu ar hyn o bryd. A allwn ni fel awdurdod ysgrifennu at Kirsty Williams, yr Aelod Cynulliad dros Addysg, yng Nghaerdydd i ofyn iddi edrych ar y sefyllfa ac adolygu'r fformiwla ariannol yn ein hysgolion?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd gan Gymru filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn darged uchelgeisiol, serch hynny rhaid ei drin fel her i bob un ohonom. Gallwn ni yn Sir Gaerfyrddin gyfrannu'n helaeth at y targed hwn, a byddwn yn gwneud hynny, ond dim ond os yw'r darpariaethau cywir a'r cymorth addysg iawn ar gael.  Mae Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo yn ysgol ddwyieithog categori 2b. Gall disgyblion dderbyn eu haddysg yn Gymraeg, Saesneg neu gyfuniad o'r ddwy iaith. Mae hyn yn golygu bod angen staff addysgu ychwanegol i addysgu ar bob lefel blwyddyn er mwyn bodloni'r gofynion sydd ynghlwm wrth y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy'r Ysgolion Cyfrwng Cymraeg hyn yr eir ati i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Er mwyn gwneud hynny, mae angen cynnal adolygiad llawn o'r fformiwla ar gyfer cyllido ysgolion. Os yw Llywodraeth Cymru am i'r bobl siarad ein hiaith, rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth briodol ar waith a bod cyllid digonol i ddarparu gwasanaethau ar gael. Os na chaiff cyllid priodol ei ddarparu, ni fydd rheidrwydd ar ysgolion 2b megis Ysgol Bro Dinefwr i gynnig yr Addysg Gymraeg lawn y mae'n ei darparu ar hyn o bryd. A allwn ni fel awdurdod ysgrifennu at Kirsty Williams, yr Aelod Cynulliad dros Addysg, yng Nghaerdydd i ofyn iddi edrych ar y sefyllfa ac adolygu'r fformiwla ariannol yn ein hysgolion?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Ydw rwyf yn llwyr ymwybodol o darged y Gymraeg erbyn 2050, ac mae hyn yn ffactor a ystyriwyd wrth lunio ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Nawr mae gennym darged o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, sydd yn uchelgeisiol dros ben, ond rydym am geisio cynorthwyo i gyrraedd y nod hwnnw ac mae hynny'n golygu y bydd yn ofynnol i'r system addysg yn lleol ac yn wir ledled Cymru chwarae rôl flaenllaw gyda golwg ar y targed hwn.  Ydy, mae ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn dweud y bydd rhaid, ie Gynghorwyr, i'n holl ysgolion yma yn Sir Gaerfyrddin symud ar hyd y continwwm iaith, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.  Rydym felly'n disgwyl i'n hysgolion cyfrwng Saesneg, ein hysgolion dwyieithog, a'n hysgolion cyfrwng Cymraeg fynd ati o ddifrif i fod yn rhan o'r agenda hon.

 

Nawr un o'r cyfarfodydd cyntaf a gefais wedi i mi gael fy mhenodi i'r swydd hon oedd ymweld ag Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo i gwrdd â'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr, a'r Cynghorydd Andrew James, a dywedwyd wrthyf yn eithaf clir fod yr ysgol yn wynebu heriau ariannol difrifol iawn a bod hyn yn ei gwneud hi'n anodd cael deupen y llinyn ynghyd.  Esboniais fod yna adolygiad ar waith o ysgolion 2B, sef y categori y mae ysgol Bro Dinefwr wedi cael ei rhoi ynddi, mewn geiriau eraill dyma'r ysgolion dwy ffrwd lle darperir addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.  Caiff 80% o'r pynciau, ar wahân i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.1

8.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I'R GYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG & PHLANT A'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS YR AMGYLCHEDD

“Er gwaethaf cryn ymdrech gan yr Adrannau Priffyrdd, Swyddogion Addysg, Athrawon, Penaethiaid, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Chynghorwyr Sir o bob plaid i sicrhau bod ein plant ysgol yn ddiogel wrth gyrraedd a gadael ein hysgolion, yn enwedig ysgolion i blant dan 11 oed, mae'r ymdrech honno'n cael ei thanseilio gan ymddygiad anystyriol rhai o warcheidwaid y plant eu hunain. Fel arfer, maent yn gwneud hyn drwy barcio'n beryglus, parcio gyferbyn â gatiau'r ysgol, parcio dwbwl, parcio ar gorneli, parcio ar y pafin, a pharcio mewn modd sy'n rhwystro ambiwlans neu injan dân rhag mynd heibio, ond yn bwysicach byth, parcio gan greu sefyllfa hynod beryglus i blant sy'n croesi'r ffordd. Yn ystod yr adegau dwl hyn o'r dydd, nid yw'r bobl sy'n achosi'r anhrefn hwn fel pe baent yn sylweddoli eu bod yn creu sefyllfa beryglus ac nid ydynt yn cymryd cyfrifoldeb dros hynny. Yn fy marn i, dim ond mater o amser yw hi cyn bod plentyn yn cael ei anafu, ei anffurfio neu ei ladd. Beth ydych yn credu y gellir ei wneud i greu amgylchedd mwy diogel i'n plant, ac i bwysleisio i'r cyhoedd bod angen iddynt gymryd mwy o ofal ac ystyried diogelwch pob plentyn wrth ollwng eu plant eu hunain yn yr ysgol a'u casglu oddi yno?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Er gwaethaf cryn ymdrech gan yr Adrannau Priffyrdd, Swyddogion Addysg, Athrawon, Penaethiaid, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Chynghorwyr Sir o bob plaid i sicrhau bod ein plant ysgol yn ddiogel wrth gyrraedd a gadael ein hysgolion, yn enwedig ysgolion i blant dan 11 oed, mae'r ymdrech honno'n cael ei thanseilio gan ymddygiad anystyriol rhai o warcheidwaid y plant eu hunain.  Fel arfer, maent yn gwneud hyn drwy barcio'n beryglus, parcio gyferbyn â gatiau'r ysgol, parcio dwbwl, parcio ar gorneli, parcio ar y pafin, a pharcio mewn modd sy'n rhwystro ambiwlans neu injan dân rhag mynd heibio, ond yn bwysicach byth, parcio gan greu sefyllfa hynod beryglus i blant sy'n croesi'r ffordd.  Yn ystod yr adegau dwl hyn o'r dydd, nid yw'r bobl sy'n achosi'r anhrefn hwn fel pe baent yn sylweddoli eu bod yn creu sefyllfa beryglus ac nid ydynt yn cymryd cyfrifoldeb dros hynny. Yn fy marn i, dim ond mater o amser yw hi cyn bod plentyn yn cael ei anafu, ei anffurfio neu ei ladd. Beth ydych yn credu y gellir ei wneud i greu amgylchedd mwy diogel i'n plant, ac i bwysleisio i'r cyhoedd bod angen iddynt gymryd mwy o ofal ac ystyried diogelwch pob plentyn wrth ollwng eu plant eu hunain yn yr ysgol a'u casglu oddi yno?”

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Diolch yn fawr iawn i chi Gynghorydd Cundy am eich cwestiwn ar fater sy'n peri pryder, a mater a all ddigwydd mewn llawer o ysgolion eraill ar hyd a lled y Sir ar adegau casglu a gollwng.  Mae hi bob amser yn ddefnyddiol i gyfeirio at Reolau'r Ffordd Fawr wrth ymdrin â materion ar y briffordd, efallai y byddai'n ddiddorol nodi fod rheol 243 yn dweud:-

Peidiwch ag aros neu barcio ger mynedfa i ysgol; dim yn unrhyw le lle y byddech yn atal mynediad i'r Gwasanaethau Brys heblaw pryd cewch eich gorfodi i wneud hynny gan draffig llonydd. 

Mae'r Cyngor, trwy'r adran Addysg a'r adran Priffyrdd, wedi parhau i weithio gyda'i bartneriaid ar ystod o ymyriadau sy'n cynnwys buddsoddi mewn llwybrau diogel gyda chymorth Cyllid Llywodraeth Cymru;  Datblygu Isadeiledd Teithio Llesol; mesurau gorfodi i atal goryrru o amgylch safleoedd ysgolion; addysg i annog ffyrdd mwy cynaliadwy ac iach o deithio i'r ysgol, megis cerdded a beicio.  Caiff ein menter bws cerdded gefnogaeth dda gan ysgolion, plant a rhieni a mesurau gorfodi rheolau parcio.  Gyda golwg ar orfodi rheolau parcio, bydd yr aelodau'n ymwybodol o'r ffaith ein bod ers y mis diwethaf wedi cymeradwyo argymhelliad bod y Cyngor yn gwneud cais am bwerau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio technoleg er mwyn gorfodi rheolau parcio ar nifer o safleoedd.  Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys ysgolion.  Bydd y pwerau yn galluogi'r Awdurdod i ddefnyddio camerâu gorfodi symudol i ddefnyddio hysbysiadau tâl cosb, ble mae pobl yn parcio ac wedyn yn mynd yn groes i unrhyw orchymyn rheoleiddio traffig sydd mewn grym.  Bydd hyn helpu i wella'r sefyllfa, ond yn y pen draw y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.2

8.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LIAM BOWEN I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“A fyddai'n bosibl cael gwybod beth yw'r trefniadau presennol ar gyfer Ysgol Bancffosfelen o ran arweinyddiaeth yr ysgol?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Liam Bowen wedi anfon ymddiheuriad ar gyfer y cyfarfod ac roedd wedi gofyn am gael ateb ysgrifenedig.

 

8.4

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"Mae trigolion a thimau chwaraeon lleol yn poeni am y cyhoeddiad diweddar fod y bwriad y cytunwyd arno i drosglwyddo asedau o ran Caeau Chwarae Penygaer wedi ei atal am y tro, hyd nes y ceir canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cais am faes pentref ar Gaeau Chwarae Llanerch. A fyddai'r Arweinydd cystal ag amlinellu pa gyngor cyfreithiol a gafwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a awgrymai y dylid oedi o ran trosglwyddo'r ased?" 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Mae trigolion a thimau chwaraeon lleol yn poeni am y cyhoeddiad diweddar fod y bwriad y cytunwyd arno i drosglwyddo asedau o ran Caeau Chwarae Penygaer wedi ei atal am y tro, hyd nes y ceir canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cais am faes pentref ar Gaeau Chwarae Llanerch. A fyddai'r Arweinydd cystal ag amlinellu pa gyngor cyfreithiol a gafwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a awgrymai y dylid oedi o ran trosglwyddo'r ased?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Diolch i chi Gynghorydd James am y cwestiwn, ond mae'n fy rhoi mewn sefyllfa gymhleth oherwydd fel rheol ni fyddwn yn disgwyl i gyngor cyfreithiol manwl gael ei rannu mewn fforwm cyhoeddus, gallai fod yn amhriodol neu hyd yn oed yn rhagfarnol gwneud hynny. Fel rheol rhoddir hynny mewn sesiwn gaeedig, ond cyn belled ag y mae eich cwestiwn yn priodoli'r oedi mewn trosglwyddo asedau i'r cais am faes pentref ac i hynny yn unig, fy nealltwriaeth i yw bod hynny yn anghywir yn yr ystyr mai dim ond un o'r materion dan sylw yw hyn.

 

Fy nealltwriaeth i o'r mater yw bod yna nifer o ffactorau anhysbys ar hyn o bryd yn cynnwys, er enghraifft, y gallai fod yna wrthwynebiadau i'r cais cynllunio, y gallai fod yna Adolygiad Barnwrol, y ffaith nad yw'r Adran Addysg yn dal i wybod pa ran a faint o Gae Penygaer fyddai ei angen i ddarparu cyfleusterau ar gyfer y ddwy ysgol, ar gyfer Ysgol Dewi Sant ac ar gyfer Ysgol Penygaer hefyd, pe bai Ysgol Dewi Sant yn y pen draw yn cael ei hadeiladu ar y Llanerch. Dyma'r cefndir cyflawn y tu ôl i gyngor y cyfreithwyr mewnol i beidio â throsglwyddo unrhyw fuddiant yn y tir ar y cam hwn ac i gadw cymaint o reolaeth dros y tir ag y bo modd, tan fod y holl faterion wedi'u datrys.”

 

 

 

 

8.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

“A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol roi cadarnhad i mi y caiff y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ei gefnogi'n effeithiol er mwyn sicrhau bod y gofal rydym yn ei ddarparu i'n pobl fwyaf bregus yn dal i fod o'r safon uchaf.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol roi cadarnhad i mi y caiff y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ei gefnogi'n effeithiol er mwyn sicrhau bod y gofal rydym yn ei ddarparu i'n pobl fwyaf bregus yn dal i fod o'r safon uchaf.”

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

“Diolch i chi Gynghorydd Lloyd am y cwestiwn.  Mae recriwtio a chadw'r gweithlu hwn ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn her ledled Cymru.  Dyma'r bobl sy'n gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac sy'n ymroi i sicrhau bod pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch, p'un a ydynt yn byw mewn cartref preswyl neu yn eu cartrefi eu hunain. Fel y gwyddoch, mae'n flaenoriaeth uchel i mi ac i'r adran i sicrhau bod y gweithlu gweithwyr gofal cartref a gofal preswyl yn cael eu cefnogi a'u gwobrwyo i gyflawni rolau sydd, er eu bod yn dod â boddhad, hefyd yn gofyn llawer ac yn peri straen. Mae gennym dros 2000 o staff yn ymwneud â gwaith gofal uniongyrchol ledled Sir Gaerfyrddin sy'n cwmpasu'r sectorau cartrefi gofal, gofal cartref a'r trydydd sector, sy'n golygu ei bod o bwysigrwydd strategol mawr bod yr Awdurdod yn cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol ac yn deall y materion sy'n eu hwynebu.

 

Gallaf eich sicrhau bod y gwaith o gomisiynu gwasanaethau a wneir gan fy adran yn rhoi cryn bwysigrwydd, gyda'n darparwyr gofal, ar ddarparu staff dibynadwy a thra medrus.  Un o hanfodion gwasanaethau o ansawdd uchel yw ein bod yn recriwtio ac yn cadw staff o ansawdd a gwneir pob ymdrech i'r perwyl hwn wrth weithio gyda'n darparwyr gofal ledled y sir.

 

Ddwy flynedd yn ôl lansiom fframwaith newydd ar gyfer gofal cartref.  Nodweddion allweddol y fframwaith hwn yw gosod cyfraddau cyflog rhesymol a thalu am amser teithio ar gyfer gofalwyr rhwng rolau. Un ffactor bwysig yw ein bod wedi caniatáu i ofal gael ei gyflwyno'n hyblyg i bobl drwy gydol yr wythnos, gyda'r asiantaethau yn awr wedi'u grymuso i ddarparu gofal mewn modd mwy ymatebol yn ôl angen y cleientiaid.  Mae hyn yn cymryd ymaith unrhyw fudd gweithredol i asiantaethau o dorri ymweliadau'n fyr. Yn genedlaethol mae AGGCC wedi disgrifio ein dull o gomisiynu fel un 'sydd â gweledigaeth'.  Fodd bynnag, tra bod gwaith caled wedi'i wneud gennym i wella'r sefyllfa gyffredinol, mae llawer i'w wneud o hyd.

 

Mae'r lefelau cyflog wedi codi yn y sector ac mae'r sector preifat wedi dal i fyny i raddau helaeth gyda'r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.  Fodd bynnag, er ein bod yn contractio yn ôl tâl yr awr sydd ymhlith yr uchaf yng Nghymru, mae recriwtio yn parhau i fod yn her gyda'r cyfraddau cyflog mewn sectorau eraill sy'n gofyn llai, megis adwerthu, yn aml bellach yn cyfateb i'r cyfraddau ar gyfer gwaith gofalu.  Mae sefydlu gwell strwythur gyrfaol ar gyfer y rheiny sydd mewn gwaith gofalu yn rhan hanfodol o'r cynllun ar gyfer y dyfodol.  Mae angen i ni gael pobl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.5

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES

“Fel yr Aelod Arweiniol ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a'r Llysgennad Ieuenctid, cynigiaf y Rhybudd o Gynnig hwn ar ran Cyngor Ieuenctid y Sir.  Mae'r aelodau'n unfrydol wrth geisio cefnogaeth y Cyngor i'w hymgyrch i weld yr oedran pleidleisio yn cael ei ostwng o 18 oed i 16 oed, ar gyfer pob etholiad.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Glynog Davies:-

 

“Fel yr Aelod Arweiniol ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a'r Llysgennad Ieuenctid, cynigiaf y Rhybudd o Gynnig hwn ar ran Cyngor Ieuenctid y Sir.  Mae'r aelodau'n unfrydol wrth geisio cefnogaeth y Cyngor i'w hymgyrch i weld yr oedran pleidleisio yn cael ei ostwng o 18 oed i 16 oed, ar gyfer pob etholiad.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid a bu'r cynigydd yn amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig

 

Cynigiwyd y Gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd Rob James a chafodd ei eilio:-

 

"Mae aelodau Cyngor Ieuenctid y Sir yn unfrydol wrth geisio cefnogaeth y Cyngor i'w hymgyrch i weld yr oedran pleidleisio yn cael ei ostwng o 18 oed i 16 oed, ar gyfer pob etholiad.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi safbwyntiau'r Cyngor Ieuenctid ar y mater hwn ac yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, a lansiwyd yn gynharach eleni.

 

Rydym yn addo ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, i ddatgan ein cefnogaeth i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 a chadw'r dull pleidleisio Cyntaf i'r Felin ar gyfer etholiadau llywodraeth leol."

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Gwelliant gyfle i siarad o'i blaid a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Gwelliant a'r Cynnig

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.

 

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig Terfynol a

 

PHENDERFYNWYD YMHELLACH fabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig Terfynol.

 

 

9.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON

“Gofynnaf i'r Cyngor hwn gadarnhau fy nghynnig ein bod ni, drwy gydol mis Chwefror bob blwyddyn (sef mis Hanes LGBTQ), yn codi Baner Enfys LGBTQ dros adeiladau'r Cyngor Sir i ddangos cefnogaeth i amrywiaeth yn ein cymuned.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Andre McPherson:-

 

“Gofynnaf i'r Cyngor hwn gadarnhau fy nghynnig ein bod ni, drwy gydol mis Chwefror bob blwyddyn (sef mis Hanes LGBTQ), yn codi Baner Enfys LGBTQ dros adeiladau'r Cyngor Sir i ddangos cefnogaeth i amrywiaeth yn ein cymuned.”

 

Eiliwyd y Cynnig

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Cynigiwyd y Gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd Emlyn Dole a chafodd ei eilio:-

 

“Mae'r cyngor hwn yn dathlu ac yn cefnogi'r amrywiaeth LGBTQ yn ein cymuned, ond gan fod codi unrhyw faner am fis yn groes i'r polisi presennol, mae'n rhoi cyfarwyddyd i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad, sy'n gr?p trawsbleidiol, adolygu Meini Prawf Codi Baneri'r Cyngor, a fyddai'n caniatáu i geisiadau o'r fath gael eu hystyried yn gyfreithlon.”

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd y Gwelliant siarad o blaid hynny, ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Dywedodd y Cynigydd (gyda chefnogaeth ei eilydd) ei fod yn hapus i dderbyn y newid a rhoddwyd cyfle iddo siarad o blaid y cynnig gwreiddiol a'r gwelliant.

 

Gwnaed sawl datganiad o blaid y Cynnig, fel y'i diwygiwyd, ac yn dilyn hynny daeth yn Gynnig Terfynol a PHENDERFYNWYD gan y Cyngor fod y Cynnig Terfynol yn cael ei fabwysiadu.

 

10.

PENODI AELODAU NEWYDD O'R PWYLLGOR SAFONAU. pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor adroddiad ar benodi aelodau newydd i Bwyllgor Safonau'r Awdurdod.

 

Yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau'r Cyngor, cynhaliwyd panel penodiadau i ystyried ceisiadau am ddwy swydd Aelod Annibynnol ac un swydd cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned.

 

Hysbyswyd y Cyngor bod 10 cais wedi dod i law ar gyfer y ddwy swydd Aelod Annibynnol a bod 10 enwebiad wedi'u cyflwyno gan Gynghorau Tref a Chymuned ar gyfer swydd yr Aelod o'r Gymuned.

 

Yn dilyn proses gyfweld, argymhellodd y Panel fod Mrs Daphne Evans a Mrs Julie James yn cael eu penodi'n Aelodau Annibynnol am dymor o 6 blynedd a bod y Cynghorydd Tref Phillip Rogers o Gyngor Tref Sanclêr yn cael ei benodi'n Aelod o'r Gymuned hyd at ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd fel Cynghorydd Cymuned.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

1.     Fod Mrs Daphne Evans a Mrs Julie James yn cael eu penodi'n Aelodau Annibynnol o Bwyllgor Safonau'r Awdurdod am dymor o 6 blynedd.

 

2.     Bod y Cynghorydd Tref Phillip Rogers o Gyngor Tref Sanclêr yn cael ei benodi'n Aelod o'r Gymuned tan ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd fel Cynghorydd Tref/Cymuned.

 

 

11.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGHYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2017 I MEDI 30AIN 2017. pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, wedi cymeradwyo'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2017 hyd at 30 Medi 2017, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 6 Chwefror 2017 - cofnod 9).

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol

 

‘derbyn yr adroddiad’.

 

12.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 27AIN TACHWEDD, 2017. pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gofnod 6 a chafwyd trafodaeth ynghylch y broses ar gyfer penodi aelodau i'r Bwrdd Cyfarwyddwyr a nifer y Cyfarwyddwyr a oedd i'w penodi. Atgoffwyd y Cyngor mai sgiliau a phrofiad, nid cydbwysedd gwleidyddol, oedd yr ystyriaethau pwysicaf wrth benodi Cyfarwyddwyr i'r Bwrdd, ac y byddai angen i'r Cyfarwyddwyr hefyd gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau. Byddai pob un o'r 74 Cynghorydd yn gallu ymgeisio am gael cynrychioli'r Cyngor ar y Bwrdd a byddai'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y broses benodiadau briodol.

 

PENDERFYNWYD bod adroddiad y cyfarfod uchod yn cael ei dderbyn.

 

</AI20>

<AI21>

 

13.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newid canlynol i aelodaeth pwyllgor yn unol â Rheol 2(2)(n) o Weithdrefn y Cyngor:-

 

Y Cynghorydd Dorian Phillips yn cymryd lle'r Cynghorydd Liam Bowen fel cynrychiolydd Plaid Cymru ar y Pwyllgor Cynllunio.